Cofrestru

Ar y dudalen yma, mae popeth sydd angen i chi wybod o ran cofrestru gyda ni, a'r gwahanol gamau sydd angen i chi gwblhau i fod yn fyfyriwr swyddogol ym Mhrifysgol Aberystwyth!

Mae ‘na ddau restr wirio. Mae un yn ganllaw cam wrth gam syml, a'r llall yn fersiwn ychydig mwy manwl os oes angen mwy o wybodaeth arnoch.

Byddwch yn derbyn e-byst pan fydd angen i chi gwblhau pob cam felly gwiriwch eich mewnflwch yn rheolaidd ar ôl actifadu eich cyfrif TG Prifysgol Aberystwyth. Mae’n werth nodi'r rhestr wirio yma hefyd fel y gallwch chi neidio'n ôl i mewn pryd bynnag y bydd angen.

Dy Rhestr Wirio ar gyfer Cofrestru

Cyn i chi ddechrau eich astudiaethau yn Aber, bydd angen i chi sefydlu eich cyfrif TG Prifysgol, cael mynediad i'ch cofnod myfyriwr a dechrau cofrestru ar-lein ar gyfer eich cwrs.

Dilynwch y canllaw cam wrth gam fer hwn i ddechrau ar eich taith yn y brifysgol a cliciwch ar y ddolen islaw i gael gwybodaeth fanylach ar gyfer pob cam o'r daith.

Gwelwch y Rhestr Wirio ar gyfer Cofrestru manylach yma

1

Setio fyny eich cyfrif TG Prifysgol Aberystwyth

Gwiriwch eich cyfrif e-bost personol pan fyddwch wedi bodloni holl amodau eich cwrs. Byddwch yn derbyn e-bost i sefydlu a setio fyny eich cyfrif TG prifysgol.

Ystafell Wely
2

Gwneud cais am eich Cerdyn Aber

Unwaith eich bod wedi setio fyny eich cyfrif TG gallwch wneud cais am eich cerdyn Prifysgol. Mae angen i chi wneud cais am eich Cerdyn Aber i wneud yn sir ei fod yn barod i chi ei gasglu pan fyddwch yn cyrraedd y campws.

Desg Gymorth Gwneud Cais am eich Cerdyn Aber
3

Llawrlwytho eich Porth Myfyriwr

Mae’r Porth Myfyrwyr yn borth ar-lein i'w gwneud hi'n haws i chi gael gafael ar y wybodaeth a'r systemau sydd eu hangen arnoch yn ystod eich astudiaethau ym Mhrifysgol Aberystwyth. Am wybodaeth ar sut i gael mynediad a llawrlwytho’r Porth Myfyrwyr ewch yma:

Myfyrwyr yn defnyddio cyfrifiadur Sut i Lawrlwytho’r Porth Myfyrwyr
4

Ewch i’r porth Ymsefydlu Myfyrwyr Ar-lein

Mae porth Ymsefydlu Myfyrwyr Ar-lein y Brifysgol yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol am yr hyn i'w ddisgwyl yn y Brifysgol yn ogystal â chanllawiau ar y cymorth a fydd ar gael i chi wrth astudio gyda ni. 

Myfyriwr yn defnyddio cyfrifiadur Mynediad i’r porth Ymsefydlu Myfyrwyr Ar-Lein
5

Cofrestru ar gyfer eich cwrs ar-lein

Cyn i chi allu cael eich adnabod fel myfyriwr llawn amser neu ran-amser yn Aberystwyth, bydd angen i chi gwblhau’r broses o rhag-gofrestru a cofrestru. Gwiriwch eich cyfrif e-bost Prifysgol am negeseuon ynghylch rhag-gofrestru modiwlau a gallwch gael mynediad at fanylion eich cynllun astudio a'ch modiwlau craidd o'ch Cofnod Myfyrwyr:

Myfyriwr Uwchraddedig?

Er gwybodaeth nid yw'r cam hwn yn berthnasol i Fyfyrwyr Ymchwil Uwchraddedig.

Myfyriwr yn defnyddio cyfrifiadur Mynediad i’ch Cofnod Myfyrwyr
6

Wedi eich cofrestru yn swyddogol fel myfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth...!

Unwaith y byddwch wedi cwblhau cofrestru, yna:

Ar gyfer myfyrwyr sy'n gymwys i gael benthyciadau/grantiau: Bydd cadarnhad yn cael ei anfon i'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC). Mae taliadau'n digwydd 3-5 diwrnod ar ôl cofrestru, yn uniongyrchol i'r manylion cyfrif banc a rhoddwyd.

Ar gyfer Myfyrwyr sy’n Hunan-Ariannu: Mae angen i chi dalu ffioedd dysgu yn llawn o fewn 30 diwrnod trwy borth ar-lein. Fel arall, gallwch sefydlu cynllun talu awtomatig wrth gofrestru.

Byddwch wedyn wedi cael eich cofrestru'n swyddogol fel myfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth!

Myfyriwr Uwchraddedig?

Ewch at y rhestr wirio fanylach yma am gamau pellach ynghylch cyflawni cofrestru a thaliadau.

Aberystwyth o'r awyr

Gwybodaeth Bellach

Dy Adran Academaidd

Mae eich Adran Academaidd methu aros i'ch croesawu ar ddechrau Wythnos Groeso Aber 2024 a thu hwnt.

Darganfyddwch yma am ble i fynd, gweithgareddau a digwyddiadau sydd wedi'u cynllunio i dy helpu i ymgartrefu, gwneud ffrindiau ac addasu i fywyd yn rhan o'ch adran newydd.

Bydd cyfleoedd yn ystod yr wythnos a thu hwnt i ddod i adnabod eich tiwtoriaid personol, a dysgu mwy am sut mae eich adran wedi ymrwymo i gefnogi eich llwyddiant academaidd a'ch datblygiad proffesiynol o'r cychwyn cyntaf.

Dy Adran Academaidd

Cwestiynau Cyffredin Croeso

Gwyliwch ein amrywiaeth o Gwestiynau Cyffredin ar gyfer eich cyfnod Croesawu ac Ymsefydlu yma’n Aber, mewn ffurf fideos fer a ddyluniwyd ac wedi eu cyflwyno gan ein myfyrwyr presennol...

Dy Gwestiynau Cyffredin Croeso