Gweithdrefn Gwyno
Mae Prifysgol Aberystwyth (PA) yn ymroi i ddarparu gwasanaeth a phrofiad o ansawdd uchel i staff, myfyrwyr ac aelodau’r cyhoedd.
Gall fod achlysuron prin, fodd bynnag, lle bydd camgymeriad yn digwydd a / neu lle bydd unigolion o’r farn nad yw PA wedi cwrdd â’u disgwyliadau. Mewn achos o’r fath, anogir unigolion i anfon adborth at Brifysgol Aberystwyth, ac mae ganddynt hawl yn ogystal i wneud cwyn. Mae’n bwysig ein bod yn gwybod os bydd rhywbeth yn mynd o chwith er mwyn gwneud yn iawn am hynny a, lle bo’n briodol, er mwyn gwneud gwelliannau ar gyfer y dyfodol.
Os ydych chi’n fyfyriwr cofrestredig, yn ymgeisydd neu’n aelod o staff, gweler isod os dymunwch fynegi pryderon ynghylch torri Safonau’r Gymraeg, ein gweithgareddau Codi arian neu’r gwasanaethau a ddarperir gan yr Adran Gwasanaethau Gwybodaeth. Mae’r Brifysgol yn disgwyl i faterion perthnasol gael eu hystyried yn unol â’r weithdrefn fwyaf priodol.
Os ydych chi’n aelod o’r cyhoedd, neu’n rhiant neu warcheidwad i fyfyriwr, ceir manylion llawn ynghylch y modd y bydd cwynion yn cael eu hystyried yn y Weithdrefn Gwyno Gyhoeddus.
Myfyrwyr
Materion Staffio
Ymgeiswyr
Safonau'r Gymraeg
Codi Arian
Gwasanaethau Gwybodaeth
Cwynion y mae / nad oes modd eu hystyried
Oni cheir gweithdrefn Gwyno arall, sy’n fwy priodol, y gall Achwynydd droi ati, gall y Weithdrefn hon ymdrin fel arfer â’r rhan fwyaf o fathau o gŵynion, yn cynnwys y rheiny sy’n ymwneud ag:
- amheuon ynghylch arferion cyflogi anghyfreithlon ac anfoesol, gan gynnwys mewn cadwyni cyflenwi;
- methiant ymddangosiadol i ddilyn prosesau’r Brifysgol, gan gynnwys mewn perthynas â gwneud penderfyniadau.
Yn anffodus, ceir achlysuron pan na fyddai’n briodol i’r Brifysgol ystyried cwyn yn unol â’r Weithdrefn hon. Mae’r achlysuron hyn yn cynnwys:
- os oes Gweithdrefn arall, sy’n fwy priodol, y gall Achwynydd droi ati;
- bod y gŵyn yn ymwneud ag Undeb y Myfyrwyr, sy’n sefydliad annibynnol a chanddo’i Weithdrefn Gwyno ei hun (ar gael drwy www.umaber.co.uk);
- bod y gŵyn yn cael ei chyflwyno’n ddienw, ac nad oes modd i’r Brifysgol felly ymateb i’r Achwynydd (er y gall y Brifysgol ddewis ymchwilio i weld a oes unrhyw sail dros y gŵyn);
- bod yr Achwynydd yn anghytuno â phenderfyniad corff democrataidd o fewn i’r Brifysgol yn unol â phrosesau’r sefydliad; ac
- nad yw cwyn yn cael ei gwneud o fewn i 30 diwrnod gwaith y Brifysgol ar ôl i broblem godi, neu ddod yn adnabyddus i'r Achwynydd.
Cyflwyno Cwyn
Dylid gwneud pob ymdrech, yn y lle cyntaf, i ddatrys cwyn yn uniongyrchol â’r adran(nau) o’r Brifysgol dan sylw. Cyfeirir at hyn fel ‘Datrysiad Cam 1’ yn y Weithdrefn Gwyno Gyhoeddus.
Os oes angen uwchraddio cwyn i ‘Weithdrefn Cam 2’ dylid gwneud hynny gan ddefnyddio’r ffurflen isod, a hynny fel arfer o fewn 10 diwrnod gwaith y Brifysgol i ddiwedd y Cam cyntaf: