Dy Rhestr Wirio ar gyfer Cofrestru

Cyn i chi ddechrau eich astudiaethau yn Aber, bydd angen i chi sefydlu eich cyfrif Prifysgol, cael mynediad i'ch cofnod myfyriwr a dechrau cofrestru ar-lein ar gyfer eich cwrs.

Byddwch yn derbyn e-byst pan fydd angen i chi gwblhau pob cam felly gwiriwch eich mewnflwch yn rheolaidd.

Dilynwch y canllaw cam wrth gam hwn i ddechrau ar eich taith yn y brifysgol.

1

Setio fyny eich cyfrif TG Prifysgol Aberystwyth (HANFODOL)

Bydd ein Tîm Gwasanaethau Gwybodaeth yn anfon e-bost at eich cyfeiriad e-bost personol a rhoddwyd i'r Brifysgol gyda neges o'r enw 'Eich cyfrif TG Prifysgol Aberystwyth' i sefydlu a setio fyny eich cyfrif TG prifysgol.

Pryd? Bydd yr e-bost yma yn cael ei anfon pan fyddwch wedi bodloni holl amodau eich cwrs (a elwir yn statws cadarn diamod) ac yn agosach at ddechrau'r tymor. Mae'n cynnwys cyfarwyddiadau ar gyfer creu eich cyfrif myfyriwr.

Efallai y bydd angen i chi wirio eich sbam a’ch ebost ‘junk’.

Ymgysylltwch â'r e-bost hwn cyn gynted â phosibl.

2

Setio fyny cyfrif TG Prifysgol Aberystwyth wedi ei gwblhau

O hyn ymlaen, byddwn ond yn defnyddio eich cyfeiriad e-bost prifysgol i gysylltu â chi. Gwiriwch hyn yn rheolaidd gan y byddwn yn rhannu gwybodaeth bwysig am:

  • eich Cerdyn Aber,
  • eich llety
  • eich cysylltiad rhyngrwyd a
  • chofrestru ar gyfer eich cwrs.

3

Gwneud cais am eich Cerdyn Aber (HANFODOL)

Bydd ein Tîm Gwasanaethau Gwybodaeth yn anfon e-bost at eich cyfeiriad e-bost newydd prifysgol gyda neges o'r enw 'Gwnewch gais am eich Cerdyn Aber’ i sefydlu a setio fyny eich Cerdyn Aber.

Caiff eich Cerdyn Aber ei ddefnyddio at y dibenion canlynol:

  • yn gerdyn adnabod myfyriwr
  • i gofrestru eich bod yn bresennol yn y darlithoedd
  • yn allwedd i ddrws eich ystafell wely – gan ddibynnu pa neuadd rydych chi’n byw ynddi
  • prynu bwyd ym mannau bwyta’r Brifysgol; os ydych chi’n aros mewn neuadd arlwyo neu rhan-arlwyo bydd credyd yn cael ei roi ar y cerdyn cyn i chi gyrraedd
  • benthyca o’r llyfrgell gan gynnwys defnyddio’r peiriannau hunan-fenthyca
  • defnyddio’r ystafelloedd cyfrifiaduron 24 awr
  • defnyddio'r llyfrgell tu allan i oriau craidd (i ddod mewn neu i adael)
  • argraffu, llungopïo a sganio
  • eich cerdyn Undeb y Myfyrwyr
  • eich cerdyn i’r Ganolfan Chwaraeon

Pryd? Bydd yr e-bost yma yn cael ei anfon ar ôl setio fyny eich cyfrif e-bost Prifysgol Aberystwyth.

Ymgysylltwch â'r e-bost hwn cyn gynted â phosibl.

Mae angen i chi wneud cais am eich Cerdyn Aber i wneud yn sir ei fod yn barod i chi ei gasglu pan fyddwch yn cyrraedd y campws.

4

Llawrlwytho Dy Borth Myfyriwr (HANFODOL)

Mae’r Porth Myfyrwyr yn borth ar-lein i'w gwneud hi'n haws i chi gael gafael ar y wybodaeth a'r systemau sydd eu hangen arnoch yn ystod eich astudiaethau ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Sut i Lawrlwytho?

Mae ‘na amryw o ffyrdd i gael mynediad a llawrlwytho’r Porth Myfyrwyr ar eich dyfais:

  • Ar eich dyfeisiau symudol, rydym yn argymell eich bod yn gosod ap Microsoft SharePoint ar eich dyfais. Bydd hyn yn caniatáu mynediad cyflym i wybodaeth trwy ap.
  • Fel arall os ydych chi'n defnyddio Microsoft Teams ar eich dyfais symudol, gellir defnyddio hwn hefyd i gael mynediad i'r Porth Myfyrwyr.
  • Opsiwn arall y gallech ei ddewis yw ymweld â'r Porth Myfyrwyr yn eich porwr gwe dewisol ac yna ychwanegu hwn at sgrin hafan eich dyfais.

