Ymgartrefu a chofleidio diwylliant Cymru

Mae Renata Freeman Alegre, myfyrwraig yn y flwyddyn olaf, a ddaeth i Aberystwyth o Fecsico yn 2021, yn cynnig cyngor ar sut i ymgartrefu a chofleidio diwylliant Cymru fel myfyriwr newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth:

Mae cychwyn ar eich taith ym Mhrifysgol Aberystwyth yn antur gyffrous ac rydych chi wedi gwneud dewis gwych! Wedi'i lleoli ar arfordir trawiadol Cymru, mae dod i Aberystwyth yn fwy nag ennill gradd yn unig; mae'n ymwneud â phrofi diwylliant a ffordd o fyw fywiog. Er mwyn helpu i ymgartrefu a manteisio i’r eithaf ar eich amser yma, dyma rai awgrymiadau ar sut i ymgolli yn niwylliant Cymru.

  1. Dysgu ambell i ymadrodd Cymraeg

Cymraeg yw un o'r ieithoedd hynaf yn Ewrop ac fe'i siaredir yn eang yn Aberystwyth ac ar draws Cymru. Er nad oes angen i chi fod yn rhugl, gall dysgu ychydig ymadroddion sylfaenol fynd yn bell o ran dangos parch a gwerthfawrogiad o'r diwylliant.

Dyma rai i'ch rhoi ar ben ffordd:

  • Bore da – Good morning
  • Diolch – Thank you
  • Croeso – Welcome
  • Hwyl fawr – Goodbye
  • Iawn – All right/ okay

Mae'r Brifysgol yn cynnig dosbarthiadau Cymraeg am ddim i fyfyrwyr, felly manteisiwch arnynt i feithrin eich sgiliau iaith a chysylltu mwy â phobl leol.

  1. Cymerwch ran mewn digwyddiadau a thraddodiadau lleol

Mae gan Aberystwyth sîn ddiwylliannol fywiog gyda digonedd o ddigwyddiadau, gwyliau a thraddodiadau drwy gydol y flwyddyn:

  • Eisteddfodau: Mae'r ŵyl draddodiadol hon o gerddoriaeth, llenyddiaeth a pherfformio yn ffordd wych o brofi barddoniaeth, cerddoriaeth ac adrodd straeon Cymraeg.
  • Calennig: Yn rhan o'r arferiad traddodiadol hwn mae plant yn curo ar ddrysau ac yn canu rhigymau Nadoligaidd ar 1 Ionawr yn gyfnewid am anrhegion bach. Cynhelir digwyddiadau Calan o amgylch Cymru ar Nos Galan, fel arfer gyda cherddoriaeth a thân gwyllt.
  • Rygbi'r Chwe Gwlad: Chwe Gwlad yw'r bencampwriaeth rygbi ryngwladol flynyddol sy'n cynnwys timau cenedlaethol dynion a menywod Cymru. Mae'n dechrau ar ddechrau mis Chwefror ac yn para am saith wythnos. Mae hyd at dair gêm yn nhwrnamaint y dynion yn cael eu chwarae yn Stadiwm Principality Caerdydd bob blwyddyn, gan ddod â thorfeydd enfawr ac awyrgylch gŵyl arbennig i'r ddinas.
  • Dydd Gŵyl Dewi: Cynhelir diwrnod cenedlaethol Cymru - Dydd Gŵyl Dewi ar 1 Mawrth. Ar draws y wlad ceir gorymdeithiau llawn hwyl i bawb, gyda llawer o faneri Cymru yn chwifio. Mae llawer o bobl yn rhoi pin cennin Pedr neu genhinen - arwyddluniau cenedlaethol Cymru - ar eu dillad ac mae rhai, yn enwedig plant, yn gwisgo gwisg genedlaethol Gymreig, crysau rygbi’r tîm cenedlaethol, neu'n gwisgo i fyny fel cennin, cennin Pedr neu hyd yn oed ddreigiau. 
  • Gŵyl y Gelli: Mae’n un o wyliau llenyddol mwyaf a gorau'r byd, a gafodd y llysenw Woodstock of the Mind gan Bill Clinton.  Cynhelir Gŵyl y Gelli bob blwyddyn ar ddiwedd y gwanwyn, yn nhref fechan y Gelli Gandryll.
  • Sioe Frenhinol Cymru: Sioe Frenhinol Cymru yw un o'r digwyddiadau amaethyddol mwyaf a mwyaf mawreddog yn Ewrop. Ochr yn ochr â chystadlaethau da byw, mae'r rhaglen ddyddiol yn cynnwys popeth o arddangosfeydd hebogyddiaeth a threialon cŵn defaid i arddangosfeydd motocross beiddgar a chwrdd â robotiaid animatronig enfawr.
  • Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Cymru: Mae'r ŵyl ffilm dridiau hon yn arddangos y gorau o wneuthurwyr ffilm, cyfarwyddwyr ac animeiddwyr o Gymru gyda gwobrau mewn 20 categori. Mae dros 80 o ffilmiau a ffilmiau byrion yn cael eu dangos yn ystod Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Cymru bob blwyddyn.
  • Drysau Agored: Yn rhan o ddigwyddiad Drysau Agored Cadw mae gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru yn agor y drysau i nifer o adeiladau treftadaeth Cymru ac atyniadau hanesyddol am benwythnos. Mae hyn yn rhoi mynediad agos a thu ôl i'r llenni i henebion ac adeiladau nad ydynt fel arfer ar gael i'r cyhoedd.
  • IRONMAN Cymru: Cynhelir IRONMAN Cymru yn flynyddol yn Ninbych-y-pysgod, Sir Benfro.  Mae’r digwyddiad yn denu cannoedd o athletwyr, yn broffesiynol ac amatur, o bob cwr o'r byd.

  1. Rhowch gynnig ar fwyd traddodiadol o Gymru

Mae bwydydd o Gymru yn flasus iawn, ac mae blasu’r bwydydd hyn yn ffordd hwyliog o gysylltu â'r diwylliant. Gwnewch yn siŵr eich bod yn blasu o leiaf un o’r bwydydd canlynol:

  • Cawl: Stiw traddodiadol Cymreig wedi'i wneud gyda chig oen a llysiau, perffaith i’ch cynhesu ar ddiwrnod oer. Gallwch flasu cawl yng Nghanolfan y Celfyddydau.
  • Cacennau Cri: Cacennau gwastad melys sy'n cael eu coginio ar radell. Maen nhw'n flasus gyda phaned o de!
  • Bara Brith: Torth ffrwythau sbeislyd sy'n boblogaidd yng nghartrefi Cymru. Mae'n aml yn cael ei bwyta gydag ychydig o fenyn.
  • Caws Pob Cymreig: Cyfuniad gwych o gaws, mwstard, cwrw a saws Swydd Gaerwrangon ar sleisen o fara.

Yn olaf…

Mae dod yma i Brifysgol Aberystwyth yn ddechrau taith anhygoel, a thrwy gofleidio diwylliant, iaith a thraddodiadau Cymru, byddwch yn ymgartrefu yn gynt a hefyd yn cyfoethogi eich profiad prifysgol.

Manteisiwch ar bob cyfle i ddysgu, ystyried a throchi eich hun yn niwylliant Cymru – cyn hir byddwch yn syrthio mewn cariad â'r rhan unigryw a hardd hon o'r byd.

Croeso i Aberystwyth a phob hwyl! 

Oni nodir yn wahanol, barn yr awdur yw’r safbwyntiau sydd yn y blogiau hyn ac nid ydynt o reidrwydd yn cynrychioli barn Prifysgol Aberystwyth.