Sut i adolygu'n effeithiol i gael marc uchel

Graddiodd Adriana Cahill eleni ac mae wedi aros yn Aber i astudio am MSc mewn Busnes Rhyngwladol a Marchnata. Yma, mae hi'n cynnig ambell awgrym i’ch helpu i adolygu a pharatoi ar gyfer arholiadau:

Fel myfyriwr newydd, byddwch yn darganfod bod angen dysgu amrywiaeth eang o sgiliau academaidd, fel astudio'n annibynnol, rheoli eich llwyth gwaith, dod o hyd i ddeunydd perthnasol ar gyfer aseiniadau, meddwl yn feirniadol, a gallu mynegi eich meddyliau yn glir.  Efallai y byddwch chithau hefyd angen datblygu eich sgiliau ymhellach wrth baratoi ac adolygu ar gyfer arholiadau, a dyna beth rwy’n mynd i ganolbwyntio arno yn y blog hwn.

Pan gyrhaeddais y brifysgol am y tro cyntaf, ro’n i’n meddwl y byddai'n hawdd adolygu ar gyfer arholiadau gan nad oeddwn wedi cael unrhyw anhawster â gwaith academaidd wrth dyfu i fyny.

Serch hynny, roedd arholiadau’r flwyddyn gyntaf yn dipyn o agoriad llygad, ac ar ôl pasio o drwch blewyn bu rhaid i mi ail-ystyried fy nulliau adolygu.

Felly, meddyliais y byddwn yn rhannu fy mhrofiad am sut y dysgais adolygu’n effeithiol a chael marciau uwch.

Mae'r cyfnod arholiadau fel arfer yn para tair wythnos, a bydd gennych gyfnod adolygu cyn yr arholiadau i baratoi ar eu cyfer.

Rwy'n hoffi meddwl fy mod i'n gallu bod yn berson trefnus, ond a bod yn onest, dwi'n aml yn anghofio pethau os nad ydw i wedi eu cofnodi mewn calendr. Buaswn i’n argymell lawrlwytho calendr fel Google Calendar i'ch ffôn fel y gallwch greu digwyddiadau a rhoi lliwiau gwahanol iddynt yn ôl pwnc. Ar gyfer tymor yr arholiadau, fe greais galendr penodol, gan rannu fy neunydd adolygu dros gyfnod o dair wythnos.

Roedd rhai modiwlau'n haws nag eraill a olygai bod modd i mi adolygu sawl wythnos o ddeunydd mewn un neu ddau ddiwrnod. Roedd modiwlau eraill yn ymdrin â phynciau mewn mwy o ddyfnder, a byddwn yn neilltuo amseroedd penodol yn ystod y dydd i adolygu termau a diffiniadau, ac amseroedd eraill i adolygu polisïau.

Gallai gymryd tuag awr i fynd trwy'ch deunydd i’w rannu’n ystyrlon a chynllunio’ch gwaith ond, credwch fi, mae'n gwneud y broses adolygu’n haws gan na fyddwch yn cael eich llethu gan ormod o wybodaeth ar yr un pryd.

Defnyddiais y dull hwn o flaengynllunio ar gyfer fy nhraethawd hir hefyd, ac fe’i cefais yn ffordd hynod ddefnyddiol o sicrhau fy mod yn aros ar y trywydd iawn.

Rwy'n gobeithio y bydd yr awgrymiadau hyn o gymorth i chi. Gallwch ddod o hyd i ragor o gyngor ar sut i adolygu ar gyfer arholiadau ar dudalennau gwe SgiliauAber.

Oni nodir yn wahanol, barn yr awdur yw’r safbwyntiau sydd yn y blogiau hyn ac nid ydynt o reidrwydd yn cynrychioli barn Prifysgol Aberystwyth.