Dy Rhestr Wirio ar gyfer Cofrestru - Fersiwn Byr
Cyn i chi ddechrau eich astudiaethau yn Aber, bydd angen i chi sefydlu eich cyfrif TG Prifysgol, cael mynediad i'ch cofnod myfyriwr a dechrau cofrestru ar-lein ar gyfer eich cwrs.
Dilynwch y canllaw cam wrth gam fer hwn i ddechrau ar eich taith yn y brifysgol a cliciwch ar y ddolen islaw i gael gwybodaeth fanylach ar gyfer pob cam o'r daith.
Setio fyny eich cyfrif TG Prifysgol Aberystwyth
Gwiriwch eich cyfrif e-bost personol pan fyddwch wedi bodloni holl amodau eich cwrs. Byddwch yn derbyn e-bost i sefydlu a setio fyny eich cyfrif TG prifysgol.
Gwneud cais am eich Cerdyn Aber
Unwaith eich bod wedi setio fyny eich cyfrif TG gallwch wneud cais am eich cerdyn Prifysgol. Mae angen i chi wneud cais am eich Cerdyn Aber i wneud yn sir ei fod yn barod i chi ei gasglu pan fyddwch yn cyrraedd y campws.
Gwneud Cais am eich Cerdyn AberLlawrlwytho eich Porth Myfyriwr
Mae’r Porth Myfyrwyr yn borth ar-lein i'w gwneud hi'n haws i chi gael gafael ar y wybodaeth a'r systemau sydd eu hangen arnoch yn ystod eich astudiaethau ym Mhrifysgol Aberystwyth. Am wybodaeth ar sut i gael mynediad a llawrlwytho’r Porth Myfyrwyr ewch yma:
Sut i Lawrlwytho’r Porth MyfyrwyrEwch i’r porth Ymsefydlu Myfyrwyr Ar-lein
Mae porth Ymsefydlu Myfyrwyr Ar-lein y Brifysgol yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol am yr hyn i'w ddisgwyl yn y Brifysgol yn ogystal â chanllawiau ar y cymorth a fydd ar gael i chi wrth astudio gyda ni.
Mynediad i’r porth Ymsefydlu Myfyrwyr Ar-LeinCofrestru ar gyfer eich cwrs ar-lein
Cyn i chi allu cael eich adnabod fel myfyriwr llawn amser neu ran-amser yn Aberystwyth, bydd angen i chi gwblhau’r broses o rhag-gofrestru a cofrestru. Gwiriwch eich cyfrif e-bost Prifysgol am negeseuon ynghylch rhag-gofrestru modiwlau a gallwch gael mynediad at fanylion eich cynllun astudio a'ch modiwlau craidd o'ch Cofnod Myfyrwyr:
Myfyriwr Uwchraddedig?
Er gwybodaeth nid yw'r cam hwn yn berthnasol i Fyfyrwyr Ymchwil Uwchraddedig.
Wedi eich cofrestru yn swyddogol fel myfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth...!
Unwaith y byddwch wedi cwblhau cofrestru, yna:
Ar gyfer myfyrwyr sy'n gymwys i gael benthyciadau/grantiau: Bydd cadarnhad yn cael ei anfon i'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC). Mae taliadau'n digwydd 3-5 diwrnod ar ôl cofrestru, yn uniongyrchol i'r manylion cyfrif banc a rhoddwyd.
Ar gyfer Myfyrwyr sy’n Hunan-Ariannu: Mae angen i chi dalu ffioedd dysgu yn llawn o fewn 30 diwrnod trwy borth ar-lein. Fel arall, gallwch sefydlu cynllun talu awtomatig wrth gofrestru.
Byddwch wedyn wedi cael eich cofrestru'n swyddogol fel myfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth!
Myfyriwr Uwchraddedig?
Ewch at y rhestr wirio fanylach yma am gamau pellach ynghylch cyflawni cofrestru a thaliadau.