Lleoedd y mae'n rhaid ymweld a nhw yn Aber a thu hwnt
Daeth y fyfyrwraig ryngwladol Renata Freeman Alegre i Aberystwyth o Fecsico, ac mae bellach ym mlwyddyn olaf gradd anrhydedd cyfun mewn Cysylltiadau Rhyngwladol ac Economeg. Yma, mae Renata yn rhoi awgrymiadau gwych am leoedd y dylai myfyrwyr ymweld â nhw - yn Aberystwyth ac mewn mannau eraill yng Nghymru:
Mae Cymru, gyda'i hanes cyfoethog, ei thirweddau trawiadol, a’i threfi a dinasoedd bywiog, yn cynnig digonedd o leoedd i ymweld â nhw. Dyma fy awgrymiadau am y mannau mwyaf prydferth a chyffrous y dylai pob myfyriwr ymweld â nhw.
-
Parc Cenedlaethol Eryri:
Gem yng nghoron Cymru yw Eryri. Mae'n cynnig golygfeydd syfrdanol, copaon uchel, a llynnoedd hardd. Mae dringo'r Wyddfa, y copa uchaf yng Nghymru, yn hanfodol i bawb sy'n hoff o antur. Mae'r parc yn berffaith ar gyfer heicio, gwersylla ac ymgolli yn harddwch natur.
-
Caerdydd:
Mae prifddinas Cymru yn cynnig cipolwg ar hanes y ddinas. Mae ardal Bae Caerdydd yn wych ar gyfer ymlacio ger y dŵr, gyda digonedd o gaffis a bwytai gerllaw, a Chanolfan Mileniwm Cymru yn cynnal perfformiadau a digwyddiadau byw.
-
Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog:
Mae Bannau Brycheiniog yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr sy'n caru'r awyr agored. Mae’n wlad ryfeddol o raeadrau, ogofâu a bryniau tonnog. Peidiwch â cholli pegwn eiconig Pen Y Fan, y copa uchaf yn ne Cymru.
-
Dinbych-y-pysgod:
Mae'r dref arfordirol ddymunol hon yn enwog am ei thai lliwgar, ei waliau canoloesol, a’i thraethau euraidd. Mae'n leoliad delfrydol am benwythnos o ymlacio a nofio neu fynd i weld Ynys Bŷr gerllaw.
-
Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro:
Dyma'r unig barc cenedlaethol arfordirol yn y DU ac mae'n drysor go iawn. Mae’n adnabyddus am ei glogwyni dramatig, ei draethau tywodlyd a’i ddyfroedd glaswyrdd.
Mae'n berffaith i fyfyrwyr sy'n caru teithiau cerdded arfordirol, gweld bywyd gwyllt neu ymlacio wrth ymyl y môr.
Os ydych chi'n mynd ar fenter yn agosach at adref, mae gan Aberystwyth ei hun lawer o fannau y mae'n rhaid eu gweld:
-
Castell Aberystwyth
Adeiladwyd Castell Aberystwyth yn y 13fed ganrif. Mae’n dirnod hanesyddol ac yn cynnig golygfeydd anhygoel o'r môr. Mae’n fan heddychlon i ymlacio neu i gael picnic.
-
Craig Glais
I fanteisio ar rai o'r golygfeydd gorau o Aberystwyth, ewch am dro neu defnyddiwch reilffordd y graig i fyny Craig Glais. Ar y brig, fe welwch gaffi, camera obscura, a golygfeydd panoramig syfrdanol o Fae Ceredigion, yn enwedig wrth i’r haul fachludo.
-
Pier
Ei enw swyddogol yw’r Pier Brenhinol ac mae’n un o dirnodau eiconig y dref. Dyma’r pier hynaf yng Nghymru. Mae yma leoedd i fwyta, chwarae a chael hwyl gyda’r nos.
Oni nodir yn wahanol, barn yr awdur yw’r safbwyntiau sydd yn y blogiau hyn ac nid ydynt o reidrwydd yn cynrychioli barn Prifysgol Aberystwyth.
Tîm Croesawu ac Ymgartrefu Myfyrwyr, Gwasanaethau Myfyrwyr, Canolfan Croesawu Myfyrwyr, Campws Penglais, Aberystwyth, SY23 3FB
Ebost: croeso@aber.ac.uk