Yr Amgylchedd a chynaliadwyedd yn Aberystwyth

Yn y blog yr wythnos hon, mae Adriana Cahill, sy’n astudio am radd Meistr, yn trafod rhai o'r ffydd o gymryd rhan mewn materion gwyrdd yn y Brifysgol:

Mae llawer o gyfleoedd i ymuno  â’r ymdrechion gwaith amgylcheddol a chynaliadwyedd ym Mhrifysgol Aberystwyth - yn amrywio o wneud newidiadau bach, fel dod â chwpan coffi y gellir ei ailddefnyddio i'r caffis ar y campws, i ymrwymiadau mwy fel ymuno â grwpiau gwirfoddol a chymryd rhan yn eu digwyddiadau.

Mae cymryd camau bach cychwynnol yn ffordd wych o ddechrau’ch taith i gynaliadwyedd. Mae siop Undeb y Myfyrwyr yn gwerthu cwpanau coffi y gellir eu hailddefnyddio ac fe allwch eu defnyddio mewn unrhyw gaffi ar y campws, ac mae hynny’n golygu osgoi'r ffi cwpan untro, sef 40c.

Os oes gennych y mislif, mae gan Undeb y Myfyrwyr ystod anhygoel o gynhyrchion mislif y gellir eu hailddefnyddio ar gael yn rhad ac am ddim. Mae ganddyn nhw gwpanau mislif (sy'n cynnwys cwpan sterileiddio), dillad isaf mislif o faint S i 4XL, sydd ar gael mewn amryw steiliau, yn ogystal â phadiau y gellir eu hailddefnyddio sy'n cynnwys bag i'w storio.  

Ffordd arall o gymryd rhan fel myfyriwr yw ymuno â chlybiau a chymdeithasau amgylcheddol.  Er enghraifft, mae Gwirfoddolwyr Cadwraeth Aberystwyth (ACV) yn gwneud garddio cymunedol, plannu coed, chwynnu planhigion ymledol, a mwy. Mae ACV yn codi ffi flynyddol, sef £12, sy'n mynd tuag at gostau cludiant y clwb i’r digwyddiadau hyn. Mae cymdeithasau eraill fel Clwb Ogofa Aberystwyth a Chlwb Syrffio Prifysgol Aberystwyth yn cynnal digwyddiadau codi arian ar gyfer materion amgylcheddol a chynaliadwyedd - felly cadwch lygad ar agor am y rheini.

Mae Undeb y Myfyrwyr hefyd yn cynnal sesiynau glanhau traethau a gwaith cadwraethol eraill.  

Ceir mwy o wybodaeth am ddigwyddiadau amgylcheddol a chynaliadwyedd a gynhelir gan y Brifysgol, Undeb y Myfyrwyr, a chymdeithasau yn https://www.aber.ac.uk/cy/about-us/sustainability/environment-sustainability/digwyddiadau/

Oni nodir yn wahanol, barn yr awdur yw’r safbwyntiau sydd yn y blogiau hyn ac nid ydynt o reidrwydd yn cynrychioli barn Prifysgol Aberystwyth.