Archwiliad Categori 2
33. Pan fydd ffurflen yn dod i law, bydd y Dirprwy Gofrestrydd yn ystyried yr adroddiad a'r dystiolaeth, a chynnal asesiad cychwynnol. Bydd hyn yn cynnwys asesiad risg o dan ddyletswydd gofal y Brifysgol i benderfynu ar unrhyw amodau a osodir ar y myfyrwyr dan sylw o ran parhad eu statws cofrestredig wrth aros am ganlyniadau'r drefn ddisgyblu, ac o ran unrhyw ohiriad posib ar y drefn honno wrth aros am archwiliad troseddol / achos cyfreithiol.
34. Os yw'n briodol, ac os ceir cytundeb gan y myfyriwr a gyflwynodd yr adroddiad, caiff y Gofrestrfa Academaidd geisio cael datrys y mater drwy drafodaeth, os bydd pob parti yn fodlon cymryd rhan yn y trafodaethau hynny. Gellir cynnwys Swyddog Archwilio yn ystod y broses, a bydd y canlyniad yn cael ei anfon at yr holl fyfyrwyr perthnasol.
35. Ar ôl yr asesiad cychwynnol, penodir Prif Swyddog Archwilio o’r garfan o staff sydd wedi cael yr hyfforddiant priodol. Penodir Ail Ymchwilydd mewn rhai achosion cymhleth neu ar sail y nifer o dystion sydd i’w cyfweld. Mae'r Brifysgol hefyd yn cadw'r hawl i benodi Swyddog Archwilio allanol.
36. Bydd y Swyddog(ion) Ymchwilo yn gwahodd tystion i fynychu cyfweliad, gan gynnwys y myfyrwyr sy’n adrodd ac yn ymateb, a byddant hefyd yn ystyried unrhyw dystiolaeth ddogfennol. Yn ystod cyfweliadau, gall myfyrwyr ofyn i gynghorydd Undeb y Myfyrwyr i fod yn bresennol, neu unigolyn arall (un yn unig). Fel arfer ni chaniateir cynrychiolaeth gyfreithiol.
37. Pan fydd y dystiolaeth i gyd wedi'i chasglu, bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cofrestrydd Academaidd, yn cynnwys crynodeb o’r dystiolaeth, canfyddiadau ffeithiol, casgliadau ac argymhellion.