Adran 8.2 - Teipoleg Gweithgaredd Partneriaethau Cydweithrediadol

Ceir nifer o wahanol fathau o weithgareddau partneriaeth (a elwir hefyd yn rhaglenni cydweithrediadol).  Mae'r deipoleg isod yn rhoi diffiniadau cryno o'r mathau o drefniadau cydweithrediadol a gydnabyddir yn gyffredin ledled y byd Addysg Uwch yn y Deyrnas Gyfunol.  Dylid nodi nad yw hon yn rhestr ddiffiniol ac y gellid cael amrywiadau yn narpariaeth a gwasanaethau pob math unigol o bartneriaeth, er mwyn caniatáu am amgylchiadau neu ofynion penodol. Bydd amrywiadau o'r fath bob amser yn cael eu hystyried trwy'r prosesau cymeradwyo perthnasol a ddisgrifir yn fanwl isod.

Yn Aberystwyth, rheolir gweithgareddau'r partneriaethau cydweithrediadol gan ddau gorff gwahanol, y ddau'n adrodd yn ôl i Fwrdd y Ddarpariaeth Gydweithrediadol:

  • Swyddfa Partneriaethau Academaidd yn y Gofrestrfa Academaidd: ar gyfer prosiectau uwch eu risg, rhyngadrannol, aml-asiantaeth, er enghraifft Rhyddfreiniau, trefniadau Dilysu a chytundebau gradd Ddeuol/dyfarniad Ar y Cyd; ar gyfer Partneriaethau Denu Myfyrwyr a Symudedd Myfyrwyr canolig eu risg, er enghraifft trefniadau Cydweddu;

a

  • Cyfleoedd Byd-Eang, a Denu Myfyrwyr a Datblygu Rhyngwladol, sef unedau o fewn i'r adran Marchnata a Denu Myfyrwyr: ar gyfer Partneriaethau Denu Myfyrwyr isel eu risg (trwy fynediad safonol ac uwch, megis cytundebau symud ymlaen); a Phartneriaethau Symudedd Myfyrwyr (er enghraifft, cynlluniau Cyfnewid, Astudio Dramor, ac Erasmus).

Gall partneriaeth gydweithrediadol ymwneud ag unrhyw lefel o ddarpariaeth a ddysgir neu arolygaeth ymchwil; gellir ei darparu trwy amrywiol ddulliau gan gynnwys addysgu ar y campws, dysgu o bell a/neu ddysgu cyfunol, neu trwy gyfrwng unrhyw un o'r amrywiol ddulliau astudio sydd i'w cael.  Y cyngor i staff sy'n cynnig trefniadau partneriaeth gydweithrediadol yw meithrin perthynas â phartneriaethau isel eu risg cyn symud ymlaen ymhellach i ddatblygu prosiect darpariaeth gydweithrediadol risg uchel.  Mae tystiolaeth o lwyddiant perthynas waith gyda sefydliad allanol yn cynyddu'r cyfle i gynllun gael ei gymeradwyo gan y Pwyllgor.

Bydd proses Asesu Risg yn gosod lefel y risg i'r prosiect cydweithrediadol. Mae'r asesiad risg sydd ei angen yn achos ceisiadau partneriaeth isel i ganolig eu risg wedi'i gynnwys yn y ffurflen Gais a'r ffurflen Diwydrwydd Dyladwy Cychwynnol. Yn achos prosiectau canolig i uchel eu risg, mae adroddiadau'n cael eu paratoi a ffurflenni Diwydrwydd Dyladwy yn cael eu llenwi gan Gyfadrannau a'r Gofrestrfa A HEFYD mae Achos Busnes cyflawn yn cael ei gwblhau a'i gymeradwyo gan y Swyddfa Gyllid a'r Weithrediaeth.

Mae'r risg yn gysylltiedig â phob math o gydweithrediad yn dibynnu ar natur y trefniadau a gynigir. Mae'r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (ASA) yn mynnu bod y Brifysgol yn sicrhau bod ganddi ddulliau priodol a chymesur yn eu lle i reoli'r risgiau a nodir. Caiff lefel risg gychwynnol ei nodi ar gyfer pob un o'r mathau o drefniadau cydweithrediadol, yn ôl y raddfa ganlynol.

