Module Information

Cod y Modiwl
HA26820
Teitl y Modiwl
Rhyfel Cartref America
Blwyddyn Academaidd
2024/2025
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Exclusive (Any Acad Year)
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Arholiad agored  2000 o eiriau  50%
Asesiad Ailsefyll Traethawd ysgrifenedig  2000 o eiriau  50%
Asesiad Semester Arholiad agored  2000 o eiriau  50%
Asesiad Semester Traethawd ysgrifenedig  2000 o eiriau  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Dangos dealltwriaeth gyffredinol o hanes Rhyfel Cartref America, ei achosion a’i ganlyniadau.

Gwerthuso dehongliadau hanesyddiaethol o'r pwnc, yn cynnwys barnau hanesyddiaethol presennol.

Dangos dealltwriaeth o’r rhan a chwareuwyd gan Gymry yn yr ymgyrchoedd, a sut ddylanwadodd yr ymladd ar gymunedau Cymreig yn America, yn ogystal ag ar gymdeithas yng Nghymru.

Deall a dadansoddi’n feirniadol cynnyrch megis ysgrifau gwleidyddion ac erthyglau yn y papurau newydd yn ystod y rhyfel.

Gwerthuso amrywiaeth o dystiolaeth, yn y Gymraeg ac yn Saesneg, sy’n adlewyrchu agweddau pobl cyfredol tuag at y digwyddiadau.

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl yma yn canolbwyntio ar hanes Rhyfel Cartref America, un o ddigwyddiadau ffurfiannol yr Unol Daleithiau sydd dal yn effeithio ar ddiwylliant a gwleidyddiaeth America heddiw. Mae’r themâu a drafodir yn cynnwys caethwasiaeth, cenedlaetholdeb, hanes filwrol, personoliaeth a dylanwad Lincoln, a dylanwad y rhyfel ar y Cymry Cymraeg. Bydd y cwrs felly yn trafod amryw o agweddau ar y Rhyfel Cartref, a chefnogi hwn gyda thrafodaeth o ffynonellau gwreiddiol. Gan ddechrau yn yr 1850au a chynnig amlinelliad o wlad a gwleidyddiaeth yr Unol Daleithiau, bydd y cwrs yn symud ymlaen i drafod gwahaniaethau rhwng y Gogledd a’r De, a’r rhesymau am ddechreuad y rhyfel. Ar ôl trafod ystod eang o themâu a hanes milwrol y rhyfel, daw’r cwrs i ben wrth amlinellu effeithiau’r rhyfel a’r Adluniad (Reconstruction). Bydd profiad pobol Duon, yn cynnwys caethwasiaeth a’u profiad nhw o’r rhyfel, yn thema ganolog trwy gydol y cwrs. Byddwn hefyd yn ystyried yn agos profiad y Cymry o’r rhyfel a chymryd mantais o’r dewis eang o ffynonellau gwreiddiol sydd ar gael yn y Gymraeg.

Cynnwys

1. Cyflwyniad – y Gogledd a’r De; Caethwasiaeth; Cyflwyniad i hanesyddiaeth y pwnc
Seminar: Hanesyddiaeth

2. Achosion y Rhyfel – Caethwasiaeth; Gwleidyddiaeth yr 1850au; Abraham Lincoln
Seminar: Caethwasiaeth

3. Ymladd y Rhyfel 1 – Datblygu byddin; ‘King Cotton’ ac amcanion y De; Bull Run cyntaf i Antietam
Seminar: Yr Argyfwng Arwahanu

4. Ymladd y Rhyfel 2 – Antietam i Gettysburg; Diplomyddiaeth; Cadfridogion y Gogledd a’r theatrau gwahanol
Seminar: Y Cadfridogion a’r milwyr

5. Ymladd y Rhyfel 3 – Ennill a Cholli; Ailethol Lincoln; Rhyddhad Caethweision
Seminar: Rhyddhau’r Caethweision

6. Y Cymry a’r Rhyfel – y Cymry yn America; America yng Nghymru; llythyron a phrofiadau
Seminar: Ffynonellau’r Cymry yn America

7. Y Rhyfel a’r Gorllewin – ehangiad gorllewinol America; Gwahaniaethau’r Gorllewin mewn cymdeithas a rhyfel; y
brodorion a’r rhyfel
Seminar: Y Cymry yn y Gorllewin a’r rhyfel

8. Y Ffrynt Gartref – diwydiant a gweithwyr; profiad menywod
Seminar: Menywod a’r Rhyfel

9. Abraham Lincoln fel arweinydd; hanes dynion mawr a hanes pobol llai
Seminar: Abraham Lincoln

10. Adluniad a heddwch; problemau economaidd; pobl duon; carpetbaggers; Ulysses S. Grant
Seminar: Problemau adluniad

11. Adolygiad
Seminar adolygu

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Darllen o fewn cyd-destunau gwahanol ac at ddibenion gwahanol; gwrando’n effeithiol; ysgrifennu ar gyfer dibenion a chynulleidfaoedd gwahanol
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygu ymwybyddiaeth o fedrau personol, safbwyntiau a nodweddion personol, yng nghyd-destun dilyniant cwrs; cynllunio a pharatoi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol.
Datrys Problemau Nodi problemau; nodi ffactorau a allai effeithio ar atebion posibl; datblygu meddylfryd greadigol tuag at ddatrys problemau; gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posibl; llunio cynnig rhesymegol wrth ymateb i broblem.
Gwaith Tim Deall y cysyniad o ddeinameg grŵp; cyfrannu at osod targedau grŵp; cyfrannu’n effeithiol at gynllunio gwaithgareddau grŵp; cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau grŵp; ymarfer medrau trin a thrafod, a medrau perswâd; gwerthuso gweithgareddau grŵp a chyfraniad personol.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Dangos ymwybyddiaeth o ddulliau dysgu, hoffterau ac anghenion personol, a’r rhwystrau rhag dysgu; cynllunio a gweithredu strategaethau dysgu a hunanreolaeth realistig; creu cynllun gweithredu personol a fydd yn cynnwys targedau tymor byr a thymor hir; arolygu a monitro cynnydd, gan adolygu’r cynllun gweithredu yn ôl y galw, er mwyn gwella perfformiad cyffredinol.
Sgiliau pwnc penodol Datblygu’r gallu i werthuso ffynonellau perthnasol i’r cyfnod a’r maes ynghyd â’r gallu i ymdrin yn feirniadaol â’r llenyddiaeth eilaidd sy’n ymwneud â Rhyfel Cartref America.
Sgiliau ymchwil Deall ystod o ddulliau ymchwil; cynllunio a chyflawni ymchwil; cynhyrchu adroddiadau academaidd addas.
Technoleg Gwybodaeth Defnyddio amrywiaeth o becynnau meddalwedd a ddefnyddir yn gyffredin; paratoi a mewngofnodi data; rheoli systemau storio; cyflwyno gwybodaeth a data; defnyddio’r we yn briodol ac yn effeithiol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5