Mae'r Cwestiynau Cyffredin canlynol yn rhoi canllaw cam wrth gam i chi i'r holl opsiynau hyn: Sut mae cael mynediad i'r Porth Myfyrwyr o fy nyfais symudol? (aber.ac.uk)

Unwaith mae setio fyny dy Borth Myfyriwr wedi ei gwblhau:

Mae'n syniad da cymryd peth amser i ymgyfarwyddo â'r Porth Myfyrwyr a'r holl deils sydd ar gael i chi.

Beth sydd yn y Porth Myfyrwyr?

Wrth i chi symud drwy’r daith i fod yn fyfyriwr yn Aberystwyth, mae'r Porth Myfyrwyr yn rhoi mynediad hawdd i chi at wasanaethau allweddol ar yr adeg iawn, megis:

Croeso ac Ymgartrefu

  • Sefydlu Myfyrwyr Ar-lein
  • Dy Gynllunydd Digwyddiadau Ymsefydlu Ar-lein
  • Wal Fideo efo Cwestiynau Cyffredin am Groeso
  • Rhestrau Gwirio Croeso
  • Blogiau Croeso

Gwybodaeth Benodol Adrannau

Gwybodaeth a Chyfathrebu

  • Dy E-Bost Prifysgol a Calendr
  • Dy Gofnod Myfyriwr
  • Y Cofrestrfa Academaidd a Dyddiadau Tymor

Astudio

  • Blackboard (Adnoddau Cwrs)
  • Amserlen ac Amserlen Arholiadau
  • Dy Borth SgiliauAber
  • Cynlluniau Astudio a Gwybodaeth Modiwlau
  • Cymorth Dysgu ac Adnoddau yr Ysgol Graddedigion

Llyfrgell a TG

  • Canllaw a Catalog Llyfrgell a TG
  • Dy Gyfrif Llyfrgell a TG
  • Argalaedd Cyfrifiaduron Cyhoeddus ac Ystafelloedd Astudio
  • Dy Rhestr Ddarllwn

Cymorth, Cyngor ac Adborth

  • Rhannu adborth a chymryd rhan mewn arolygon barn rheolaidd

Bywyd Campws

  • Ychwanegu Credyd ac Archebu Cerdyn Aber
  • Mapiau o’r Campws ac Ystafelloedd
  • Gwybodaeth am Ariannu a Chymorth
  • Ymgysylltu efo Undeb Aberystwyth

Dy Ddyfodol

  • Gwasanaeth Gyrfaoedd
  • Gwybodaeth Graddio ac Astudiaethau Uwchraddedig

5

Ymsefydlu Myfyrwyr Ar-lein (HANFODOL)

Mae modd cael mynediad i Ymsefydlu Myfyrwyr Ar-lein y Brifysgol drwy Blackboard (Adnoddau Cwrs) ac mae'n darparu gwybodaeth ddefnyddiol am yr hyn i'w ddisgwyl yn y Brifysgol yn ogystal â chanllawiau ar y cymorth a fydd ar gael i chi wrth astudio gyda ni.

Gallwch weithio drwy ddeunydd Ymsefydlu y Brifysgol yn eich amser eich hun. Archwiliwch yr adrannau, a gwnewch nodiadau o'r hyn rydych chi'n credu fydd o gymorth i chi.

Sut i’w ddarganfod?

Mae’r Ymsefydlu Myfyrwyr Ar-lein y Brifysgol wedi ei leoli o fewn y teil ‘Blackboard (Adnoddau Cwrs)’ yn y Porth Myfyrwyr:

  1. Ewch i Blackboard
  2. Mewngofnodwch efo eich cyfeiriad ebost a chyfrinair PA
  3. Cliciwch ar Mudiadau ar ochr chwith o'r wefan
  4. Cliciwch ar Sefydlu Myfyrwyr Ar-Lein / Online Student Induction

6

Cofrestru ar gyfer dy gwrs ar-lein (HANFODOL)

Bydd ein Tîm Gweinyddol Myfyrwyr yn anfon e-bost at eich cyfeiriad e-bost newydd yn y Brifysgol gyda neges o'r enw 'Rhag-Gofrestru Modiwlau ar gyfer Myfyrwyr Newydd' i'ch hysbysu am Rhag-Gofrestru ar gyfer eich cwrs ac i roi gwybod i chi pan fydd yn mynd yn fyw (nid oes rhaid i fyfyrwyr Nyrsio a Milfeddygaeth gymryd rhan yn y broses Rhag-Gofrestru).

Pryd?

