Gwastraff ac ailgylchu ar y campws
Mae Adriana Cahill, a raddiodd yn yr haf gyda gradd mewn Busnes a Newid Hinsawdd ac sydd bellach ar fin dechrau astudio MSc mewn Busnes a Marchnata Rhyngwladol yn ysgrifennu am sut y gallwch chi chwarae eich rhan i leihau gwastraff plastig a helpu i ailgylchu yn eich llety ac ar y campws:
Rhywbeth a all beri syndod i chi pan fyddwch yn cyrraedd y Brifysgol am y tro cyntaf yw'r diwylliant o gynaliadwyedd sy'n gyson ledled y campws.
Prifysgol Ddi-blastig
Yn 2018, Prifysgol Aberystwyth oedd y Brifysgol gyntaf yn y Byd i gael tystysgrif 'Prifysgol Ddi-Blastig'. Dyfarnwyd yr ardystiad hwn gan yr elusen cadwraeth forol Surfers Against Sewage, i dynnu sylw at ymrwymiad y Brifysgol i helpu i leihau llygredd plastig yn amgylchedd y môr.
Mae'r Brifysgol wedi addo lleihau ei defnydd o blastigau untro ar draws y campws. Mae siop Undeb y Myfyrwyr yn gwerthu cwpanau coffi y gellir eu hailddefnyddio wedi'u brandio gan Brifysgol Aberystwyth - mae gen i un coch, pert.
Gwahanu gwastraff ar y campws ac mewn llety
Mae Cymru yn yr ail safle yn y byd o ran ailgylchu, y tu ôl i Awstria, ac mae gwahanu gwastraff yn gywir yn cael ei gymryd o ddifrif yma.
Yn gynharach eleni, cafodd cyfreithiau newydd eu cyflwyno yng Nghymru sy'n golygu bod yn rhaid didoli gwastraff yn y Brifysgol i'w ailgylchu.
Os ydych chi'n fyfyriwr rhyngwladol fel fi, efallai y byddwch chi'n gweld y system biniau yma ychydig yn ddryslyd. Ar y campws, mae'r biniau wedi'u rhannu'n 5 categori: Ailgylchu gwydr, ailgylchu cardfwrdd, ailgylchu plastig a metel, gwastraff bwyd, a gwastraff cyffredinol na ellir ei ailgylchu.
Mae angen golchi cynwysyddion i gael gwared ar unrhyw fwyd a adawyd ar ôl cyn eu rhoi yn eu biniau penodedig.
Mae gwybodaeth ar gael yma am yr hyn sy'n mynd i mewn i ba fin: www.aber.ac.uk/cy/efr/facilities/gwastraff/
Os ydych yn byw yn llety'r Brifysgol, gallwch gael y bagiau ailgylchu a’r bagiau ar gyfer y bin gwastraff bwyd gan y Swyddfa Llety, ond bydd angen i chi brynu'r bagiau bin gwastraff cyffredinol (lluniwyd rota yn fy fflat i ar gyfer prynu eitemau cymunedol fel bagiau bin du a sebon cegin).
Rwy'n gobeithio bod y blog hwn wedi eich helpu i ddarganfod mwy am sut y gallwch fod ychydig yn fwy gwyrdd yn ystod eich amser yn Aber.
Oni nodir yn wahanol, barn yr awdur yw’r safbwyntiau sydd yn y blogiau hyn ac nid ydynt o reidrwydd yn cynrychioli barn Prifysgol Aberystwyth.
Tîm Croesawu ac Ymgartrefu Myfyrwyr, Gwasanaethau Myfyrwyr, Canolfan Croesawu Myfyrwyr, Campws Penglais, Aberystwyth, SY23 3FB
Ebost: croeso@aber.ac.uk