Apwyntiadau 1:1 a sesiynau galw heibio
1:1 Ysgrifennu Academaidd - Cymrawd y Gymdeithas Lenyddol Frenhinol
Gwella eich ysgrifennu academaidd
Trefnwch sesiwn â’n Cymrawd Ysgrifennu dan nawdd y Gronfa Lenyddol Frenhinol, Alys Fowler. Mae Cymrawd Ysgrifennu'r Gronfa Lenyddol Frenhinol yn awdur proffesiynol, cyhoeddedig a'i swyddogaeth yw eich cynorthwyo i wella eich sgiliau ysgrifennu.
Gwasanaeth cyfrinachol am ddim yw hwn i'ch cynorthwyo i wella eich sgiliau ysgrifennu. Mae croeso i fyfyrwyr o unrhyw ddisgyblaeth, ar unrhyw lefel astudio (o’r flwyddyn gyntaf i ôl-raddedigion), neu staff drefnu sesiwn.
Bwcio sesiwn (Saesneg yn unig):
- Mae sesiynau yn cymryd lle ar ddydd Mercher: 09:00 - 16:00
- Cysylltwch ag Alys i fwcio sesiwn ar: alys.fowler@rlfeducation.org.uk
1:1 tiwtor ysgrifennu academaidd cyfrwng Cymraeg
-
Dr. Tamsin Davies:
Tiwtor sgiliau i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg ac yn cynnig cymorth academaidd 1:1 i fyfyrwyr sy’n defnyddio’r Gymraeg yn ystod eu bywydau academaidd.
Trefnwch apwyntiad gyda Tamsin: ted@aber.ac.uk
1:1 Ymgynghorydd gyrfaoedd
GyrfaoeddABER - eich porth i'r Gwasanaeth Gyrfaoedd
Apwyntiadau gyrfaoedd 1:1 gyda’n Hymgynghorwyr Gyrfaoedd – gellir eu harchebu drwy’r porth
Angen cefnogaeth heddiw? Rydym ar gael ar Lefel D, Llyfrgell Hugh Owen bob bore'r wythnos yn ystod tymor, rhwng 9.30yb a 12yp - nid oes angen apwyntiad.
Am wybodaeth gyffredinol, galwch heibio swyddfa'r Gwasanaeth Gyrfaoedd yn y Ganolfan Croeso i Fyfyrwyr, o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 4pm. Am gyfarwyddiadau, cliciwch yma.
Bwcio apwyntiad
- Mewngofnodwch i GyrfaoeddABER gan ddefnyddio eich enw defnyddiwr a chyfrinair Prifysgol Aberystwyth.
- Ewch i Book >Appointments
- Gall apwyntiadau fod wyneb yn wyneb neu ar-lein trwy MS Teams - dewiswch eich slot.
Os ydych wedi graddio o Brifysgol Aberystwyth gallwch barhau i ddefnyddio'r porth hwn. Ewch i'n tudalen Graddedigion am fanylion ar sut i gofrestru i gael mynediad.
1:1 Gwasanaethau Gwybodaeth
Cymorth arbenigol i ddefnyddio'r cyfleusterau a ddarperir gan y Gwasanaethau Gwybodaeth
Mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth yn darparu gwasanaeth i helpu defnyddwyr gyda phroblemau gyda defnyddio’r cyfleusterau sydd ar gael. Mae'r gwasanaeth yma ar gael i ddefnyddwyr Prifysgol Aberystwyth (yn amodol ar argaeledd) a drwy apwyntiad yn unig
1:1 Ymgynghoriadau i fyfyrwyr rhyngwladol ar sgiliau llythrennedd academaidd
Ymgynghoriadau i fyfyrwyr rhyngwladol ar sgiliau llythrennedd academaidd
Mae'r Ganolfan Saesneg Ryngwladol (International English Centre/IEC) yn cynnig sesiynau ymgynghori un-i-un i fyfyrwyr rhyngwladol, gan ganolbwyntio ar sgiliau iaith Saesneg yn y cyd-destun academaidd.
Mae hwn yn wasanaeth rhad ac am ddim, sy'n agored i bob myfyriwr israddedig ac ôl-raddedig cofrestredig ym Mhrifysgol Aberystwyth. Gall myfyrwyr gwrdd â thiwtor iaith Saesneg IEC i gael cyngor ac arweiniad ar eu defnydd o Saesneg ar gyfer tasgau academaidd fel aseiniadau ysgrifenedig a chyflwyniadau llafar.
Mae'r sesiynau hyd at 50 munud o hyd ac mae gan fyfyrwyr hawl i uchafswm o 3 sesiwn y semester.
Bydd y sesiynau’n fwyaf defnyddiol ar gyfer:
a) Myfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf;
b) Myfyrwyr sy'n gymharol ddibrofiad wrth astudio trwy gyfrwng y Saesneg
Sut i archebu ymgynghoriad:
I drefnu ymgynghoriad, e-bostiwch tesol@aber.ac.uk gyda phennawd pwnc: “ymgynghoriad un-i-un”. Byddwn yn gwneud ein gorau i ymateb i chi o fewn 2 ddiwrnod gwaith.
Sylwch: nid yw’r ymgynghoriadau yn sesiynau galw heibio a chânt eu darparu drwy apwyntiad yn unig.
1:1 Tiwtor mathemateg ac ystadegau
Datblygwch eich sgiliau mewn mathemateg, ystadegau neu rifedd gyda chefnogaeth un-i-un
Mae tiwtoriaid profiadol ar gael i helpu myfyrwyr gyda chwestiynau am fathemateg neu ystadegau fel rhan o'u cwrs.
E-bostiwch maths-help@aber.ac.uk am ragor o wybodaeth neu i drefnu cyfarfod.
