Rhag Gofrestru
Gweler isod gwybodaeth gyffredinol ar gyfer Rhag Gofrestru 2024/2025
1. Mae modd fyfyrwyr sy’n dechrau cwrs newydd yn Brifysgol Aberystwyth gymryd rhan yn y broses Rhag-gofrestru i ddewis modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd (2024/2025).
DS. Ni fydd agen i fyfyrwyr sydd yn cymryd cyfanswm o 120 credyd o fodiwlau craidd gwblhau’r broses o rhag gofrestru oherwydd bydd eu modiwlau wedi lwytho yn awtomatig:
2. Gallwch weld manylion eich cynllun astudio a’ch modiwlau craidd ar gyfer 2024/2025 yn eich cofnod ar y we. Mae’n hanfodol eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau ar gyfer eich adran(nau) gan fod gofynion adrannau unigol yn amrywio.
3. Bydd cyfnod Rhag Gofrestru yn para o Ddydd Llun 16 Medi tan Dydd Llun 13 Ionawr 2025, ond mae'n bwysig eich bod yn wirio gofynion eich adran(nau) cyn cofnodi eich dewis o fodiwlau.
4. Dylech edrych ar y Cynlluniau Astudio a’r Modiwlau a'r y we er mwyn sicrhau eich bod yn bodloni gofynion yr adrannau ac yn cofrestru am y modiwlau perthnasol.
5. Dylech wirio’r gofynion adrannol ar gyfer cofrestru amodol, gan sicrhau eich bod wedi cymryd rhan mewn unrhyw sesiynau cynghori mae eich adran wedi'i darparu cyn nodi'ch dewis o fodiwlau ar eich cofnod myfyriwr.
6. Mae’n rhaid i chi sicrhau nad yw cyfanswm y credydau a gofnodir yn eich cofnod yn uwch na’r nifer y mae gofyn i chi eu hastudio. Bydd y mesurau gwirio isod ar waith:
• Ni fyddwch yn gallu tynnu unrhyw fodiwlau craidd o’ch cofnod. Os oes amgylchiadau arbennig sy’n golygu na fyddwch yn dilyn modiwl craidd dylech ymweld â’ch adran;
• Ni ddylech rhannu eich credydau yn fwy na 70:50 / 50:70 rhwng y ddau semester;
• Os byddwch yn cynnwys modiwl yn y semester anghywir bydd yn cael ei symud yn awtomatig i’r semester cywir;
• Ni fydd y system yn caniatáu i chi gofnodi rhagor na’r nifer o gredydau y mae’n ofynnol i chi eu dilyn y sesiwn nesaf.
7. Bydd y dasg rhag-gofrestru yn cau am 4yp dydd Gwener 17 Ionawr.
Myfyrwyr sydd eisiau Newid Cynllun Astudio.
8. Os ydych yn dymuno newid eich cynllun astudio sesiwn nesaf dylech gwblhau'r broses Newid Cofrestriad ar eich Cofnod Myfyriwr ar y we cyn gynted ag y bo modd a chyn i chi roi eich dewis o fodiwlau ar gyfer y sesiwn nesaf. Bydd RHAID i'ch cais i Newid Cofrestriad cael eu cymeradwyo gan eich adran(nau) a'u prosesu cyn y gallwch barhau â'r Cofrestru Amodol. I wneud cais i Newid Cofrestriad bydd angen i chi fewngofnodi ar eich Cofnod Myfyriwr ar y we, ac yna cliciwch ar y garden 'Gwneud Newidiadau i Fy Nghwrs' o'ch tudalen cartref.
9. Mae’n bwysig i chi roi gwybod i'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr neu unrhyw noddwr ariannol arall cyn gynted ag y bo’r newid wedi’i gymeradwyo er mwyn sicrhau y bydd eich arian yn cael ei drosglwyddo’n ddidrafferth (os ydych yn derbyn benthyciad).