Rhag Gofrestru
Cyfarwyddiadau Gam wrth Gam
Y modiwlau sy'n ymddangos ar eich cofnod [blwyddyn academaidd (2024/2025)] yw'r modiwlau craidd ar gyfer eich cynllun astudio y sesiwn nesaf. Dilynwch y camau isod i rhag gofrestru ar gyfer yr holl fodiwlau yr ydych wedi eu dewis ar gyfer y sesiwn nesaf.
Cyfnod Rhag-gofrestru: Dydd Llun 13 Ionawr hyd at Dydd Gwener 17 Ionawr 2025
CAM 1 Darllenwch y Wybodaeth Gyffredinol am Rhag Gofrestru.
CAM 2 Edrychwch ar y Gofynion Adrannol ar gyfer yr holl adrannau y bwriadwch astudio ynddynt y sesiwn nesaf er mwyn sicrhau eich bod yn bodloni eu gofynion. Dylai myfyriwr cyfnewid ac ymweld (NQUG a NQPG) sicrhau eu bod yn cwblhau'r modiwlau fel y cytunwyd ar y cytundebau dysgu
CAM 3 Edrychwch ar y Gronfa Ddata Cynlluniau Astudio er mwyn gwirio beth yw gofynion eich cynllun.
CAM 4 Edrychwch ar y Gronfa Ddata Modiwlau i gael manylion am yr holl fodiwlau a ddysgir y sesiwn nesaf.
Os ydych yn bwriadu newid eich Cynllun Astudio rhaid i chi siarad a'ch adran yn gyntaf ac yna wneud cais ar-lein trwy eich Cofnod Myfyriwr. Dylech wedyn glicio ar y ddolen 'Cofnod Academaidd' ar ben eich tudalen cartref ac o'r rhestr o gysylltiadau yn y gwymplen cliciwch ar 'Newid Cofrestriad' cyn gynted â phosibl gan y bydd angen brosesu cyn y gallwch barhau.
CAM 5 Wedi i chi fewnbynnu'ch dewisiadau modiwl ar gyfer y sesiwn nesaf ar eich 'Cofnod Myfyriwr'a chlicio ar y botwm Cadarnhewch Ddewision Rhag Gofrestru cewch ragor o gyfarwyddiadau. Noder ei bod hi'n bosibl na fydd rhai modiwlau opsiwn yn rhedeg - er enghraifft, os yw'r niferoedd cofrestru yn rhy isel.
CAM 6 Bydd y dasg Rhag-gofrestru yn cau am 4yp dydd Gwener 17 Ionawr 2025.