Adran 8.6 - Sefydlu Partneriaeth ac Amserlenni ar gyfer Datblygu

Mae'r adrannau canlynol yn rhoi trosolwg o gamau datblygu nodweddiadol partneriaeth academaidd.

Amserlenni

Bydd y raddfa amser ar gyfer datblygu cyswllt cydweithrediadol yn amrywio yn ôl maint, cymhlethdod, a risg y prosiect. Gall prosiect gymryd amser sylweddol i symud yn ei flaen trwy'r cyfnod datblygu, yn enwedig os yw'r rhaglenni arfaethedig yn rhai newydd, neu os oes angen cymeradwyaeth corff allanol, proffesiynol neu lywodraethol.

Cynigion

Gall cynigion am bartneriaethau newydd ddod gan staff yn yr adrannau, gan uwch reolwyr neu gan y partneriaid allanol eu hunain. O ble bynnag y deilliant, Bwrdd y Ddarpariaeth Gydweithrediadol sy'n rheoli'r drefn o gloriannu darpar bartneriaid newydd, a'u hailgloriannu'n achlysurol, trwy gydgysylltu â Chyfadrannau, y Gofrestrfa Academaidd-Swyddfa Partneriaethau Cydweithrediadol, y Swyddfa Ryngwladol (lle bo'n addas) a'r Swyddfa Gyllid. Mae cynigion ar lefel y rhaglen, os ydynt gyda phartner presennol neu bartner newydd ei gymeradwyo, yn amodol ar gael eu hawdurdodi gan y Bwrdd Academaidd.

Rhaid i bob cynnig gyd-daro â'r egwyddorion sylfaenol ar gyfer datblygu gweithgareddau partneriaeth gydweithrediadol. Ni ddylid sefydlu darpariaeth gydweithrediadol am resymau ariannol yn unig a rhaid iddynt gydweddu â blaenoriaethau strategol a chryfderau academaidd y Gyfadran a'r Brifysgol.

Ymgynghoriad

Anogir adrannau a phartneriaid posibl i drafod unrhyw drefniant cydweithrediadol posibl â staff y Gofrestrfa Academaidd-Swyddfa Partneriaethau Cydweithrediadol yn gynnar er mwyn ymgyfarwyddo â'r drefn ac unrhyw ddogfennau angenrheidiol.

Rhaid i holl drefniadau partneriaeth gydweithrediadol gael eu trafod, eu cytuno a'u rheoli yn unol â pholisïau, gweithdrefnau a rheoliadau ffurfiol y sefydliad sy'n dyfarnu cymhwyster. Mae Prifysgol Aberystwyth yn gweithio yn ôl dull seiliedig ar risg, felly bydd diwydrwydd dyladwy ac asesiadau risg cymesur yn cael eu cwblhau cyn symud y prosiect ymlaen i'r cyfnod cymeradwyo llawn. Hefyd, bydd angen darparu gwybodaeth ynglŷn â'r llinell amser ar gyfer cymeradwyo a sefydlu partneriaeth i'r darpar bartner yn gynnar. Ni ddylid cymryd bod trafodaethau cychwynnol yn arwydd sy'n awgrymu cytundeb terfynol i'r cynnig.

Codir ffioedd am ddatblygu prosiectau risg uchel, megis cytundebau Rhyddfraint a Dilysu, a dylid cynnwys y rhain yn yr achos busnes.