Datgloi byd ieithoedd ym Mhrifysgol Aberystwyth

Mae Renata Freeman Alegre, a ddaeth i Aberystwyth o Fecsico ac sydd ym mlwyddyn olaf cwrs gradd anrhydedd cyfun mewn Cysylltiadau Rhyngwladol ac Economeg, yn ysgrifennu am y llu o gyfleoedd sydd i’w cael yn Aberystwyth i ddysgu iaith newydd:

Ydych chi'n barod i blymio i fyd lliwgar ieithoedd? P'un a ydych chi'n ieithydd brwd neu'n chwilfrydig am ddysgu iaith newydd, mae gan Brifysgol Aberystwyth rywbeth at ddant pawb!

Mentro i fyd amlieithog

Mae Aberystwyth yn enwog am ei harfordir trawiadol a’i bywyd campws bywiog; ond yn ogystal â hynny mae’n gyrchfan i’r rhai sy’n ymddiddori mewn ieithoedd. O’r Gymraeg (iaith wych i’w dysgu yng Nghymru) i Sbaeneg, Ffrangeg, a hyd yn oed Mandarin, mae’r cyrsiau iaith sydd i’w cael yma yn datgloi llond bydysawd o ffyrdd i gyfathrebu.

Y cysylltiad Cymraeg

Yn gyntaf, gadewch i ni siarad am y Gymraeg! Mae cofleidio’r iaith leol yn ffordd o gysylltu â’r diwylliant a’r gymuned. Hefyd, gall meistroli ambell ymadrodd greu argraff dda ar y bobl leol! Rhowch gynnig ar “Diolch” a “Bore da” — byddan nhw wrth eu bodd!

Amgylchedd hwyliog a chefnogol

Cynnwys pobl a chael hwyl yw’r nod wrth ddysgu iaith gyda Dysgu Gydol Oes ym Mhrifysgol Aberystwyth. Gyda darlithwyr brwd a dosbarthiadau rhyngweithiol, fe welwch bod dysgu iaith yma yn teimlo mwy fel sgwrs gyfeillgar na gwaith caled. Gallwch ddisgwyl gemau, gwaith grŵp, ac efallai hyd yn oed ambell ddigwyddiad diwylliannol a fydd yn gyfle i ymarfer eich sgiliau newydd tra’n profi danteithion gwahanol! Cofiwch bod cyrsiau Dysgu Gydol Oes yn rhad ac am ddim i fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth!

Mae’r adran Dysgu Gydol Oes hefyd yn cynnal Llwyfan Cyfnewid Iaith lle rydych yn gweithio ar y cyd â phartner i ddysgu iaith eich gilydd.

Cyfleoedd Byd-eang

Ystyried astudio dramor? Mae gan Aberystwyth bartneriaethau â phrifysgolion ledled Ewrop a’r tu hwnt, sy’n rhoi cyfle i chi ymarfer eich sgiliau yn y byd go iawn. Dychmygwch yfed coffi ym Mharis tra’n sgwrsio yn Ffrangeg neu gerdded o amgylch strydoedd bywiog Barcelona gyda’ch cyfeillion Sbaenaidd newydd!

Felly, os ydych yn mynd ati i ddysgu iaith am y tro cyntaf, neu’n amlieithydd profiadol, Prifysgol Aberystwyth yw’r lle perffaith i ehangu’ch gorwelion. Ewch amdani, mwynhewch, a gadewch i’r ieithoedd fynd â chi ar siwrne fythgofiadwy!

Oni nodir yn wahanol, barn yr awdur yw’r safbwyntiau sydd yn y blogiau hyn ac nid ydynt o reidrwydd yn cynrychioli barn Prifysgol Aberystwyth.