Cofnodion Israddedigion
Newid Modiwl, Cynllun Gradd neu Dull Astudio.
Rhaid i chi lenwi Ffurflen Newid Cofrestriad, mae rhain ar gael drwy'r ddolen ar eich Cofnod Myfyriwr ar y we, neu o dudalen Materion Israddedigion, o dan y pennawd 'Ffurflenni'. Hefyd mae modd gael ffurflen gan eich adran neu gan y Swyddfa Ansawdd a Chofnodion Academaidd . Dylech gasglu llofnod yr adran allgofnodi'r ffurflen eich hun cyn ei danfon i'r Swyddfa Ansawdd a Chofnodion Academaidd (cyfeiriad isod) er mwyn gweithredu arni.
Newid eich Cyfeiriad, Enw neu Manylion Personol eraill.
Gallwch newid eich cyfeiriad a'ch manylion personol ar-lein drwy eich Cofnod Myfyriwr ar y we drwy defnyddio'r ddolen 'Personol' ar ben y eich tudalen 'Cartref'. Gallwch newid rhan fwyaf o'ch manylion personol yn syth yn ôl yr angen, oni bai am newid enw, efallai bydd angen i'r Swyddfa Ansawdd a Chofnodion Academaidd, Cofnodion Israddedigion weld dogfen brawf ar gyfer yr enw newydd. Os oes angen hyn byddwn yn gofyn i chi amdano. Fel arfer mae newidiadau i'ch enw yn cael ei newid o fewn 5 diwrnod gwaith ar ol gael gweld y ddogfen brawf.
Hysbysu Problem ar eich Cofnod Myfyriwr.
Os ydych am hysbysu gwall ar eich Cofnod Myfyriwr ac nid ydych yn medru ei newid eich hun dylech gysylltu â ni Y Swyddfa Ansawdd a Chofnodion Academaidd, Cofnodion Israddedigion drwy glicio'r ddolen 'hysbysu problem' ar waelod eich y dudalen neu danfonwch ebost at ugfstaff@aber.ac.uk .
Gweithgareddau Eraill.
Yn ystod y flwyddyn mi fyddwn yn gofyn i chi gyrchu eich Cofnod Myfyriwr ar y we i gymryd rhan mewn:
- Cofrestru ar gyfer Asesiadau Ailsefyll yr Haf yn ystod mis Awst
- Cofrestru Amodol yn ystod Ebrill/May
- Cofrestru Ar-lein ym mis Medi/Hydref
- Cofrestru Ail Sefyll yn Fewnol yn ystod y ddwy wythnos diwethaf o Hydref
Bydd rhain yn dangos fel botwm 'Tasgau' ar eich tudalen 'Cartref'. Dylech ymweld a'ch Cofnod Myfyriwr yn rheolaidd.
Os oes angen cyngor arnoch ynglŷn a'ch cofnod myfyriwr dylech gysylltu â ni drwy'r e-bost at ugfstaff@aber.ac.uk neu gallwch alw yn y Swyddfa Ansawdd a Chofnodion Academaidd, a'r y llawr cyntaf Adeilad Cledwyn, Penglais. Oriau agor:
Dydd Llun i ddydd Iau 9am i 5pm
Dydd Gwener 9am i 4pm
A'r gau bob dydd rhwng 1pm a 2pm.
A'r gau Dydd Sadwrn a dydd Sul.
Manylion cyswllt:
Cofrestrfa Academaidd
Prifysgol Aberystwyth
Adeilad Cledwyn
Penglais
Aberystwyth
SY23 3FB
Rhif ffôn: 01970 628515 neu 622787
E-bost: ugfstaff@aber.ac.uk