SgiliauAber
Mae Adriana Cahill yn un o raddedigion Aberystwyth ac mae bellach yn astudio ar gyfer gradd Meistr. Yn y blog hwn mae'n cyflwyno rhai o'r gwasanaethau niferus y gall myfyrwyr eu defnyddio trwy SgiliauAber:
Trwy ddefnyddio tudalennau gwe SgiliauAber a chanolfan SgiliauAber yn Llyfrgell Hugh Owen, mae gennych adnodd canolog, cynhwysfawr sydd wedi'i gynllunio i ddiwallu eich holl anghenion o ran sgiliau academaidd, digidol a chyflogadwyedd.
Ar y tudalennau gwe, gallwch ddysgu am gymryd nodiadau ac ysgrifennu traethodau, dod o hyd i wybodaeth ar y ffordd gywir i gyfeirnodi, datblygu eich sgiliau ysgrifennu academaidd, dod o hyd i adnoddau am adolygu ar gyfer arholiadau, a dysgu sut i wella eich cyflogadwyedd.
Mae canolfan SgiliauAber yn Llyfrgell Hugh Owen hefyd yn cynnig nifer o apwyntiadau 1:1 a sesiynau galw heibio, ac rwy'n eich annog i wneud y gorau o'r rhain yn ystod eich amser yn y Brifysgol.
Er enghraifft, gallwch gael help gan eich Llyfrgellydd Pwnc, a all eich cynorthwyo i gasglu deunyddiau ar gyfer eich prosiectau, traethodau ac aseiniadau, a’ch helpu gyda chyfeirnodi, a mwy.
Mae sesiynau galw heibio mathemateg ac ystadegau hefyd yn cael eu rhedeg gan yr Adran Fathemateg, lle gall tiwtoriaid profiadol eich helpu i wella eich sgiliau mathemateg, ystadegau a rhifedd.
Mae tudalennau gwe SgiliauAber hefyd yn cyfeirio at lawer o adnoddau dysgu iaith, felly p'un a ydych am wella'ch Cymraeg neu ddysgu Mandarin, mae help ar gael.
Gallwch hefyd gael gafael ar lawer o weithdai sgiliau sydd yn rhad ac am ddim i fyfyrwyr Aber Uni. Ceir hefyd ddeunydd a gwybodaeth benodol ar weithdai i'r rhai sy'n gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog.
Mae'r gwasanaethau SgiliauAber hyn yn rhad ac am ddim i chi fel myfyriwr, ac rwy'n eich annog i wneud y gorau ohonynt tra byddwch yn fyfyriwr yma.
Oni nodir yn wahanol, barn yr awdur yw’r safbwyntiau sydd yn y blogiau hyn ac nid ydynt o reidrwydd yn cynrychioli barn Prifysgol Aberystwyth.
Tîm Croesawu ac Ymgartrefu Myfyrwyr, Gwasanaethau Myfyrwyr, Canolfan Croesawu Myfyrwyr, Campws Penglais, Aberystwyth, SY23 3FB
Ebost: croeso@aber.ac.uk