I gael dogfennau a chyfarwyddiadau perthnasol am y drefn gymeradwyo a llofnodwyr, gweler y ddogfen APG_1 Cyfarwyddyd ynglŷn â Chymeradwyo a'r canlynol:

Gwaith papur

Nodiadau cyfarwyddyd:

Templedi:

APG_1

Cyfarwyddyd ynglŷn â Chymeradwyo a Llofnodwyr

APT_1

Templed Adroddiad Cymeradwyo'r Panel

APG_2

Cyfarwyddyd ynglŷn â'r Arolwg Diwydrwydd Dyladwy Cychwynnol

 

 

 

 

 

 

Ffurflenni:

Siartiau llif:

APF_0

Holiadur Darpar Bartneriaethau

APC_1  

Siart Llif Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth

APF_1  

Ffurflen gais Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth

APC_2  

Siart Llif Cytundebau Isel-Canolig eu Risg

APF_2a

Ffurflen gais yn cynnwys Mapio ar gyfer Cydweddu

APC_2a

Siart Llif cymeradwyo prosiectau risg Isel

APF_2b

Ffurflen gais Memorandwm Cytundeb

APC_2b  

Siart Llif Cytundebau Risg Canolig

APF_3a

Ffurflen Arolwg Cychwynnol Diwydrwydd Dyladwy

APC_3  

Siart Llif Cytundebau Risg Uchel

APF_3b

Ffurflen Diwydrwydd Dyladwy Risg Uchel

APC_3a  

Siart llif ar gyfer Cytundebau Risg Uchel

APF_4

Dogfennau Angenrheidiol gan y Partner ar gyfer Diwydrwydd Dyladwy Risg Uchel

 

 

APF_5a

Adroddiad Cryno Asesiad Risg partneriaethau Risg Uchel

 

 

APF_5b

Taenlen Templed Asesu Risg

 

 

 

 

 

 

Sylwer mai lefelau cychwynnol yw'r rhain ac y gellid cynyddu'r lefel yn ôl natur y prosiect arfaethedig, ac y caiff unrhyw gydweithrediad sy'n cael ei gategoreiddio'n risg "Eithriadol" ei wrthod a'i derfynu'n awtomatig gan y Dirprwy Is-Ganghellor priodol.

1 2 3 4 5
Isel Canolig Uchel Uchel Iawn

Eithriadol

 

Categori

Math o Weithgaredd Partneriaeth Gydweithrediadol

Diffiniad

 

Lefel Risg

Gwybodaeth a Rheolaeth

Proses

Lefel a Gymeradwyir

Lleoliadau a

Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP)

Lleoliadau di-gredyd seiliedig ar waith a DPP

Trefniant sy'n hwyluso lleoliad mewn gwaith neu'n darparu cyfleoedd dysgu i unigolion sydd eisoes yn y farchnad lafur (os ydynt mewn gwaith cyflogedig neu beidio ar y pryd) lle nad yw cymryd rhan yn cyfrannu credydau tuag at unrhyw gymhwyster.

1 - Isel

Adran Academaidd a/neu adran ategol berthnasol

 

APC_2 & APC_2a

Y Gyfadran

Lleoliadau a

Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP)

DPP sy'n rhoi credydau

Trefniant sy'n hwyluso cyfleoedd dysgu i unigolion sydd eisoes yn y farchnad lafur (os ydynt mewn gwaith cyflogedig neu beidio ar y pryd) lle gellir ennill credydau tuag at gymhwyster.

