Cydymffurfiaeth Fisâu Myfyrwyr
Tasgau cyn-gofrestru i fyfyrwyr newydd
Cyn y cewch gofrestru ar eich cwrs gyda'ch Adran, bydd angen i chi wneud y canlynol:
- Cychwyn eich cyfrif e-bost Aber;
- Ar ôl i chi gyrraedd Aberystwyth, uwch-lwythwch eich dogfennau fisa drwy eich porth myfyrwyr. Byddwch yn derbyn negeseuon e-byst rheolaidd yn egluro sut i wneud hyn;
- Os oes gennych fisa myfyriwr bydd angen i chi hefyd drefnu i gwrdd â'r Tîm Cydymffurfiaeth wyneb yn wyneb. Bydd manylion ynglŷn â gwneud hyn yn cael eu hanfon atoch. Cyn y gallwch gofrestru, bydd angen i chi gyflwyno eich dogfennau/fisa/pasbort. Bydd hefyd rhaid i fyfyrwyr nad ydynt mewn llety prifysgol ddod â phrawf o lety yn (neu o fewn 1 awr o deithio i) Aberystwyth ar ffurf contract wedi'i lofnodi / neu gadarnhad arall o gyfeiriad.
Disgwylir i bob myfyriwr gyrraedd Aberystwyth erbyn dyddiad dechrau eu cwrs.
Noder na fydd deiliaid Fisa Myfyrwyr nad ydynt yn cyrraedd Aberystwyth a chofrestru wyneb yn wyneb ar gyfer eu cwrs erbyn y dyddiad cofrestru olaf yn eu llythyr Cadarnhad Derbyn i Astudio, yn cael cofrestru a bydd nawdd eu fisa myfyriwr yn cael ei dynnu'n ôl.
Os byddwch yn wynebu trafferthion teithio, rhaid i chi gysylltu â'r Swyddfa Gydymffurfiaeth cyn gynted â phosibl.
Os ydych wedi cael llythyr gwrthod fisa rhaid i chi hysbysu'r Swyddfa Gydymffurfiaeth drwy e-bost a darparu PDF o'r llythyr hysbysu llawn.
Mae Prifysgol Aberystwyth yn 'noddwr' cofrestredig o dan y System Fewnfudo Seiliedig ar Bwyntiau. Mae hyn yn ein galluogi i ddenu a noddi myfyrwyr sy'n dod o wledydd y tu allan i'r DU/Gweriniaeth Iwerddon. Mae'r Swyddfa Gartref yn rhoi cyfrifoldebau ar fyfyrwyr a phrifysgolion i sicrhau cydymffurfiaeth â deddfau mewnfudo.
Fel noddwr, rhaid i Brifysgol Aberystwyth gyflawni'r holl ymrwymiadau sy'n ofynnol gan UKVI i'ch noddi chi fel myfyriwr. Eich cyfrifoldeb chi, fel myfyrwyr a noddir, yw cydymffurfio ag amodau eich fisa, gweler y canllawiau yn y llawlyfr: Cyfrifoldebau Deiliaid Fisa Myfyrwyr
Mae'r tîm cydymffurfiaeth yma i gefnogi myfyrwyr a'u galluogi i ddiogelu eu fisâu myfyrwyr trwy sicrhau bod rheolau fisa yn cael eu dilyn. Nid yw'r canllawiau ar y tudalennau gwe hyn yn cynnwys holl amgylchiadau a rheolau UKVI, dylai myfyrwyr gyfeirio at y dogfennau a gyhoeddir neu y cyfeirir atynt ar y tudalennau hyn am fwy o fanylion.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, cysylltwch â Cydymffurfio Compliance@aber.ac.uk.
Gwybodaeth Bwysig
- Ydych chi'n cyrraedd trwy Iwerddon?
- Y Cynllun Cymeradwyo Technoleg Academaidd (ATAS)
- Fisa Ymweld
- Gweithio wrth Astudio
Adnoddau i Fyfyrwyr Presennol
- Llawlyfr Fisa i Fyfyrwyr 2021/2022
- Student Engagement and Attendance Monitoring Policy
- Diogelu eich Fisa Myfyriwr