Canllaw Croeso

Mae amrywiaeth o ganllawiau wedi eu datblygu ac maent ar gael i chi eu gweld yn ddigidol islaw. Rydym wedi casglu gwybodaeth allweddol at ei gilydd i chi allu ymgartrefu yn Aber, a'ch cyfeirio i'r lleoedd cywir trwy restrau gwirio cam wrth gam, gwybodaeth wedi'i hamserlennu, mapiau a gwybodaeth gyswllt allweddol.
Allwn ni ddim aros i'ch croesawu chi i Aberystwyth! Bydd rhagor o wybodaeth am CroesoAber 2025 ar gael yma yn fuan. Cadwch lygad am yr holl wybodaeth ddefnyddiol i'ch helpu i baratoi ar gyfer bywyd gyda ni fel myfyriwr newydd yn Aber!