1 - Isel

Adran Academaidd a/neu adran ategol berthnasol

 

APC_2 & APC_2a

Y Gyfadran

Lleoliadau

 

Dysgu seiliedig ar waith lle gellir ennill credydau

Trefniant sy'n hwyluso lleoliad mewn gwaith lle gall y myfyriwr ennill credydau tuag at eu cymhwyster neu leoliadau sy'n angenrheidiol yn rhan o'r astudio (e.e. lleoliadau Hyfforddiant Cychwynnol i Athrawon)

2 - Canolig

Adran Academaidd a/neu adran ategol berthnasol

 

APC_2 & APC_2a

Y Gyfadran

Trefniadau Denu Myfyrwyr a Symudedd Myfyrwyr

Cynlluniau Cyfnewid Rhyngwladol;

 

Astudio Dramor;

Trefniant sy'n caniatáu i fyfyrwyr unigol a gofrestrodd ym Mhrifysgol Aberystwyth gymryd cyfran o'u rhaglen astudio, trwy drefniadau cyfatebol neu anghyfatebol, mewn partner sefydliad addysg uwch rhyngwladol am gyfnod amser y cytunir arno.

 

Cytunir ar raglen astudio bob myfyriwr gan y ddau sefydliad a rhaid i'r myfyrwyr dalu ffioedd sy'n gymesur â'r cyfnod astudio.

 

Rhaid nodi mai trefniadau unigol rhwng sefydliadau sy'n pennu a yw'r credyd academaidd yn cael ei gydnabod yn y Sefydliad arall.

 

https://www.aber.ac.uk/cy/international/study-abroad/international-exchange/

https://www.aber.ac.uk/cy/international/study-abroad/erasmus

 

2 - Canolig

Y Swyddfa Ryngwladol

APC_2 & APC_2a

Y Gyfadran

Trefniadau Denu Myfyrwyr a Symudedd Myfyrwyr

Trefniadau Symud Ymlaen

Trefniant lle mae'r Brifysgol yn addo ystyried derbyn myfyriwr (ond nid yn sicrhau mynediad) ar ôl cwblhau dyfarniad yn llwyddiannus mewn sefydliad arall.

 

Mae myfyrwyr sydd wedi cwblhau rhaglen yn llwyddiannus yn un sefydliad yn gallu cael eu hystyried i'w derbyn (ar sail unigol) i gychwyn ar raglen o'r dechrau yn Aberystwyth. Cytunir ar gytundebau symud ymlaen y tu allan i Fwrdd y Ddarpariaeth Gydweithrediadol a chânt eu rheoli gan y Swyddfa Dderbyn a'r adrannau Academaidd, gan nad ydynt yn cynnwys dyfarnu credyd gan y Brifysgol.

Rhaid nodi nad yw credydau sy'n cael eu cwblhau mewn partner sefydliad yn cael eu cydnabod nac yn cyfrannu tuag at ddyfarniad gradd derfynol Aberystwyth. Dim ond yn rhan o drefn mynediad y caiff credydau a/neu ddyfarniadau eu hadolygu, a rhaid i fyfyrwyr wneud cais trwy'r drefn dderbyn arferol i gael eu hystyried ar gyfer trosglwyddo i raglen ym Mhrifysgol Aberystwyth. Rhaid cwrdd â'r meini prawf mynediad arferol a'r gofynion iaith Saesneg.

 

2 - Canolig

Y Swyddfa Dderbyn / Adrannau Academaidd

 

APC_2 & APC_2a

Y Swyddfa Dderbyn / Y Gyfadran

Trefniadau Denu Myfyrwyr a Symudedd Myfyrwyr

Cydweddu

 

 

Trefniant sy'n rhoi hawl awtomatig (ar dir academaidd) i fyfyrwyr sy'n bodloni meini prawf academaidd ac yn cwblhau rhaglen astudio gymeradwy yn llwyddiannus mewn partner sefydliad i gael eu derbyn ar lefel uwch i ran neu flwyddyn ddilynol rhaglen radd yn Aberystwyth.

 

Yn nodweddiadol, bydd myfyrwyr yn cwblhau dwy flynedd neu fwy o astudio Israddedig mewn partner sefydliad ac yna'n trosglwyddo i Aberystwyth i gwblhau dwy flynedd olaf cwrs gradd Israddedig.