Myfyrwyr y Ganolfan Addysg Gofal Iechyd (Nyrsio): Byddwch yn derbyn e-bost gan eich Adran Academaidd ar ddiwedd mis Awst i esbonio sut a phryd i gwblhau cofrestru drwy'r dasg 'Cofrestru Ar-lein' ar eich cofnod myfyrwyr ar y we.

Myfyrwyr Gwyddor Milfeddygol: Byddwch yn derbyn e-bost gan eich Adran Academaidd ar ddechrau mis Medi i esbonio sut a phryd i gwblhau cofrestru drwy'r dasg 'Cofrestru Ar-lein' ar eich cofnod myfyrwyr ar y we.

Pob Myfyriwr Newydd (gan eithrio myfyrwyr ymchwil, myfyrwyr TAR, Nyrsio neu Wyddor Milfeddygol): Byddwch yn derbyn e-bost gyda'r teitl 'Cofrestru' ar ddechrau'r tymor i esbonio sut a phryd i gwblhau cofrestru drwy'r dasg 'Cofrestru Ar-lein' ar eich cofnod myfyrwyr ar y we.

Myfyriwr Uwchraddedig?

Er gwybodaeth nid yw'r cam hwn yn berthnasol i Fyfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig.

7

Rhag-Gofrestru y modiwlau ar gyfer eich cwrs am y flwyddyn academaidd newydd (2024/25) drwy eich Cofnod Myfyrwyr (HANFODOL)

Dilynwch y dolenni bydd yn cael ei anfon atoch uchod i ddechrau rhag-gofrestru ar gyfer modiwlau eich cwrs am y flwyddyn academaidd newydd.

  • Mae rhag-gofrestru yn gam pwysig o ran cofrestru yn gyffredinol. Mae modd i fyfyrwyr sy’n dechrau cwrs newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth gymryd rhan yn y broses Rhag-gofrestru i ddewis modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd.
  • Gallwch gael mynediad at fanylion eich cynllun astudio a'ch modiwlau craidd o'ch Cofnod Myfyrwyr ar y we: Cofnod Myfyriwr
  • O'r fan honno byddwch yn gallu clicio ar y botwm Rhag-Gofrestru a fydd yn rhoi manylion llawn ar sut i symud ymlaen yn y broses.

Beth yw dy Gofnod Myfyriwr?

Yma fe welwch wybodaeth rydym wedi'i chofnodi ar eich cyfer ar eich cofnod myfyriwr, gwybodaeth fel eich manylion cyswllt, manylion personol, y cynllun yr ydych yn ei astudio a'r modiwlau yr ydych yn eu cymryd. Gallwch reoli a newid y wybodaeth hwn drwy'r cofnod myfyrwyr yma. Mae eich cofnod myfyrwyr hefyd yn cynnwys gwybodaeth am eich amserlen a dyma hefyd lle caiff marciau eich modiwl a'ch dosbarth gradd derfynol eu rhyddhau. Rydym hefyd yn defnyddio eich cofnod myfyriwr i arddangos tasgau y mae angen i chi eu cwblhau o bryd i'w gilydd ac mae'n bwysig eich bod yn mewngofnodi i'ch porth cofnod myfyrwyr yn rheolaidd i sicrhau bod eich gwybodaeth yn gyfredol ac nad oes gennych unrhyw dasgau yn aros i chi eu cwblhau.

Myfyriwr Uwchraddedig

Er gwybodaeth nid yw'r cam hwn yn berthnasol i Fyfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig 

8

Cwblhau Cofrestru ar gyfer eich Cwrs (HANFODOL)

Cyn i chi allu cael eich adnabod fel myfyriwr llawn amser neu ran-amser yn Aberystwyth, bydd angen i chi gwblhau’r broses o gofrestru.

Dewis modiwlau

  • Y modiwlau sy'n ymddangos ar eich Cofnod Myfyrwyr i ddechrau yw'r modiwlau craidd ar gyfer eich cynllun astudio.
  • Ni fydd angen i fyfyrwyr sydd yn cymryd cyfanswm o 120 credyd o fodiwlau craidd gwblhau’r broses o rhag-gofrestru oherwydd bydd eu modiwlau wedi lwytho yn awtomatig.
  • Os yw'n berthnasol, bydd cyfle i drafod dewis modiwlau yn rhan o’ch sesiynau ymsefydlu adrannol yn ystod eich wythnos gyntaf yn y Brifysgol.
  • Os nad ydych yn siŵr am eich dewisiadau modiwl, cysylltwch â'ch adran am arweiniad.
  • Mae manylion cyswllt eich adran ar gael yma: Gwasanaethau Ymholiad Rhithwir  : Myfyrwyr , Prifysgol Aberystwyth

