Yr Iaith Gymraeg

Shwmae a chroeso i Brifysgol Aberystwyth. Mae’r Gymraeg yn iaith fyw yn Aberystwyth a thrwy Gymru gyfan.

Oeddech chi’n gwybod bod 562,000 o bobl (19%) yn siarad Cymraeg yn ôl Cyfrifiad 2011, ac yng Ngheredigion bod tua hanner (47.3%) y boblogaeth yn siarad Cymraeg?  

Mae’r Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru ag iddi statws cyfartal â’r Saesneg. Mae hyn yn golygu y gwelwch chi’r ddwy iaith yn cael eu defnyddio ar arwyddion ac arddangosiadau, cewch eich cyfarch yn ddwyieithog ar y ffôn a chaiff gwasanaethau eu cynnig yn Gymraeg neu’n Saesneg. 

Dysgu Cymraeg

Oeddech chi’n gwybod mai’r Gymraeg yw un o’r ieithoedd sy’n tyfu gyflymaf yn y DU yn ôl Duolingo? 

Yn ystod eich cyfnod yn Aberystwyth, gallech ddymuno dysgu Cymraeg. Mae digon o gyfleoedd i wneud hyn yma yn y Brifysgol. 

Os ydych chi dan 25, gallwch gofrestru ar gwrs Cymraeg am ddim. I gael rhagor o wybodaeth am ddysgu Cymraeg yn ystod eich amser yn Aberystwyth, e-bostiwch: learnwelsh@aber.ac.uk neu ewch i dudalen gwe Dysgu Cymraeg.

Tudalen Gwe Dysgu Cymraeg

Safonau’r Gymraeg

Rhestr o ofynion statudol yw Safonau’r Gymraeg sy’n egluro sut y bydd y Brifysgol yn darparu gwasanaethau yn Gymraeg. Diben y Safonau yw rhoi mwy o hawliau i bobl ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau pob dydd, i wella gwasanaethau Cymraeg ac i gynnig eglurder i sefydliadau a defnyddwyr gwasanaeth o ran pa wasanaethau a ddylid eu darparu yn Gymraeg. Disgwylir i Brifysgolion ddatblygu defnydd o’r Gymraeg ymhellach ar sail yr egwyddor na ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. Gweler grynodeb o Safonau’r Gymraeg.

Mae gan y Brifysgol ei strategaeth ei hun ar y Gymraeg. Mae Is-Strategaeth Iaith a Diwylliant Cymraeg 2019-23 yn amlygu’r prif weithgareddau sy’n golygu bod Prifysgol Aberystwyth yn sefydliad dwyieithog uchelgeisiol sy’n hwyluso ac yn hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg. Drwy gyfres o addunedau mae ‘Addewidion Aber yn amlygu ymrwymiad y Brifysgol i’r Gymraeg a sut rydym ni’n cynnig profiad Cymraeg i fyfyrwyr. 

Safonau’r Gymraeg

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cydweithio’n agos gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol (CCC) i ddatblygu cyfleoedd i fyfyrwyr astudio yn Gymraeg, pa bynnag bwnc maen nhw’n ei astudio. Mae’r CCC yn gweithio i gynyddu a sicrhau mwy o gyfleoedd i astudio yn Gymraeg, cyllido ysgoloriaethau a datblygu modiwlau a chyrsiau i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg. Mae cangen Prifysgol Aberystwyth o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yng Nghanolfan Gwasanaethau’r Gymraeg y Brifysgol. Mae’r gangen yn cefnogi gwaith y Coleg ac yn gweithredu fel man cyswllt i fyfyrwyr. Gallwch gysylltu â nhw drwy aberystwyth@colegcymraeg.ac.uk.

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

UMCA

Sefydlwyd UMCA (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth) yn 1973, ac mae’n undeb o fewn undeb y myfyrwyr sy’n cynrychioli myfyrwyr sy’n siarad Cymraeg a’r rheini sy’n dysgu Cymraeg. Os hoffech ddysgu mwy am UMCA, mae croeso i chi gysylltu â’r undeb: umca@aber.ac.uk.

UMCA