Lle i fynd am gymorth neu gefnogaeth

Mae Ella Moreland, myfyrwraig sydd yn ei thrydedd flwyddyn yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, yn sôn am y gefnogaeth sydd ar gael i chi yma ym Mhrifysgol Aberystwyth:

Felly, newydd ddechrau yn Aber ydych chi, a dydych chi ddim yn siŵr pa gymorth sydd ar gael i chi? Wel, rydych chi yn y lle iawn! Mae cymorth o bob math ar gael yma yn Aber, p'un a ydych yn chwilio am gyngor academaidd, help gyda'ch arian, yn cael trafferthion TG, neu eisiau siarad â rhywun am eich pryderon.

Y Gwasanaeth Arian a Chyngor

Mae’n gallu bod yn heriol dod i arfer â thrin eich arian pan fyddwch yn y brifysgol, ond peidiwch â phoeni - mae cymorth a chefnogaeth ar gael. P'un a oes gennych gwestiynau am gyllid myfyrwyr, cynllunio’ch cyllideb, neu eich opsiynau academaidd, mae Tîm Arian a Chyngor y Brifysgol yma i ddarparu arweiniad a chefnogaeth. I gael gwybod mwy, ewch i: www.aber.ac.uk/cy/studentservices/money

Hefyd, mae Gwasanaeth Cyngor Undeb y Myfyrwyr yn Aber yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth ar faterion ariannol myfyrwyr gan gynnwys benthyciadau, ffioedd a chyllid, yn ogystal â dyled, budd-daliadau a chynllunio’ch cyllideb.  Cewch fwy o wybodaeth yn: https://www.umaber.co.uk/cyngor/arianachyllid/.

Y Gwasanaeth Gyrfaoedd

Yma ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae gennym Wasanaeth Gyrfaoedd, ar gael i bob myfyriwr, sy’n cynnig cyngor a chefnogaeth, ac yn eich helpu i ddeall sut y gallwch wneud i'ch cymhwyster a'ch profiadau prifysgol gyfrif tuag at eich gyrfa yn y dyfodol.

Os hoffech wybod mwy am yr hyn y gall y Gwasanaeth Gyrfaoedd ei wneud i chi i'ch helpu i gyflawni eich potensial, ewch i https://www.aber.ac.uk/cy/studentservices/careers.

Y Gwasanaeth Lles  

Mae'r Gwasanaeth Lles yma i roi hwb i’ch lles a sicrhau’ch bod yn gallu gwneud yn fawr o'ch amser ym Mhrifysgol Aberystwyth.  Mae'n cynnig amrywiaeth o adnoddau i helpu gydag unrhyw fater lles - er enghraifft, anawsterau â ffrindiau, profedigaeth, hiraeth am gartref, unigedd, gorbryder neu straen llwyth gwaith, a materion iechyd meddwl - ac mae’n cydlynu â gwasanaethau partneriaethol lleol eraill os oes angen.

Os hoffech wybod mwy am beth y gall y Gwasanaeth Lles ei wneud i'ch helpu i ffynnu a manteisio i'r eithaf ar fywyd y Brifysgol, ewch i: https://www.aber.ac.uk/cy/studentservices/wellbeing

Hygyrchedd a Chynhwysiant 

P'un a oes gennych gyflwr iechyd corfforol neu feddyliol hirsefydlog, gwahaniaeth dysgu penodol, neu os ydych yn niwrowahanol, gall y Tîm Hygyrchedd a Chynhwysiant eich cefnogi i'ch helpu i gyrraedd eich potensial llawn a gwneud y gorau o'ch amser yn Aber yn ddibryder.

Hefyd, mae’r Gwasanaeth yn cefnogi myfyrwyr nad oes ganddynt rwydweithiau cymorth traddodiadol, gan gynnwys y rhai sydd wedi gadael gofal, myfyrwyr wedi ymddieithrio oddi wrth eu teuluoedd, ceiswyr lloches, a ffoaduriaid.

Felly, os oes angen arweiniad arnoch ar y Lwfans i Fyfyrwyr Anabl, llety wedi'i addasu, mynediad i fannau dysgu, trefniadau arholiadau unigol, ac addasiadau rhesymol eraill, ewch i: https://www.aber.ac.uk/cy/studentservices/accessibility/about-us/

Ysgol y Graddedigion

I'r rhai sy'n ymuno â’r Brifysgol fel uwchraddedigion, mae Ysgol y Graddedigion yn adnodd defnyddiol iawn. Mae'n cynnig amrywiaeth o adnoddau y gallai uwchraddedigion fanteisio arnynt i'w cefnogi yn eu hastudiaethau. Er enghraifft, mae'n rhedeg y Rhaglen Datblygu Ymchwil, sy'n helpu i sicrhau bod gan y myfyrwyr y sgiliau proffesiynol a throsglwyddadwy a fydd er budd iddynt yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol - megis sgiliau ymchwilio effeithiol, sgiliau cyfathrebu cryf, TG, a rheoli’ch gyrfa.

I gael gwybod mwy am yr hyn y gall yr Ysgol Graddedigion ei gynnig i chi, ewch i: https://www.aber.ac.uk/cy/grad-school/

Y Gwasanaethau Gwybodaeth

Os oes angen unrhyw gymorth TG arnoch tra byddwch yn astudio yma yn Aberystwyth, y Gwasanaethau Gwybodaeth yw’r bobl i gysylltu â nhw gyntaf!

Gellir cysylltu â'r Gwasanaethau Gwybodaeth dros y ffôn ar 01970 622 400, drwy e-bostio is@aber.ac.uk, drwy'r ddolen sgwrsio ar-lein ar eu tudalennau gwe, neu fe gewch fynd draw i’r ddesg ymholiadau yn Llyfrgell Hugh Owen.  Am fwy o wybodaeth, ewch i: https://www.aber.ac.uk/cy/is/help/contactus/

Beth bynnag yw eich cwrs, mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig y cyfleoedd a'r gefnogaeth i'ch galluogi i ffynnu yn ystod eich amser yma. Edrychwch ar y wefan am fwy o wybodaeth am yr adnoddau sydd ar gael i chi i wella eich profiad yn Aber.

Oni nodir yn wahanol, barn yr awdur yw’r safbwyntiau sydd yn y blogiau hyn ac nid ydynt o reidrwydd yn cynrychioli barn Prifysgol Aberystwyth.