Sut i arfogi eich hun yn academaidd ac osgoi teimlo’n ddi-rym, mewn 3 cham
Mae Renata Freeman Alegre ym mlwyddyn olaf gradd cyd-anrhydedd mewn Cysylltiadau Rhyngwladol ac Economeg. Mae’n cynnig cyngor defnyddiol i fyfyrwyr newydd ynglŷn â datblygu sgiliau astudio da o'r cychwyn cyntaf:
Yn gyntaf, cymerwch anadl ddofn. Rydych wedi gweithio'n galed i gyrraedd y man lle'r ydych chi heddiw, felly cymerwch amser i gydnabod eich llwyddiant cyn ceisio addasu i rhythm newydd o astudio.
Mae dod i'r brifysgol yn gam mawr a fydd yn golygu newidiadau mawr. Ni fydd bywyd yr un fath ag o’r blaen. Efallai y byddwch chi'n bwyta bwyd gwahanol nawr, deffro ar awr wahanol, gwisgo dillad nad oeddech chi’n gwisgo o'r blaen - a gallwch ychwanegu ‘ffordd newydd o ddysgu’ at y newidiadau hyn.
Pwrpas Prifysgol yw eich galluogi i drin a thrafod y pwnc hwnnw rydych chi'n ei garu, a chyfrannu eich ymchwil, eich syniadau a’ch gwaith i’r maes hwnnw. Weithiau gall gwneud y pethau hyn fod yn eithaf heriol, felly rwyf wedi crynhoi rhywfaint o gyngor a fu’n help i mi yn ystod fy astudiaethau i symud fy ngraddau a’m dysgu i lefel wahanol.
Cam 1: Peidiwch â chael eich dal yn y trap sy’n dweud "Nid oes ots am y flwyddyn gyntaf."
Dro ar ôl tro, byddwch yn clywed pethau fel: "Dydy'r flwyddyn gyntaf ddim yn cyfrif, felly mwynhewch a pheidiwch â'i chymryd hi ormod o ddifri."
Mewn gwirionedd, mae'r flwyddyn gyntaf yn flwyddyn hanfodol yn eich astudiaethau a'ch gradd yn y dyfodol.
Yn y flwyddyn gyntaf cymerir camgymeriadau i ystyriaeth, a thrwy wneud camgymeriadau rydyn ni'n dysgu. Pan fyddwch yn dechrau eich astudiaethau, nid oes disgwyl i chi wybod popeth, felly mae'n iawn gwneud ambell i gamgymeriad. Er enghraifft, fe ddefnyddioch chi’r arddull anghywir ar gyfer eich cyfeirnodi neu dydych chi ddim yn gallu uwchlwytho papur oherwydd eich bod o hyd yn dysgu sut i ddefnyddio Blackboard.
Fel myfyriwr, gallwch ddefnyddio SgiliauAber i ddod o hyd i lawer o gymorth er mwyn gwella eich astudiaeth – megis sut i ddatblygu'r sgiliau ar gyfer dysgu yn annibynnol ac ysgrifennu academaidd, technegau adolygu, a defnyddio technoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Cewch ragor o wybodaeth am hyn yn SgiliauAber.
Ar ôl i chi gychwyn ar eich astudiaethau, byddwch yn dechrau creu trefn a dilyn eich dull eich hun o ymdrin â llwyth gwaith a therfynau amser. Bydd dechrau â dull anghywir yn cymryd dwywaith yr ymdrech i’w gywiro yn hytrach na mynd i’r cyfeiriad cywir yn y lle cyntaf.
Hefyd, os ydych yn bwriadu cymryd interniaeth fel rhan o'ch cwrs, cofiwch fod rhai cyflogwyr yn gofyn am weld eich graddau o'ch blwyddyn gyntaf hefyd, felly helpwch eich hun nawr ar gyfer y dyfodol.
Peidiwch ag anghofio edrych ar ôl eich hunan ar hyn o bryd pan fyddwch yn dod i arfer â chymaint o newidiadau. Mae eich lles yn bwysig iawn ac mae'r Gwasanaeth Lles ym Mhrifysgol Aberystwyth yma i’ch helpu i wneud yn fawr o'ch amser.
Rydych chi’n lasfyfyriwr am un tro yn unig – mwynhewch eich blwyddyn gyntaf a'i defnyddio'n ddoeth!
Cam 2: Defnyddiwch sesiynau galw heibio i fireinio'ch gwaith.
Efallai eich bod yn meddwl bod eich darn o waith yn edrych yn wych, ond beth pe gallech gael safbwynt proffesiynol? Cael arbenigwr i’w adolygu ac i ddweud wrthych beth sy'n gweithio a beth nad yw’n gweithio?
Hoffwn gyflwyno'r sesiynau galw heibio i chi. Bydd pob darlithydd yn neilltuo amser i'ch helpu ac arwain eich dull o weithio – mae oriau swyddfa darlithwyr yn cael eu harddangos y tu allan i'w swyddfeydd neu ar eu proffil staff ar y wefan.