Cofrestru Ar-lein

  • Unwaith y bydd eich adran (au) wedi cymeradwyo eich dewisiadau modiwl, yna bydd angen i chi gwblhau 'Cofrestru Ar-lein' yn eich Cofnod Myfyriwr.
  • Bydd y botwm Cofrestru Ar-lein yn ymddangos ar eich Cofnod Myfyrwyr o dan 'Fy Nhasgau'.
  • Os byddwch angen help i gwblhau'r dasg Cofrestru Ar-lein, peidiwch â phoeni, bydd digon o gymorth ar gael naill ai drwy:
  1. Cysylltu â'r Tîm Gweinyddol Myfyrwyr drwy'r botwm 'Sgwrsio' ar eich Cofnod Myfyrwyr.
  2. E-bostio ugfstaff@aber.ac.uk 
  3. Cysylltu â'r Tîm Gweinyddol Myfyrwyr dros y ffôn fel yr amlinellir yma: Materion Israddedigion  : Cofrestrfa Academaidd , Prifysgol Aberystwyth
  4. Ymweld â'r Swyddfa Gweinyddu Myfyrwyr ar lawr cyntaf Adeilad Cledwyn sydd ar agor bob dydd o ddydd Llun i ddydd Iau: 9am tan 5pm a dydd Gwener: 9am i 4pm.
  5. Dewch draw i'r Parth Cofrestru lle bydd desgiau cymorth ar waith ar Lefel D Llyfrgell Hugh Owen, lle bydd staff yn gallu cwrdd â chi'n bersonol ar:
    • Ddydd Llun 23 Medi 9.00 am – 5.00 pm
    • Ddydd Mawrth 24 Medi 9.00 am – 5.00 pm
    • Ddydd Mercher 25 Medi 9.00 am – 5.00 pm

Myfyriwr Uwchraddedig?

Er gwybodaeth mae’r cam yma yn berthnasol i Fyfyrwyr Ôl-raddedig a addysgir, ond nid yw'n berthnasol i Fyfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig.

9

Wedi eich cofrestru yn swyddogol fel myfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth...! (HANFODOL)

Unwaith y byddwch wedi cwblhau cofrestru, yna:

Ar gyfer myfyrwyr sydd wedi gwneud cais ac sy'n gymwys i gael benthyciadau / grantiau:

Bydd cadarnhad yn cael ei anfon ymlaen at y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr a bydd taliadau'n cael eu gwneud 3-5 diwrnod gwaith wedi cofrestru, yn uniongyrchol at fanylion y cyfrif banc a ddarparwyd gennych i’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr.

Ar gyfer myfyrwyr sy'n talu ffioedd wedi ei hunan-ariannu (h.y. nid yw eich ffioedd dysgu yn cael ei dalu’n uniongyrchol i'r Brifysgol gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr):

Gallwch ddewis talu eich ffioedd dysgu yn llawn o fewn 30 diwrnod o gofrestru trwy borth ar-lein. Fel arall, gallwch drefnu cynllun rhandaliad taliadau yn ystod y cyfnod cofrestru. Bydd rhandaliadau'n cael eu cymryd yn awtomatig o'ch cyfrif banc ar ddyddiadau penodol y cytunwyd arnynt. Mae trefnu taliad yn hawdd a gallwch ddarllen am y dulliau yma.

Byddwch wedyn wedi cael eich cofrestru'n swyddogol fel myfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth!

Myfyriwr Uwchraddedig?

Bydd unrhyw gyllid Ôl-raddedig ar gyfer dysgu o’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn cael ei dalu'n uniongyrchol i chi fel myfyriwr ac nid yn uniongyrchol i'r Brifysgol - felly i fod yn glir, eich cyfrifoldeb chi yw i dalu ar gyfer dysgu i'r Brifysgol.

Bydd Myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig sy'n derbyn ysgoloriaethau, (gan gynnwys ffioedd a chyflogau) yn cael eu ffioedd wedi eu talu’n llawn neu'n rhannol yn ddibynnol ar eu gwobr sy’n cael ei gadarnhau yn y llythyr gwobrwyo. Bydd myfyrwyr sy'n derbyn gwobrau ffioedd rhannol yn destun i'r telerau safonol ar gyfer y balans ffioedd sy'n weddill. Gwnewch yn siŵr bod eich cofnod myfyriwr yn cael ei ddiweddaru gyda'ch manylion banc, er mwyn sicrhau bod taliadau cyflog yn cael eu talu mewn modd amserol.

Mae cyflogau yn cael eu talu bob tri mis, ac wedi eu trefnu ar gyfer dydd Gwener olaf mis Medi, Rhagfyr, Mawrth a Mehefin. Mae taliad mis Medi yn amodol ar gwblhau cofrestru ac fel arfer mae taliad mis Rhagfyr yn gynharach oherwydd bod y Brifysgol wedi cau am gyfnod y Nadolig.