Adran 8.1 - Cyflwyniad

Ar y dudalen hon
Bwrdd y Ddarpariaeth Gydweithrediadol
Pam Partneriaethau?
Dogfennau Darpariaeth Gydweithredol

Mae Prifysgolion y Deyrnas Unedig (DU) yn gweithredu mewn amgylchedd sy'n fwyfwy byd-eang, ac maent yn gwneud defnydd o bartneriaid cenedlaethol a rhyngwladol i hyrwyddo nifer o gyfleoedd dysgu i fyfyrwyr.

Egwyddorion canllaw gan Asiantaeth Sicrhau Ansawdd y DU - Cod Ansawdd Addysg Uwch.

https://www.qaa.ac.uk/quality-code

Yn benodol: Cyngor ac Arweiniad - Partneriaethau

 

https://www.qaa.ac.uk/cy/y-cod-ansawdd/cyngor-a-chyfarwyddyd/partneriaeth

Mae'r Partneriaethau Academaidd yn canolbwyntio'n bennaf ar sicrwydd ansawdd "y ddarpariaeth sy’n arwain at ddyfarnu credyd academaidd sy’n cael ei gyflenwi, ei asesu neu gefnogi trwy gyfrwng partneriaeth rhwng dau sefydliad neu fwy”.

Cod Ansawdd y DU ar gyfer Addysg Uwch – Cyngor ac Arweiniad: Partneriaethau; 29 Tachwedd 2018; ASA.

Mae adran Partneriaethau Academaidd y Llawlyfr Ansawdd yn rhoi'r rheoliadau swyddogol ar gyfer datblygu, rheoli ac adolygu gweithgareddau cydweithrediadol. Mae hyn yn cynnwys amrywiol fathau o weithgareddau Partneriaeth a gweithgaredd Cydweithrediadol a amlinellir yn fanwl ym Mhennod Ansawdd - Adran 2 Mathau o Bartneriaethau a Phennod Ansawdd - Adran 2a APG_1 Cyfarwyddyd ynglŷn â Chymeradwyo a Llofnodwyr.

Cynlluniwyd y cyfarwyddyd hwn i hyrwyddo arfer da wrth ddatblygu Partneriaethau a sicrhau sefydlu systemau priodol a chymesur i nodi, rheoli a lleddfu'r risgiau.  

Mae'r Cod Ansawdd diwygiedig yn rhoi mwy o bwyslais ar gasglu adborth myfyrwyr a gweithredu arno, ar fframweithiau llywodraethu, ac yn arbennig ar wneud penderfyniadau ynglŷn ag adnewyddu neu derfynu cytundebau. Mae hefyd yn rhoi pwys ar sefydlu cytundebau ysgrifenedig gwahaniaethol yn ôl lefel risg y bartneriaeth. Mae PA wedi rhoi sylw i'r meysydd pwysigrwydd hyn trwy gynyddu cynrychiolaeth myfyrwyr ar bob lefel o fonitro ac arolygu Partneriaethau, a datblygu system 'goleuadau traffig' o gofnodi risg i'w defnyddio mewn adolygiadau ac adroddiadau ffurfiol, a pheidio â chanolbwyntio ar risg yn unig ar ddechrau prosiect trwy Asesiad Diwydrwydd Dyladwy a Risg.

Bwrdd y Ddarpariaeth Gydweithrediadol

Ym Mhrifysgol Aberystwyth, Bwrdd y Ddarpariaeth Gydweithrediadol sy'n gyfrifol am reoli ac arolygu gweithgaredd cydweithrediadol y Brifysgol ym Mhrydain ac yn rhyngwladol, ac am sicrwydd ansawdd y ddarpariaeth. Mae hyn yn cynnwys ymgeisio am drefniadau Partneriaeth, eu hasesu, ac adolygu'r holl drefniadau, a sicrhau bod yr holl ddogfennau perthnasol ar gael os gwneir cais i'w hadolygu. Mae'r Bwrdd yn sicrhau bod y Brifysgol a'i sefydliadau partner yn cadw at God Ansawdd y DU ar gyfer Addysg Uwch.

Y Bwrdd sy'n cadw arolygaeth gyffredinol ar y Cod Ansawdd DU diwygiedig, ac mae ganddo'r cyfrifoldeb am fonitro a chloriannu safonau ac ansawdd academaidd y rhaglenni, gan gynnwys asesu ac adolygu mewnol ac allanol, ac mae'n gyfrifol am y themâu canlynol: Partneriaethau.

Mae Bwrdd y Ddarpariaeth Gydweithrediadol yn un o is-bwyllgorau'r Senedd. Y Senedd yw awdurdod academaidd y Brifysgol, ac mae'n atebol i'r Cyngor am swyddogaethau academaidd y Brifysgol - y dysgu a'r ymchwil - ac am reoleiddio buddiannau academaidd y myfyrwyr. Mae cynrychiolaeth o blith y myfyrwyr yn bresennol yng nghyfarfodydd y Bwrdd a'r Senedd.

Pam Partneriaethau?

Mewn achosion llwyddiannus, mae darpariaeth gydweithrediadol yn cynnig pob math o fanteision, sy'n cynorthwyo'r Brifysgol i gyflawni ei hamcanion strategol craidd fel yr amlinellir yn y Cynllun Strategol 2018-2023, gan gynnwys

Addysg a phrofiad y myfyrwyr - rhoi'r gallu i fyfyrwyr i ddatgloi eu potensial eu hunain a datblygu yn ddysgwyr annibynnol.

Ymchwil ac Arloesi sy'n cael effaith - cefnogi a datblygu ymchwilwyr i ymgymryd ag ymchwil sy'n creu effaith ac sydd o ansawdd gyda'r gorau yn y byd

Cyfraniad i gymdeithas - gwneud cyfraniad sylweddol i Gymru a'r tu hwnt, gan ddod â manteision i'n cymunedau a'r gymdeithas yn gyffredinol. Deall ein cyfrifoldebau, a'n hatebolrwydd, i'r gymdeithas. Bod yn agored, yn berthnasol a meithrin cysylltiadau â'n cymunedau a'n rhanddeiliaid.

Ymgysylltiad Rhyngwladol - bod yn bartner atyniadol i sefydliadau rhyngwladol sy'n rhannu ein hamcanion a'n dyheadau. Trwytho ein graddedigion mewn hyfforddiant academaidd ac yng ngwerthoedd dinasyddiaeth fyd-eang a chenedlaethol. 

Y Gymraeg a Diwylliant Cymru - gwella a chyfoethogi cyfleoedd trwy gyfrwng y Gymraeg i'n staff, ein myfyrwyr ac ymwelwyr. Hyrwyddo iaith a diwylliant ein gwlad, a chyfrannu at sicrhau gwell dealltwriaeth am anghenion cymdeithasol-economaidd Cymru.

Dogfennau Darpariaeth Gydweithredol

Bwrdd Darpariaeth Gydweithredol - Cylch Gorchwyl Pwyllgo

Bwrdd Darpariaeth Gydweithredol - Amserlen Fusnes 2021-2022

Cofrestr Gweithgareddau Darpariaeth Gydweithredol (ddiweddarwyd Mai 2024)