Fel eithriad, gellid caniatáu i fyfyrwyr gael mynediad i flwyddyn olaf y radd Brifysgol. Byddai'n rhaid i bob ymgeisydd hefyd fodloni unrhyw amodau mynediad eraill a osodir gan y Brifysgol.

Fel arfer mae'r trefniadau, sy'n ddarostyngedig i drefniadau ffurfiol rhwng y partïon, yn cynnwys cynlluniau cronni a throsglwyddo credydau.

 

2 - Canolig

Swyddfa Partneriaethau Academaidd

APC_2 & APC_2a & APC_2b

Bwrdd y Ddarpariaeth Gydweithrediadol / Y Gyfadran

Ymchwil Cydweithrediadol

Cydweithrediadau Ymchwil yn unig

Caiff cydweithrediadau ymchwil yn unig eu cymeradwyo a'u rheoli trwy'r Swyddfa Ymchwil, Busnes ac Arloesi.

Cysylltwch â drbi@aber.ac.uk. i gael rhagor o wybodaeth.

2 - Canolig

Ymchwil, Busnes ac Arloesi (YBA)

APC_2 & APC_2a

YBA / Y Gyfadran / Y Weithrediaeth

Rhaglen Radd Ymchwil Cydweithrediadol

PhD ar fwy nag un safle

 

 

Y diffiniad o PhD 'ar fwy nag un safle' yw PhD sy'n arwain at ddyfarniad Prifysgol Aberystwyth lle mae myfyrwyr amser llawn a rhan amser yn treulio cyfran neu fwyafrif cyfnod eu cofrestriad yn astudio mewn sefydliad arall cymeradwy (a allai fod yn sefydliad academaidd, canolfan ymchwil, neu fan gwaith arall addas i astudio, ac a allai fod dramor).

 

2 - Canolig

Swyddfa Partneriaethau Academaidd

APC_2 & APC_2a & APC_2b

Bwrdd y Ddarpariaeth Gydweithrediadol / Y Gyfadran

Trefniadau Denu Myfyrwyr a Symudedd Myfyrwyr

Cydweddu gyda darpariaeth ychwanegol (Ar y Cyd)

(e.e. Adran Addysg Tsieina)

 

 

Trefniant lle mae hawl awtomatig (ar dir academaidd) gan fyfyrwyr sy'n bodloni meini prawf academaidd ac yn cwblhau rhaglen astudio gymeradwy yn llwyddiannus mewn partner sefydliad hawl i gael eu derbyn ar lefel uwch i ran neu flwyddyn ddilynol rhaglen radd yn Aberystwyth.

 

Yn rhan o'r rhaglen astudio gymeradwy yn y partner sefydliad, efallai y bydd yn rhaid i Brifysgol Aberystwyth gyfrannu cyfran o'r rhaglen astudio/maes llafur yn y partner sefydliad (fel arfer er mwyn cynnal safonau trwy gydol y cwrs).

3 - Uchel

Swyddfa Partneriaethau Academaidd

APC_3 & APC_3a

Bwrdd y Ddarpariaeth Gydweithrediadol / Y Weithrediaeth

Dysgu o Bell Cydweithrediadol

Dysgu o Bell Ar-lein / Cyrsiau Massive Open Online (MOOC)

Model dysgu lle mae myfyrwyr yn dysgu ar-lein, a hynny o bell fel arfer. Mae adnoddau'n cael eu darparu ar eu cyfer trwy lwyfan E-ddysgu ac mae Prifysgol Aberystwyth yn gosod aseiniadau i'r myfyrwyr. Gall union natur y model hwn amrywio o brosiect i brosiect a gall yn achlysurol gynnwys dysgu cyfunol. Bydd gan y myfyrwyr gyswllt â phartner dramor a gallant gael cymorth gan bartner dramor, ond byddant yn dilyn gradd Prifysgol Aberystwyth.

