Programme Specifications
Hanes
Information provided by Department of History and Welsh History:
Information provided by Department of History and Welsh History:
Datganiad Meincnodi Hanes gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch.
Information provided by Department of History and Welsh History:
Medi 2023
Information provided by Department of History and Welsh History:
Nod y Rhaglen yw datblygu diddordeb y sawl sy’n astudio Hanes, a meithrin ynddynt wybodaeth a dealltwriaeth ddyfnach o’r pwnc. Mae’r Rhaglen yn cynnig i fyfyrwyr ddewis eang o ran cyfnodau a themâu hanesyddol o’r cynfyd hyd heddiw, gan gynnwys cyfleoedd i astudio agweddau ar hanes gwleidyddol, cymdeithasol, diwylliannol neu economaidd. Mae’r modiwlau craidd yn canolbwyntio ar feithrin sgiliau ymchwilio hanes sylfaenol ac ar ddealltwriaeth o faterion hanesyddiaethol. Drwy hyn, nod y Rhaglen yw cynhyrchu graddedigion a fydd yn meddu ar sgiliau ymchwilio a dehongli o safon uchel, ac a fydd wedi cael blas ar werthfawrogi gwerth Hanes i gymdeithas, a fydd yn aros gyda hwy gydol eu hoes.
Information provided by Department of History and Welsh History:
Mae’r rhaglen yn cynnig y cyfle i fyfyrwyr ddatblygu a dangos gwybodaeth a dealltwriaeth, sgiliau, rhinweddau a phriodoleddau eraill yn y meysydd canlynol:
Information provided by Department of History and Welsh History:
-
A1 Gwybodaeth a dealltwriaeth o gymdeithasau dynol yn y gorffennol drwy astudio ystod o gyfnodau a themâu hanesyddol mewn mwy nag un wlad, ac mewn sawl cyd-destun diwylliannol gwahanol.
-
A2 Y gallu i lunio cwestiynau hanesyddol, ac i chwilio a chanfod amryfal fathau o dystiolaeth eilradd a chynradd briodol, gan gynnwys y ffurf electronig.
-
A3 Y gallu i ddarllen a defnyddio ystod o destunau eilradd a ffynonellau cynradd yn feirniadol ac yn empathig.
-
A4 Gwerthfawrogi natur gymhleth ac amrywiol sefyllfaoedd, digwyddiadau a dulliau meddwl y gorffennol.
-
A5 Deall yr anawsterau cynhenid wrth ddehongli tystiolaeth hanesyddol, a’r modd y mae haneswyr yn ymdrin ag amwysedd, gwybodaeth annigonol a safbwyntiau gwahanol.
-
A6 Gwerthfawrogi sgiliau beirniadol sylfaenol yr hanesydd wrth bennu a defnyddio rheolau tystiolaeth ac wrth brofi dilysrwydd datganiadau drwy ddatblygu dealltwriaeth ymarferol o sut y defnyddir technegau ymchwilio a holi profedig i gynhyrchu a dehongli gwybodaeth hanesyddol.
-
A7 Annibyniaeth ddeallusol wrth osod a datrys problemau, dysgu sgiliau bywgraffyddiaethol, y gallu i gasglu, dewis, dethol, trefnu a chyfuno tystiolaeth hanesyddol, a’r gallu i lunio cwestiynau priodol ac i gynnig atebion iddynt gan ddefnyddio tystiolaeth a dadleuon dilys a pherthnasol.
-
A8 Ymwybyddiaeth atblygol a beirniadol o rymoedd newidiadau hanesyddol a’r ffyrdd y’u hesbonnir mewn dadleuon hanesyddiaethol.
-
A9 Trefnu dadleuon eglur a chydlynol ar lafar ac ar bapur, a’r gallu i wrando ac ymateb i ddadleuon eraill.
-
A10 Deall gwerth cymdeithasol Hanes, a meithrin mwynhad oesol ohono fel pwnc.
Dulliau a strategaethau dysgu/addysgu:
Dysgir 1 drwy ddarlithoedd, seminarau (sy’n cynnwys cyflwyniadau ffurfiol, trafodaethau gosod a thrafodaethau a arweinir gan fyfyrwyr), gwaith cwrs a asesir a thiwtorialau traethawd unigol. Mae’r adnoddau a geir yn Llyfrgell y Brifysgol ac yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn rhoi cymorth ychwanegol. Dysgir 2-10 drwy gyfuniad o fodiwlau Dewis ac Arolwg gydag ystod o sgiliau a modiwlau hanesyddiaethol ym Mlwyddyn 2 ac yn y Pwnc Arbennig, modiwlau’r Traethawd Estynedig a Phroblemau Hanesyddol cyffredinol ym Mlwyddyn 3. Drwy hyn oll, disgwylir i fyfyrwyr gadarnhau ac ymestyn eu gwybodaeth drwy ddarllen yn annibynnol.
