Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Traethawd 2000 o eiriau | 70% |
Asesiad Ailsefyll | Ymarferiad llyfryddiaethol 1000 o eiriau | 30% |
Asesiad Semester | Ymarferiad llyfryddiaethol 1000 o eiriau | 30% |
Asesiad Semester | Traethawd 2000 o eiriau | 70% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
gwneud ymarferion llyfryddiaethol syml ond angenrheidiol
darllen deunydd hanesyddol eilaidd gan arfer rhywfaint o grebwyll beirniadol
cydnabod yr angen i ddilyn arferion gorau wrth gynnal ymchwil
mynd i'r afael a dadleuon hanesyddol a chynnig sylwadau ar briod rinweddau safiadau hanesyddol
dangos eu bod wedi mynd i'r afael a deunydd eilaidd ar lafar (ni asesir y gwaith hwn) ac mewn gwaith ysgrifenedig (asesedig)
myfyrio'n feirniadol ar eu safbwyntiau hanesyddol eu hun ac, o astudio rhagor ar lefel gradd, ragweld pa mor berthnasol fydd meddu ar ragor o sgiliau
Disgrifiad cryno
Amcan y cwrs hwn yw rhoi i'r myfyrwyr hynny nad ydynt wedi astudio hanes ar lefel gradd rai o'r `sgiliau' pwysicaf, er mor sylfaenol ydynt, y bydd eu hangen arnynt yn ystod eu gradd. Trwy gyfres o seminarau cyflwynir i'r myfyrwyr amrediad o sgiliau, technegau ac ymarferion fydd yn cynnwys elfennau sylfaenol sydd yn ymwneud ag astudiaethau israddedig yn ogystal ag arferion yr hanesydd. Bydd darlithoedd atodol yn ychwanegu at y dull hwn sy'r seiliedig ar sgiliau ac yn nodi'r fras y materion hynny sy'r ganolog i waith yr hanesydd.
Cynnwys
.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Addasrwydd a gwydnwch | Anogir myfyrwyr i ystyried y rhwystrau y gallent ddod ar eu traws a chynllunio ar gyfer y rheini, datblygu cynlluniau realistig o ran cwrdd â thargedau, arolygu a monitro eu cynnydd mewn ffordd ddisgybledig a realistig. |
Cydlynu ag erail | Deall y cysyniad o ddeinameg grwp; cyfrannu at osod targedau grwp; cyfrannu’n effeithiol at gynllunio gweithgareddau grwp; cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau grwp; ymarfer medrau trin a thrafod, a medrau perswad; gwerthuso gweithgareddau grwp a chyfraniad personol. |
Cyfathrebu proffesiynol | Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau hanfodol o ran cyflwyno syniadau mewn seminarau ac hefyd drwy'r asesiadau. Dyma un o'r sgiliau sylfaenol ar gyfer astudio ac ymchwilio hanes felly mae'n elfen bwysig yn y modiwl craidd yn y flwyddyn gyntaf. Bydd y cyfraniadau ysgrifenedig yn cael eu hasesu. |
Datrys Problemau Creadigol | .Nodi problemau; nodi ffactorau a allai effeithio ar atebion posibl; datblygu meddylfryd creadigol tuag at ddatrys problemau; gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posibl; llunio cynnig rhesymegol wrth ymateb i broblem. |
Gallu digidol | Bydd gweithio gyda ffynonellau digidol a dod i arfer â defnyddio nifer o adnoddau digidol yn rhan o'r modiwl. |
Meddwl beirniadol a dadansoddol | Wrth baratoi'r asesiadau, bydd angen i fyfyrwyr ddadansoddi deunydd amrywiol, gan bwyso a mesur beth i gynnwys, beth sy'n berthnasol a sut i lunio a chyflwyno dadl sy'n arghoeddi. |
Sgiliau Pwnc-benodol | Cyflwynir myfyrwyr i sgiliau hanfodol a fydd yn eu cynorthwyo drwy gydol eu cyfnod yn astudio yn yr Adran, gan osod sylfaen o ran ymarfer academaidd, dulliau astudio a ffyrdd o gyflwyno'u gwaith i gydfynd â disgwyliadau'r ddisgyblaeth. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4