3 - Uchel

Swyddfa Partneriaethau Academaidd

APC_3 & APC_3a

Bwrdd y Ddarpariaeth Gydweithrediadol / Y Weithrediaeth

Partneriaeth

Cyfadran Deithiol

Trefniant lle mae rhaglen neu agweddau ar raglen yn cael eu darparu mewn lleoliad heblaw'r campws cartref (dramor fel arfer) gan staff o Brifysgol Aberystwyth. Bydd y Brifysgol fel arfer yn gyfrifol am safon ac ansawdd academaidd y cyfleoedd dysgu, gan gynnwys asesiadau, ond gellir darparu cefnogaeth ehangach yn lleol. Bydd trefniant o'r fath fel arfer yn enwi Prifysgol Aberystwyth yn gorff dyfarnu'r cymhwyster.

3 - Uchel

Swyddfa Partneriaethau Academaidd

APC_3 & APC_3a

Bwrdd y Ddarpariaeth Gydweithrediadol / Y Weithrediaeth

Cytundeb Strategol

Cangen Gampws

Campws o'r Brifysgol sydd wedi'i leoli ar wahân i brif gampws neu gampws 'cartref' y Brifysgol, ac sydd fel arfer yn llai o faint.

3 - Uchel

Swyddfa Partneriaethau Academaidd

APC_3 & APC_3a

Bwrdd y Ddarpariaeth Gydweithrediadol / Y Weithrediaeth / Y Cyngor

 

Partneriaeth Strategol

Graddau Cydweithrediadol / Dyfarniadau Ar y Cyd;

yn cynnwys Gradd Ddwbl/Ddeuol

 

Trefniant lle mae dau neu fwy o gyrff dyfarnu gradd gyda'i gilydd yn darparu rhaglen sy'n arwain at un dyfarniad unigol a wneir ar y cyd gan bob un o'r cyfranogwyr. Tystysgrif neu ddogfen unigol (a lofnodir gan yr awdurdodau cymwys) yn tystio bod y rhaglen hon a ddarperir ar y cyd wedi'i chyflawni'n llwyddiannus, gan ddisodli'r cymhwyster sefydliadol neu genedlaethol ar wahân.

 

Gradd ar y Cyd: Un dyfarniad ar un dystysgrif (y ddau sefydliad i lofnodi)

 

Gradd Ddwbl: Un dyfarniad ar ddwy dystysgrif ar wahân

 

Gradd Ddeuol: Dau ddyfarniad a dwy dystysgrif

 

3 - Uchel

Swyddfa Partneriaethau Academaidd

APC_3 & APC_3a

Bwrdd y Ddarpariaeth Gydweithrediadol / Y Weithrediaeth / Y Cyngor

 

Partneriaeth Strategol

Dilysu

 

Trefn lle mae PA yn barnu bod ansawdd a safon modiwl a/neu raglen a ddatblygwyd ac a gyflenwir gan sefydliad/corff arall heb bwerau dyfarnu graddau, yn briodol i arwain at ddyfarniad Prifysgol Aberystwyth ar lefel benodedig a bod adnoddau'n cael eu darparu i gynorthwyo i gyflenwi'r rhaglen. Fel arfer mae gan fyfyrwyr rwymedigaeth uniongyrchol o ran contract gyda'r corff sy'n cyflenwi'r cwrs.

 

4 - Uchel Iawn

Swyddfa Partneriaethau Academaidd

APC_3 & APC_3a

Y Cyngor

Partneriaeth Strategol

Rhyddfreinio

 

 

Trefn lle mae PA, sef y corff dyfarnu gradd, yn cytuno i awdurdodi sefydliad arall i gyflenwi (ac weithiau i asesu) rhan neu'r cwbl o un (neu fwy) o'i rhaglenni cymeradwy ei hun. Yn aml, bydd y corff sy'n dyfarnu'r radd yn cadw cyfrifoldeb uniongyrchol am gynnwys y rhaglen, y strategaeth addysgu ac asesu, y drefn asesu a sicrwydd ansawdd. Fel arfer mae gan fyfyrwyr gysylltiad uniongyrchol o ran contract â Phrifysgol Aberystwyth, sef y corff sy'n dyfarnu'r radd.

 

4 - Uchel Iawn

Swyddfa Partneriaethau Academaidd

APC_3 & APC_3a

Y Cyngor