Asesu:
Asesir yn ffurfiannol drwy waith cwrs (1, 3, 4-9) a chynigir adborth ar hyn i fyfyrwyr yn rheolaidd. Asesir yn gyfansymiol drwy gyfuniad o arholiadau caeedig nas gwelwyd o’r blaen (1, 4-10), arholiadau amser-rhydd (8), prosiectau (6) a thraethawd estynedig (1-9). Mae dulliau asesu llafar yn cael eu profi ar hyn o bryd drwy gyfrwng cyflwyniadau ffurfiol (9).
Information provided by Department of History and Welsh History:
-
B1 Arfer â natur gymhleth ac amrywiol y pwnc a chymharu mewn ffordd ddeallus ar draws ffiniau amser a lle
-
B2 Rhesymu yn feirniadol
-
B3 Defnyddio dulliau a chysyniadau hanesyddol
-
B4 Dangos annibyniaeth barn
-
B5 Lledaenu gwybodaeth a syniadau i eraill, ar lafar ac ar bapur
Dulliau a strategaethau dysgu/addysgu:
Datblygir sgiliau deallusol gydol y Rhaglen mewn amrywiol ffyrdd. Mae’r rhain yn cynnwys datblygu sgiliau gwrando mewn darlithoedd a sgiliau deall wrth ddarllen a chymryd nodiadau (1), seminarau, dosbarthiadau tiwtorial, traethodau estynedig a gwaith cwrs (1-5)
Asesu:
Mae pob un o’r dulliau asesu yn mesur gallu’r myfyriwr ym mhob un o’r sgiliau deallusol uchod drwy ymatebion ysgrifenedig mewn amryw ffurf. Nid yw cyflwyniadau llafar yn cael eu hasesu’n ffurfiol ar hyn o bryd, ond fe’u datblygir mewn gwaith seminar a thiwtorial.
Sgiliau ymarferol
-
C1 Chwilio, dewis, cymhathu a chyflwyno casgliadau o dystiolaeth hanesyddol o amryw ffynonellau
-
C2 Arddangos hunanddisgyblaeth wrth reoli amser a’r gallu i weithio yn annibynnol a chyda phobl eraill
-
C3 Darllen ffynonellau eilradd yn feirniadol
-
C4 Dadansoddi ffynonellau cynradd mewn ffyrdd cymhleth, gan gynnwys y gallu i olrhain eu tarddiad, i ddadansoddi eu cynnwys a’u hiaith, ac i’w croesgyfeirio â ffynonellau cynradd ac eilradd eraill
Dulliau a strategaethau dysgu/addysgu:
Cyflwynir y sgiliau ymarferol hyn i bob myfyriwr drwy fodiwlau craidd Blwyddyn 1, ac fe’u datblygir ymhellach ym Mlynyddoedd 2 a 3 ym mhob modiwl. Mae llawlyfrau modiwlau ac Arweinlyfrau’r Flwyddyn yn cynnig arweiniad pellach, yn enwedig mewn perthynas ag ysgrifennu a pharatoi traethodau. Mae modiwlau sgiliau Blwyddyn 2 yn cyflwyno cyfres o sgiliau hanesyddol penodol, megis tystiolaeth lafar, TG, dadansoddi ystadegau, a’r defnydd o ystod eang o dystiolaeth o gofebau maes i newyddiaduraeth. Dosberthir Llawlyfr Traethawd Estynedig i bob myfyriwr Blwyddyn 3, ac mae’r Modiwl Traethawd Estynedig yn cynnig cyngor manwl ar sut i ddewis pwnc, chwilio am ffynonellau, a strwythuro a chyflwyno’r traethawd terfynol. Caiff Sgiliau Asesu 1-3 eu hasesu’n bennaf drwy waith cwrs ac arholiadau, ac asesir 4, sy’n elfen bwysig wrth asesu pob modiwl, yn bennaf drwy draethodau, prosiectau ac arholiadau a welwyd ac nas gwelwyd o’r blaen yn y modiwlau Sgiliau, Pwnc Arbennig a Thraethawd Estynedig.
