Rhag-Gofrestru

Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd
 
Os byddwch yn dilyn cynllun gradd a ddysgir ar y cyd gan adran arall bydd yn rhaid ichwi sicrhau eich bod yn cydymffurfio â gofynion rhag-gofrestru yr adran honno yn ogystal.
 
Mae’r gofynion penodol ar gyfer myfyrwyr sy’n dilyn cynlluniau yn yr Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd fel a ganlyn.
 

Bydd yr Adran Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn cyhoeddi manylion Rhag-gofrestru ar safle Blackboard y modiwl ‘Gwybodaeth Israddedig: Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd / Undergraduate Information: Welsh and Celtic Studies.’ Bydd ar gael o ddydd Llun 16 Medi ymlaen. O fewn y modiwl bydd ffolder ‘Rhag-gofrestru’ a fydd yn cynnwys gwybodaeth ar gynlluniau astudio a gofynion y modiwlau ar gyfer 2024/25.  Dylech ddewis eich modiwlau yn eich cofnod myfyriwr gan ddefnyddio’r dasg Rhag-gofrestru erbyn diwedd y dydd, dydd Llun 23 Medi.

 

Cofiwch gysylltu gyda’ch tiwtor personol os oes gennych unrhyw gwestiwn ynglŷn â Rhag-gofrestru, bydd y tiwtoriaid personol ar gael i gynnal cyfarfodydd unigol trwy Microsoft Teams neu i drafod cwestiynau trwy e-bost. Mae modd hefyd i chi gysylltu’n uniongyrchol â’r adran trwy anfon e-bost at cdmstaff@aber.ac.uk.

 



Os oes gennych ymholiadau cyffredinol cysylltwch â Swyddfa Gweinyddu Myfyrwyr, Y Gofrestrfa Academaidd  Ffôn: 628515/622787    Ebost: ugfstaff@aber.ac.uk