Dy Gampws

Mae gennym gampws bywiog gyda golygfeydd godidog o Fae Ceredigion. Cyfoethogir bywyd y myfyrwyr ymhellach gan Undeb Myfyrwyr bywiog, sy’n rhedeg dros 100 o glybiau a chymdeithasau gwahanol. Mae gennym ein Canolfan Chwaraeon ein hunain ar y campws gyda campfa newydd sbon efo 130 o orsafoedd i bwll nofio, llain 3G, pwll nofio, a hyd yn oed saunarium nordig. Ein Canolfan Celfyddydau ar y campws yw un o’r mwyaf yn y DU gyda theatr, mannau arddangos a pherfformio yn ogystal â sinema boutique, bar a chaffis. Darganfyddwch fwy am yr holl leoliadau hyn yn ogystal â chaffis a bwytai’r campws, llyfrgelloedd, preswylfeydd a llawer mwy.

Dy Undeb Aberystwyth (yr Undeb Myfyrwyr)

Mae Undeb Aberystwyth am i fyfyrwyr Aber garu bywyd myfyrwyr, ac yn gweithio i sicrhau bod myfyrwyr Aber yn hapus, yn iach ac wedi’u grymuso, gyda ffrindiau oes a dyfodol disglair.

Daw pob myfyriwr/wraig Prifysgol Aberystwyth yn aelod Undeb Aberystwyth yn awtomataidd, a daw aelodaeth â llawer o fuddion gwych i’ch helpu trwy gydol eich amser yn y Brifysgol; p’un ai a ydych chi am ymaelodi â chlwb chwaraeon neu gymdeithas (mae gennym dros 100 ohonynt), eisiau gwirfoddoli neu gynrychioli myfyrwyr eraill ar lefel academaidd neu fwy, neu fod eisiau cyngor annibynnol yn unig, yna rydyn ni yma i chi!

Cymerwch olwg ar wefan Undeb Aberystwyth i gael rhagor o wybodaeth neu lond rhestr o ddigwyddiadau.

Dy Undeb Aberystwyth

Dy Gyfleusterau Chwaraeon

Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleusterau chwaraeon ar y campws efo ffocws ar sicrhau fod pob myfyriwr ac aelod o staff yn cael cyfle i gymryd rhan, beth bynnag y gallu neu ddiddordebau. Os oes awydd arnat rhoi cynnig ar rywbeth newydd neu’n ymroddedig i weithgaredd penodol, mae Campws Penglais yn cynnig cyfleusterau sy’n amrywio o bwll nofio a champfa i gae 3G gyda llifoleuadau, cyrtiau sboncen a hyd yn oed sawna Nordig.

Mae’r gampfa newydd sbon yn cynnwys 130 o orsafoedd ymarfer, gan gynnwys beiciau, peiriannau rhwyfo a pheiriannau rhedeg, a gall defnyddwyr fonitro eu cynnydd ar sgriniau digidol wedi'u pweru yn bennaf gan yr ynni y maent yn ei gynhyrchu wrth iddynt ymarfer ar nifer ohonynt.

Dy Gyfleusterau Chwaraeon

Dy Ganolfan y Celfyddydau

Mae ein Canolfan Gelfyddydau ar y campws yn le perffaith i weld sioe, gwylio ffilm, mwynhau a chymdeithasu efo ffrindiau. Mae rhywbeth yma ar gyfer dant pawb, os yw'n sioe ‘West End’ Llundain neu bale ar daith, y ffilm mwyaf diweddar, ffilm neu wyl arbenig, neu gwylio rhai o'r enwau mwyaf yn y byd comedi.

Mae Canolfan y Celfyddydau yn cynnal perfformiadau gan gwmnïau teithiol rhyngwladol a chenedlaethol, yn ogystal â chynyrchiadau mewnol ei hun. Mae perfformiadau yn cael eu cynnal yn Neuadd fawr gyngerddol y ganolfan sy’n 1,200 sedd, theatr efo 300 o seddi ac yn y stiwdios llai. Mae ‘na rhaglen brysur o ddangosiadau yn y sinema 120 sedd hefyd.

Dy Ganolfan y Celfyddydau