Information provided by Department of History and Welsh History:
D1 Arddangos arweiniad ac ysgogiad, hunangyfeiriad a hunangymhelliant D2 Arddangos hyblygrwydd ac annibyniaeth barn D3 Arddangos sgiliau cyflwyno a chyfathrebu effeithiol, ar lafar ac ar bapur D4 Rheoli amser a chadw at ddyddiadau cau D5 Chwilio a chanfod gwybodaeth mewn amrywiaeth eang o ffynonellau D6 Rhoi ffurfiau amrywiol o wybodaeth (sy’n aml yn anghyflawn) yn eu cyd-destun, eu gwerthuso a’u croesgyfeirio D7 Gweithio’n adeiladol mewn grwpiau, ac asesu gwerth a pherthnasedd syniadau a dadleuon eraill. Dulliau a strategaethau dysgu/addysgu Mae’r Rhaglen yn datblygu’r rhinweddau hyn yn gynyddol, a thrwy nifer o ffyrdd. Dysgir 1 a 2 yn bennaf drwy baratoi traethodau a seminarau a thiwtorialau traethawd unigol a thrafodaethau seminar; dysgir 3 a 4 drwy ysgrifennu traethodau/prosiectau, a chyflwyno mewn dosbarthiadau tiwtorial a seminarau. Datblygir 5 drwy bob ymarfer y gwneir gwaith ymchwil ar ei gyfer, o baratoi traethodau a seminarau i’r Traethawd Estynedig. Mae 6-7 yn elfennau cryf ym mhob agwedd o’r Rhaglen. Asesu Mae meini prawf marcio’r Rhaglen yn gwobrwyo safon a ddangosir drwy 1-3 a 5 a 6 yn ffurfiannol ac yn gyfansymiol. Nid asesir 4 yn ffurfiol, ond cosbir gwaith cwrs a gyflwynir ar ôl y dyddiad cyflwyno a gytunwyd. Nid asesir 7 yn ffurfiol.
BA Hanes [V101]
Academic Year: 2024/2025Single Honours scheme - available from 1999/2000
Duration (studying Full-Time): 3 yearsCyflwyno Hanes
Concwest, Uno a Hunaniaeth yng Nghymru 1200-1800
Medieval and Early Modern Britain and Europe, 1000-1800
The Modern World, 1789 to the present
Cydio mewn Hanes: Ffynonellau a'u Haneswyr
Ewrop a'r Byd, 1000-2000
Cymdeithas, Pobl a Gwleidyddiaeth: Cymru, 1800-1999
'Hands on' History: Sources and their Historians
Europe and the World, 1000-2000
People, Power and Identity: Wales 1200-1999
Llunio Hanes
Gwrando ar Hanes: Y mudiad Hawliau Sifil yn America
Memory, Myth and History: Investigating Medieval Chronicles, c. 1000-1250
Interdisciplinary and decolonial history
Victorian Visions: Exploring Nineteenth-Century Exhibitions
Recounting Racism: Oral History and Modern American Race Relations.
Rhyfel Cartref America
Stori yr Unol Daleithiau ar Ffilm a Theledu, 1865-2008
The Tudors: A European Dynasty?
Magic in the Middle Ages: From Antiquity to the Eve of the Witch Craze
Media and Society in Twentieth Century Britain
African-American History, 1808 to the Present
Science, Religion and Magic
Cymru a Brenhinoedd Prydain: Gwrthdaro, Grym a Hunaniaeth yn Ynysoedd Prydain, 1039-1417
Trosedd, Terfysg a Moesoldeb yng Nghymru 1750-1850
The Making of Europe: Christendom and beyond, c. 1000-1300
Germany since 1945
The Atlantic World, 1492-1825
Southeast Asia at the crossroads (c.1400 to the present)
Crime, Riot and Morality in Wales 1750-1850
Gwrthryfel Glyndŵr 1: Hynt a Helynt y Gwrthryfel
Cathedrals in Medieval England and Wales Part 1
The English Reformation, 1520-58: Revolution and Counter Revolution
From Burma to Myanmar (Part I): colonial Burma under British rule (1824-1941)
The Invisible Empires: The First Ku Klux Klan and American Society, 1865-1915
Gwrthryfel Glyndŵr 2: Cwestiynau Allweddol
Cathedrals in Medieval England and Wales Part 2
The English Reformation, 1558-1648: Consolidation and Conflict
From Burma to Myanmar (Part II): Challenges for a young nation state since 1942
The Invisible Empires: The Second Ku Klux Klan and American Society, 1915-1944
Rhyfel Cartref America
Stori yr Unol Daleithiau ar Ffilm a Theledu, 1865-2008
The Tudors: A European Dynasty?
Magic in the Middle Ages: From Antiquity to the Eve of the Witch Craze
Media and Society in Twentieth Century Britain
Science, Religion and Magic
African-American History, 1808 to the Present
Cymru a Brenhinoedd Prydain: Gwrthdaro, Grym a Hunaniaeth yn Ynysoedd Prydain, 1039-1417
Trosedd, Terfysg a Moesoldeb yng Nghymru 1750-1850
The Making of Europe: Christendom and beyond, c. 1000-1300
Germany since 1945
The Atlantic World, 1492-1825
Southeast Asia at the crossroads (c. 1400 to the present)
Crime, Riot and Morality in Wales 1750-1850