Sesiynau galw heibio:
- Dydd Iau yn ystod tymor
- 10:00-13:00
- Lefel D, Llyfrgell Hugh Owen
1:1 Arbenigwr Iechyd Meddwl
I drefnu apwyntiad gydag un o'n timau ewch i https://support.aber.ac.uk
1:1 Llyfrgellydd Pwnc
Mae Llyfrgellwyr Pwnc yn darparu hyfforddiant ar sgiliau gwybodaeth a chynnig cymorth cynhwysfawr i fyfyrwyr a staff.
Llyfrgellydd Pwnc Academaidd | Adran Academaidd | Bwcio apwyntiad 1:1 | Galw-heibio | |
---|---|---|---|---|
Anita Saycell
01970 62 1867
|
Dydd Mercher, 11:00-13:00, Desg Ymholiadau Lefel F, Llyfrgell Hugh Owen (tymor yn unig) |
|||
Joy Cadwallader
01970 62 1986
|
Trefnwch amser gyda Joy Cadwallader [jrc] (Staff) | |||
Lloyd Roderick
01970 62 1847
|
Dydd Gwener, 11:00-14:00, Desg Ymholiadau Lefel F, Llyfrgell Hugh Owen (tymor yn unig) |
|||
Non Jones
01970 62 2397
|
Dydd Llun, 12:00-14:00, Desg Ymholiadau Lefel F, Llyfrgell Hugh Owen (tymor yn unig)
Dydd Mawrth, 13:00-14:00, Prif Fynedfa Gogerddan (tymor yn unig) |
|||
Sarah Gwenlan
01970 62 1870 |
|
Dydd Mawrth, 11:00-12:00, Desg Ymholiadau Lefel F, Llyfrgell Hugh Owen (tymor yn unig)
Dydd Iau, 13:00-15:00, Ystafell 0.11, P5 (tymor yn unig) |
||
Simon French
01970 62 2080
|
Trefnwch amser gyda Simon French [sif4] (Staff)
|
Dydd Llun, 08:00-12:00, Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol (tymor yn unig)
Dydd Iau, 10:00-13:00, Desg Ymholiadau Lefel F, Llyfrgell Hugh Owen (tymor yn unig) |
||
Simone Anthony
01970 62 2402 |
Dydd Llun, 09:00-09:50, Ystafell 1.31, Adeilad Gwendolen Rees (tymor yn unig)
Dydd Llun, 10:00-12:00, Desg Ymholiadau Lefel F, Llyfrgell Hugh Owen (tymor yn unig) |
1:1 Tîm Sgiliau Digidol
Mae'r Tîm Sgiliau Digidol yn cynnig apwyntiadau 1:1 i fyfyrwyr sydd eisiau cyngor ac arweiniad ar ddatblygu eu sgiliau digidol. Gallwn eich helpu i ddod o hyd i adnoddau i ddatblygu eich sgiliau digidol; rhoi cyngor cyffredinol i chi am ddatblygu eich sgiliau digidol; ac rydym hefyd yn hapus iawn i drafod eich adroddiadau Offeryn Darganfod Digidol Jisc.
Gallwch naill ai drefnu apwyntiad ar-lein, neu drwy e-bostio digi@aber.ac.uk.
Sesiynau galw heibio sgiliau digidol wythnosol: Bydd aelod o’r tîm hefyd ar gael bob wythnos i gefnogi myfyrwyr yn ein sesiynau galw heibio sgiliau digidol (gwybodaeth bellach).
1:1 Tiwtor sgiliau academaidd Cymraeg
1:1 Darpariaeth sgiliau academaidd Cymraeg
-
Dr. Tamsin Davies:
Tiwtor sgiliau i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg ac yn cynnig cymorth academaidd 1:1 i fyfyrwyr sy’n defnyddio’r Gymraeg yn ystod eu bywydau academaidd.
Trefnwch apwyntiad gyda Tamsin: ted@aber.ac.uk
1:1 Darpariaeth sgiliau llyfrgell a gwybodaeth Cymraeg
1:1 Tîm Sgiliau Digidol
Mae'r Tîm Sgiliau Digidol yn cynnig apwyntiadau 1:1 i fyfyrwyr sydd eisiau cyngor ac arweiniad ar ddatblygu eu sgiliau digidol. Gallwn eich helpu i ddod o hyd i adnoddau i ddatblygu eich sgiliau digidol a darparu cyngor cyffredinol i chi am ddatblygu'r sgiliau hynny.
Gallwch naill ai drefnu apwyntiad ar-lein, neu drwy e-bostio digi@aber.ac.uk.
Sesiynau galw-heibio
Dim angen bwcio o flaen llaw, galwch draw!
Cymryd lle | Manylion | |
---|---|---|
Desg Gymorth Mathemateg ac Ystadegau |
Yn ystod tymor |
Dydd Iau, 10:00-13:00,
|
Llyfrgellwyr Pwnc |
Yn ystod tymor |
Gwiriwch y golofn Galw-heibio ar y dudalen Llyfrgellwyr Pwnc |
Gwasanaeth Gyrfaoedd |
Yn ystod tymor |
Dydd Llun - Gwener, 09:30-12:00
Ar gyfer cwestiynau manwl, archebwch apwyntiad cyfarwyddyd trwy gyrfaoeddABER. Am fanylion ar sut i archebu, cliciwch yma. |
Cymorth Academaidd a Sgiliau Gwyddorau Bywyd |
Yn ystod tymor |
Dydd Llun, 13:00-14:00
Dydd Mawrth, 13:00-14:00
|
*Mae'r Hwb SgiliauAber wedi'i leoli ar Lefel D, Llyfrgell Hugh Owen. Gallwch weld union leoliad yr Hwb Sgiliau (a ddangosir gan y seren felyn) ar y ddelwedd isod.