Absenoldeb Awdurdodedig i fyfyrwyr fisa
Mae'n ofynnol i'r Brifysgol fonitro ymwneud a phresenoldeb yn ystod y tymor.
Mae'n rhaid i chi ofyn am absenoldeb awdurdodedig os ydych yn mynd i fod yn absennol y tu allan i gyfnodau gwyliau cydnabyddedig.
SYLWER:
Rhaid i fyfyrwyr israddedig a myfyrwyr uwchraddedig a ddysgir trwy gwrs (yn ystod y cyfnod dysgu) ofyn am absenoldeb awdurdodedig os bydd yr absenoldeb arfaethedig yn golygu y byddant yn colli dosbarthiadau neu arholiadau/asesiadau. Nid oes angen caniatâd ar fyfyrwyr sydd wedi bod yn bresennol yn yr holl sesiynau dysgu a’r asesiadau ar gyfer y flwyddyn i ddychwelyd adref ar ddiwedd y flwyddyn goleg. Rhaid cael absenoldeb awdurdodedig os bydd myfyrwyr Israddedig/Uwchraddedig a ddysgir trwy gwrs yn colli pwyntiau cyswllt.
Sicrhewch fod ceisiadau am absenoldeb awdurdodedig wedi'u cyflwyno a'u cymeradwyo cyn cwblhau eich trefniadau teithio.
Bydd absenoldebau anawdurdodedig yn cyfrif fel pwyntiau cyswllt a gollwyd a gallent arwain at eich gwahardd o'r Brifysgol a chwtogi eich fisa. Ni roddir caniatâd ôl-weithredol fel arfer.
Mae'r broses hon yn eich diogelu chi a'ch fisa gan y byddwch yn gallu profi i swyddogion y ffin bod gennych ganiatâd i fod i ffwrdd o'r Brifysgol yn ystod y tymor.
Absenoldeb Awdurdodedig ar gyfer Ôl-raddedigion a Ddysgir ac Israddedigion yn ogystal â Myfyrwyr y Ganolfan Saesneg Ryngwladol
1. Myfyrwyr
2. Cyswllt Cydymffurfiaeth yr Adran
3. Y Swyddfa Cydymffurfiaeth
Absenoldeb Awdurdodedig ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig
1. Myfyriwr
2. Goruchwylydd Academaidd
3. Cyswllt Cydymffurfiaeth yr Adran
4. Y Swyddfa Cydymffurfiaeth
Sylwer: Os ydych chi'n teithio y tu hwnt i'r Deyrnas Unedig, rhaid ichi ddilyn y broses absenoldeb awdurdodedig er mwyn cael llythyr i'w ddefnyddio wrth deithio ac i osgoi peryglu eich fisa.
Os ydych chi'n teithio o fewn y Deyrnas Unedig, rhaid ichi ddilyn y drefn absenoldeb awdurdodedig er mwyn osgoi peryglu eich fisa.