Ymgartrefu yn Aber fel myfyriwr rhyngwladol

Mae Adriana Cahill, a raddiodd yn yr haf gyda gradd mewn Busnes a Newid Hinsawdd ac sydd bellach ar fin dechrau astudio MSc mewn Busnes a Marchnata Rhyngwladol, yn cynnig awgrymiadau defnyddiol i fyfyrwyr rhyngwladol ar sefydlu cynllun ffôn yn y DU ac agor cyfrif banc yn y DU:

Gall symud oddi cartref fod yn eithaf brawychus, a phan fyddwch yn cyrraedd y brifysgol am y tro cyntaf, efallai y bydd cant a mil o bethau yn mynd trwy’ch meddwl. Fodd bynnag, does dim angen i chi boeni. Gan fy mod yn fyfyriwr fy hun, dwi wedi bod yn yr un sefyllfa â chi, a hoffwn eich helpu trwy rai o’r heriau a wynebais pan gyrhaeddais Aber am y tro cyntaf:

Sefydlu eich cynllun ffôn yn y Deyrnas Unedig

Mae newid i gynllun ffôn yn y DU yn llawer symlach nag y byddech chi'n ei feddwl. Byddwn yn argymell yn gryf i chi beidio â chadw cynllun ffôn eich mamwlad wrth astudio yn Aber oherwydd pa mor ddrud ydyw. Mae digon o gynlluniau ffôn ‘talu wrth ddefnyddio’ fforddiadwy sy'n berffaith ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol. Pan fyddaf yn mynd adref ar gyfer y gwyliau, dwi'n oedi fy nghynllun yn yr ap ac yn mynd yn ôl i ddefnyddio fy SIM cartref.

Os ydych yn byw yn llety'r Brifysgol, bydd pecyn croeso ar y ddesg i chi sy'n cynnwys taflen gan GiffGaff a cherdyn SIM am ddim.

Yn gyntaf, dylech sicrhau eich bod ar Wifi Eduroam y Brifysgol - gallwch gysylltu trwy fewngofnodi gyda gwybodaeth eich cyfrif Aber (er enghraifft: ABC1, a'ch cyfrinair).

Bydd angen i ddefnyddwyr  iPhone ac Android fel ei gilydd newid lleoliad eich siop apiau i'r Deyrnas Unedig (gallwch wneud hynny yn y gosodiadau yn y Siop Apiau). Efallai y bydd angen cyfrif banc y DU arnoch i wneud hynny, felly gadewch i mi egluro sut mae agor cyfrif.

Agor cyfrif banc yn y Deyrnas Unedig

O brofiad personol fel myfyriwr rhyngwladol, y broblem fwyaf ges i wrth ymgartrefu yn Aberystwyth oedd agor cyfrif banc yn y DU.

Byddwn i'n bersonol yn awgrymu cael rhif ffôn y DU yn gyntaf cyn ceisio agor cyfrif banc yn y DU.

Mae dau lwybr y gallwch eu dilyn wrth gael cyfrif banc yn y DU - gallwch naill ai agor cyfrif mewn banc yn y dref, neu ar-lein.

I agor cyfrif gyda banc yn y dref, bydd angen i chi fynd i mewn i'ch cofnod myfyriwr, gofyn am y llythyr banc sy'n dangos eich bod wedi cofrestru'n llawn yn y Brifysgol, a'i argraffu. Rhaid ei argraffu mewn lliw. I ychwanegu at y credyd ar eich Cerdyn Aber ar gyfer argraffu, ewch i Cerdyn Aber : Prifysgol Aberystwyth. Gallwch argraffu yn llyfrgell Hugh Owen ar y campws neu unrhyw fannau astudio sydd ag argraffydd drwy sganio'ch cerdyn Aber wrth yr argraffydd i gael gafael eich papurau. Os oes problemau gyda'ch cofnod myfyriwr, anfonwch e-bost at aocstaff@aber.ac.uk i ofyn am eich llythyr banc gan y Brifysgol.

Os ydych yn mynd i agor cyfrif wyneb yn wyneb, gwnewch yn siŵr bod gennych yr holl waith papur sydd ei angen arnoch (fel llythyr banc, pasbort, trwydded yrru) ymlaen llaw trwy edrych ar wefan y banc.

Cofiwch y gall gymryd tair wythnos i sefydlu cyfrifon banc fel hyn, felly paratowch gyllideb i ganiatáu ar gyfer hyn.

Dewis arall yw agor cyfrif banc ar-lein. Mae sawl darparwr ar gael, ac mae’n bosib agor cyfrif yn gyflym a chael eich cerdyn o fewn ychydig diwrnodau.

Rwy'n argymell cysylltu eich cerdyn â’r adnodd "talu digyffwrdd" ar eich ffôn gan fod dull "tapio i dalu" yn gyffredin iawn yn Aberystwyth ac mae campws y Brifysgol yn gweithredu heb arian parod.

Rwy'n gobeithio y bydd y cyngor hwn o gymorth i chi wrth i chi ymgartrefu yn Aberystwyth.

Cofiwch fod Gwasanaethau Myfyrwyr y Brifysgol ac Undeb Aberystwyth yn gallu rhoi cyngor a chymorth ar ystod eang o bynciau.

Oni nodir yn wahanol, barn yr awdur yw’r safbwyntiau sydd yn y blogiau hyn ac nid ydynt o reidrwydd yn cynrychioli barn Prifysgol Aberystwyth.