Clybiau Chwaraeon, Cymdeithasau, a digwyddiadau cymdeithasol

Mae Ella Moreland, sydd yn ei thrydedd flwyddyn yn astudio yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, yn rhoi blas i chi o'r llu o Glybiau Chwaraeon a Chymdeithasau sydd ar gael i chi:

Felly, rydych chi newydd ddechrau ym Mhrifysgol Aber ac eisiau gwybod pa fath o weithgareddau sydd ar gael i chi eu gwneud yn ystod eich amser rhydd? Wel peidiwch â phoeni, rydych chi yn y lle iawn! Yn y blog hwn byddaf yn trafod y gweithgareddau sydd ar gael i chi yn Aber, i'ch helpu i wneud ffrindiau, ymgartrefu a gwneud cysylltiadau am y blynyddoedd i ddod.

Clybiau chwaraeon 

Gyda thua 50 o glybiau chwaraeon i ddewis ohonynt, does dim prinder o ddewis yn Aber!

P'un a ydych am gymryd rhan mewn chwaraeon clasurol fel pêl-droed neu griced, rhoi cynnig ar ddawnsio neu focsio cic, neu gael blas ar chwaraeon dŵr yn eich cartref newydd ger y lli; mae'n siŵr y bydd rhywbeth at eich dant chi. 

Mae’r clybiau chwaraeon ar gael i ddechreuwyr ac athletwyr profiadol, felly p’un a ydych ond yn dechrau ar eich siwrnai chwaraeon neu’n hen law ar eich camp, Aber yw'r lle i fod. 

Os ydych chi’n poeni a fyddwch chi’n hoffi’r gweithgaredd, bydd llawer o glybiau chwaraeon yn cynnig sesiynau blasu y gallwch chi alw heibio iddyn nhw unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn, yn ogystal â sesiynau hyfforddi y gallwch chi gofrestru ar eu cyfer ar wefan Undeb y Myfyrwyr.  

Mae clybiau chwaraeon hefyd yn cynnig cyfle i aelodau gymryd rhan mewn cystadlaethau drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys Varsity sy’n cynnal dros 30 o gystadlaethau i dimau chwaraeon gystadlu ynddynt. Hyd yn oed os nad ydych chi eisiau cystadlu, mae'r digwyddiadau hyn yn gyfle gwych i wylio a chefnogi tîm eich Prifysgol, ac mae’n werth mynd er mwyn profi’r awyrgylch yn unig!   

I gael rhestr lawn o’r clybiau chwaraeon ewch i’r wefan: https://www.umaber.co.uk/timaber/chwaraeon/  ac ewch i gael sgwrs gyda nhw yn Ffair y Glas.  

Cymdeithasau a Phrosiectau Gwirfoddoli

Ynghyd â chlybiau chwaraeon, mae Aber hefyd yn cynnig cymdeithasau sy'n cael eu cynnal gan fyfyrwyr ar gyfer amrywiaeth o wahanol ddiddordebau.

Gall cymryd rhan mewn cymdeithas gyfoethogi eich profiad yn y brifysgol gan mai dyma un o'r ffyrdd hawsaf o wneud ffrindiau newydd sydd â'r un diddordebau â chi.  

Mae Aber yn cynnig amrywiaeth eang o gymdeithasau, er enghraifft cymdeithasau perfformio a cherddoriaeth, cymdeithasau ffydd a diwylliant a chymdeithasau academaidd, ymhlith eraill.

Mae yna hefyd brosiectau gwirfoddoli fel papur newydd y myfyrwyr a'r oergell gymunedol.

Mae cymdeithasau hefyd yn ffordd wych o roi cynnig ar rywbeth newydd, ac mae llawer yn cynnig sesiynau blasu ar ddechrau pob semester.  Peidiwch â phoeni, ni fydd unrhyw un yn dal dig os byddwch yn gadael clwb neu gymdeithas ac yn rhoi cynnig ar un arall - maen nhw eisiau i chi fwynhau eich hun. 

Ewch i wefan Undeb y Myfyrwyr ar gyfer y rhestr lawn o gymdeithasau a phrosiectau gwirfoddoli: https://www.umaber.co.uk/timaber/cymdeithasau/, a galwch heibio eu stondinau yn Ffair y Glas. 

Digwyddiadau Cymdeithasol

Bydd clybiau chwaraeon, cymdeithasau a phrosiectau gwirfoddoli yn cynnig digwyddiadau cymdeithasol bob wythnos neu bob yn ail wythnos. 

Gan fod llawer o'r clybiau hyn yn cael eu cynnal gan fyfyrwyr, bydd y math o ddigwyddiadau cymdeithasol yn amrywio o glwb i glwb, ond fel arfer byddant yn gymysgedd o weithgareddau sy’n cynnwys yfed a rhai nad ydynt yn cynnwys yfed.   

Gall y digwyddiadau amrywio o wythnos i wythnos, ac nid yw’n hanfodol i aelodau fynd iddyn nhw, felly peidiwch â theimlo pwysau i fynd bob wythnos neu hyd yn oed o gwbl. Fodd bynnag, maent yn ffordd wych o gwrdd â phobl yn eich cymdeithas neu glwb chwaraeon, meithrin cyfeillgarwch, a chael hwyl y tu allan i weithgareddau eich clwb.

Os oes gennych ffrind mewn cymdeithas arall, mae croeso i chi fynd i rai o’u digwyddiadau cymdeithasol gyda nhw - nid oes angen gwahoddiad.  

Bydd digwyddiadau cymdeithasol yn digwydd ar wahanol ddyddiau o'r wythnos yn dibynnu ar y clwb - dilynwch gyfryngau cymdeithasol eich cymdeithasau neu glybiau chwaraeon i gael diweddariadau a gwybodaeth. 

Rwy’n gobeithio fy mod wedi rhoi rhagflas i chi o rai o’r cyfleoedd sy’n cael eu cynnig gan yr amrywiaeth anhygoel o Glybiau Chwaraeon a Chymdeithasau sydd yma ym Mhrifysgol Aber.

Oni nodir yn wahanol, barn yr awdur yw’r safbwyntiau sydd yn y blogiau hyn ac nid ydynt o reidrwydd yn cynrychioli barn Prifysgol Aberystwyth.