Rhoddir terfynau amser hir er mwyn i chi allu gwneud rhywfaint o waith, mynd ag ef i'ch sesiwn galw heibio, ei ailystyried, ei ailysgrifennu neu barhau i ysgrifennu, mynd ag ef yn ôl i'r sesiwn galw heibio a theimlo'n hyderus wrth ei uwchlwytho.
Mae Gwasanaethau Academaidd a Gwasanaethau Prifysgol eraill ar gael sy'n cynnig apwyntiadau a sesiynau galw heibio a all wella eich astudiaeth ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Cewch ragor o wybodaeth amdanynt ar Sgiliau Aber.
Cam 3: Peidiwch â meddwl bod mynd i ddarlithoedd yn ddigonol
Yn ôl yn yr ysgol, cyflwynwyd popeth yr oedd angen i chi ei ddysgu yn y dosbarth, a’ch tasg chi oedd adolygu'r gwaith cyn eich arholiadau. Roeddwn i'n meddwl y byddai hynny'n berthnasol i'r brifysgol hefyd.
Druan â fi! - es i i'm darlithoedd, eistedd yno, gwrando, cymryd nodiadau ac yna crwydro tua thre i wylio TikTok.
Fodd bynnag, ar ôl peth amser sylweddolais nad oeddwn i’n deall rhai o'r cysyniadau a'r wybodaeth yr oedd myfyrwyr eraill yn eu deall, a hynny oherwydd fy mod yn dibynnu ar ddarlithoedd yn unig i'w dysgu. Wnes i ddim pennu amser yn ystod fy niwrnod i adolygu cynnwys, darllen llyfrau hanfodol pob modiwl, ymarfer rhai ymarferion ar fy mhen fy hun, a mwy. Ar ôl i mi wneud yr holl bethau hyn a deall mai diben darlithoedd yw ein helpu i roi fframwaith gwell i’n gwybodaeth ac i wneud popeth yn fwy eglur, ond nid i ddysgu’r cyfan i ni, roeddwn i'n gallu ymroi mwy i’m modiwlau.
Os ydych chi eisiau dysgu o'm camgymeriad i, fy nghyngor fyddai:
- Ewch at eich sleidiau PowerPoint ar Blackboard cyn y ddarlith, eu darllen a'u dadansoddi. Gwnewch nodyn o’r pwyntiau allweddol ac unrhyw gwestiynau sydd gennych. Fel hyn, gallwch weld sut mae'ch darlithydd yn mynd ati i drin y prif bwyntiau a gofyn eich cwestiynau iddynt unwaith y byddwch yn y ddarlithfa.
- Neilltuwch amser yn ystod y dydd i ddarllen eich llyfrau hanfodol.
- Ewch ati i ymarfer ar eich pen eich hun y sgiliau y bydd eu hangen arnoch yn y dyfodol. Er enghraifft, Economeg yw fy mhwnc i, felly mae angen i mi ymarfer cyfrifiadau a drafftio graffiau.
- Wrth gymryd nodiadau yn eich darlith ceisiwch ysgrifennu pethau ar ffurf cwestiwn. Er enghraifft: Yn hytrach nag ysgrifennu "Ystyrir Cynnyrch Domestig Gros yn fesur o ba mor dda mae economi'n perfformio", gallwch roi "Beth yw Cynnyrch Domestig Gros? Mae Cynnyrch Domestig Gros yn mesur pa mor dda mae economi yn perfformio". Trwy wneud hyn, byddwch yn creu canllaw astudio heb sylwi ar hynny, felly pan fydd yr arholiadau’n cyrraedd, bydd eich nodiadau yn ganllaw i chi, ac nid nodiadau yn unig mohonynt.
- Gadewch le o dan eich nodiadau ar gyfer eich meddyliau eich hun. Rydych chi’n treulio rhan helaeth o’r amser yn ceisio amsugno gwybodaeth ac yn gadael eich meddyliau ar ôl, ond mae'n dda cael rhywle i gofnodi eich ffordd unigryw chi o feddwl.
- Cymerwch eich amser a'i ddefnyddio'n ddoeth. Dyma un o'r ychydig gyfnodau mewn bywyd lle gallwn dreulio oriau yn darllen, dysgu a mwynhau’r pwnc yr ydym yn ei garu. Mae Prifysgol yn fendith ac yn foethusrwydd, peidiwch a’i gymryd yn ganiataol (hyd yn oed pan fyddwch chi'n ystyried anwybyddu eich sesiwn 9yb) Mwynhewch!
Gweler yma rai dolenni i gael mwy o wybodaeth er mwyn gwneud y gorau o'ch astudiaeth a'ch amser fel myfyriwr:
- SgiliauAber
- Gwasanaethau Myfyrwyr
- Dysgu Gydol Oes
- Mynd Dramor
- Y Gronfa Caledi Myfyrwyr Gwasanaethau i Fyfyrwyr
Oni nodir yn wahanol, barn yr awdur yw’r safbwyntiau sydd yn y blogiau hyn ac nid ydynt o reidrwydd yn cynrychioli barn Prifysgol Aberystwyth.