Adran 8.5 - Addasrwydd Strategol

Mewn achosion llwyddiannus, mae darpariaeth gydweithrediadol yn cynnig pob math o fanteision, sy'n cynorthwyo'r Brifysgol i gyflawni ei hamcanion strategol craidd fel yr amlinellir yn y Cynllun Strategol 2018-2023. Mae'r rhain yn cynnwys: 

Addysg a phrofiad y myfyrwyr - rhoi'r gallu i fyfyrwyr i ddatgloi eu potensial eu hunain a datblygu yn ddysgwyr annibynnol.

Ymchwil ac Arloesi sy'n cael effaith - cefnogi a datblygu ymchwilwyr i ymgymryd ag ymchwil sy'n creu effaith ac o ansawdd sydd gyda'r gorau yn y byd

Cyfraniad i gymdeithas - gwneud cyfraniad sylweddol i gymunedau yng Nghymru a'r tu hwnt. Deall ein cyfrifoldebau a'n hatebolrwydd i'r gymdeithas. Bod yn agored, yn berthnasol a meithrin cysylltiadau â'n cymunedau a'n rhanddeiliaid.

Ymgysylltiad Rhyngwladol - bod yn bartner atyniadol i sefydliadau rhyngwladol sy'n rhannu ein hamcanion a'n dyheadau. Trwytho ein graddedigion mewn hyfforddiant academaidd trylwyr ac yng ngwerthoedd dinasyddiaeth fyd-eang a chenedlaethol. 

Y Gymraeg a Diwylliant Cymru - gwella a chyfoethogi cyfleoedd trwy gyfrwng y Gymraeg i'n staff, ein myfyrwyr ac ymwelwyr. Hyrwyddo iaith a diwylliant ein gwlad, a chyfrannu at sicrhau gwell dealltwriaeth genedlaethol a rhyngwladol o anghenion cymdeithasol-economaidd Cymru.

Mae Partneriaethau Academaidd hefyd yn alinio â Strategaeth PA ar gyfer Marchnata a Denu Myfyrwyr, 2019-2023 “…trwy ganfod a darparu cyfleoedd” mewn “marchnadoedd rhyngwladol wedi'u targedu.”

Mae'r Cyfadrannau a'r Swyddfa Partneriaethau Academaidd yn ymdrechu “i gyflenwi nifer cynyddol o fyfyrwyr o'r calibr angenrheidiol i ffynnu yn y Brifysgol hon” gan gydgysylltu â Phartner Sefydliadau ac adrannau ategol y Brifysgol, megis y Ganolfan Saesneg Rhyngwladol, y Swyddfa Derbyn Myfyrwyr Rhyngwladol, a'r Swyddfa Ryngwladol i “ddarparu'r hyn y mae'r farchnad denu myfyrwyr ei eisiau a bod yn ystwyth wrth feithrin cyfleoedd newydd.”

I gael rhagor o fanylion gweler:

Strategaeth Marchnata a Denu Myfyrwyr PA, 2019-2023 - DOLEN GYSWLLT

Cynllun Gweithredu'r Strategaeth Marchnata a Denu Myfyrwyr - DOLEN GYSWLLT

Wrth symud ymlaen, mae Prifysgol Aberystwyth yn cymryd agwedd ragweithiol tuag at:

  • Chwilio am bartneriaid dramor sy'n gallu cyflenwi darpariaeth rhyddfraint a darpariaeth ddilysu;
  • Chwilio am gytundebau Memorandwm o Gyd-ddealltwriaeth/Gytundeb er mwyn hyrwyddo cyfnewidiadau staff a myfyrwyr
  • Cynllunio a sefydlu rhaglenni academaidd o ansawdd uchel y gellir eu haddasu'n gyflym a'u cyflenwi dramor;
  • Cynllunio rhaglenni sylfaen o ansawdd uchel y gellir eu rhyddfreinio i bartneriaid Addysg Bellach strategol ym Mhrydain a thramor;
  • Cynllunio a chyflenwi Rhaglen Hyfforddi Iaith Saesneg y gellir ei chyflenwi mewn partneriaeth â sefydliadau dramor;
  • Sefydlu cynghreiriau strategol gydag ysgolion ym Mhrydain a phartneriaid Addysg Bellach ar gyfer paratoi myfyrwyr sy'n cael mynediad i astudio FHEQ lefel 5 ac uwch;
  • Datblygu rhaglenni E-DL sy'n ymestyn yn rhyngwladol gyda sefydliadau Addysg Uwch mawr;
  • Hyrwyddo'r holl gymwysterau a gyflenwir gennym i gyrraedd y farchnad ehangaf posibl;
  • Anelu i ymestyn braich E-ddysgu'r Brifysgol i gyrraedd cynulleidfa ryngwladol ehangach;
  • Gwneud penderfyniadau strategol wedi'u seilio ar ddadansoddi data cadarn a dehongli'r farchnad yn ddibynadwy.