Ymgartrefu yn Aber

Mae Ella Moreland, o Henffordd, yn ei thrydedd flwyddyn yn astudio ‘Ysgrifennu ar gyfer Darlledu, Cyfryngau a Pherfformio’. Yma mae Ella’n rhoi cyflwyniad i’ch cartref newydd ac i rai o uchafbwyntiau Aberystwyth:

Felly dyma, yn swyddogol, eich wythnos gyntaf fel myfyriwr!

Efallai’ch bod eisoes yn cyd-dynnu’n wych â’ch cyd-letywyr, neu efallai nad ydych eto wedi cael y cyfle i gael sgwrs go iawn heblaw am ofyn o ble maen nhw'n dod neu beth maen nhw'n ei astudio. Mae’n bosib y bydd hi braidd yn frawychus meddwl ymgartrefu yn Aberystwyth, ond mae’r myfyrwyr i gyd yn dod o hyd i'w lle yma!

Ac efallai fod gennych gwestiynau am beth i'w wneud o gwmpas Aberystwyth yng nghwmni’ch ffrindiau newydd. Ac o weld natur wledig Aberystwyth ac o weld nad rhyw ddinas fawr yw’r dref, efallai hefyd y byddwch yn meddwl be sydd i’w wneud heblaw am fynd am dro yng nghefn gwlad. Ond rwy’n addo i chi fod ddigonedd i’w wneud yma heblaw am gerdded drwy gaeau llond llaca (ond, os dyna’ch peth chi, ewch ati a mwynhewch - mae digon o leoedd o gwmpas Aber lle gallwch wneud hynny!) 

Ymgyfarwyddo â'r dref:

Y Graig Glais (Consti) 

Mae Aber yn adnabyddus ymysg y myfyrwyr a’r bobl leol fel ei gilydd am fod yn lle rhyfeddol ac unigryw braidd! Rydym yn gymuned o wahanol gymeriadau diddorol, ac mae hyn yn creu argraff hoffus ar y bobl sy'n ymweld â'r dref.

Yn unol ag ysbryd unigryw Aberystwyth, beth am wneud rhywbeth ychydig yn wahanol i’ch helpu i ymgartrefu yma - fel dringo Consti, efallai?  

Mae cyrraedd brig y Graig Glais yn un o’r campau y bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr wedi llwyddo i’w wneud erbyn diwedd eu hamser yma.  Os nad ydych wedi’ch arfer â thirwedd fryniog ein tref lan-môr ac na theimlwch yn barod i fynd ati i gerdded i fyny’r bryn eto, mae dewis arall ar gael, sef mynd ar Reilffordd y Clogwyn. Bydd yn rhaid i chi dalu, ond bydd yn eich arbed chi rhag chwysu!

O ben y Graig Glais, gallwch dynnu lluniau hardd o’r golygfeydd syfrdanol dros y dref - darlun da i'w anfon gartref at eich teulu. Mae caffi ac ali fowlio hefyd ar ben y bryn os ydych chi am ymlacio ychydig gyda'ch ffrindiau cyn i chi ddod yn ôl i lawr. 

Y Drudwy yn Heidio

Hyd yn oed os nad ydych chi'n dwlu ar wylio adar, byddwch chi eisiau gweld y drudwy (neu ‘adar yr eira’) yn Aberystwyth! Maent fel arfer yn ymddangos o amgylch y pier a'r prom fin nos, yn enwedig rhwng Tachwedd a Chwefror, ac mae eu heidiau anhygoel yn yr awyr yn olygfa mae’n rhaid i chi ei gweld – yn dipyn gwell na’r gangiau o wylanod hollbresennol sy’n gwylio pawb sy'n cario bwyd, yn barod i drio ei fachu.  

Y Castell 

Mae'r castell yn lle gwych i fynd os oes gennych ddiddordeb mewn hanes neu os ydych yn mwynhau segura mewn cestyll sydd wedi'u difrodi (diolch, Oliver Cromwell). Mae'n arbennig o dda gyda’r nos os hoffech chi wrando ar gerddoriaeth y Pier ond ddim yn hoffi bod y tu mewn.

Gŵyl Gomedi Aber 

Rhwng 4 a 6 Hydref 2024, bydd Canolfan y Celfyddydau yn cynnal Gŵyl Gomedi Aberystwyth, gan gynnig ystod eang o ddigrifwyr i chi ddod i’w gweld gyda'ch cyd-letywyr neu’ch ffrindiau newydd.

Bydd angen i chi brynu tocynnau, ond bydd yn werth ei wneud gan nad yw'r sioeau hyn yn dod i Aber yn aml iawn. 

Os hoffech fynd, cofiwch edrych ar y wefan a phrynu'ch tocynnau yno: https://abercomedyfest.co.uk/cy/hafan/

Digwyddiadau Undeb y Myfyrwyr  

Undeb y Myfyrwyr yw'r lle gorau i fynd am ddigwyddiadau yn ystod yr Wythnos Groeso ac yn ystod y flwyddyn. Fel arfer, mae sêl ‘fesul cilo’ ar y campws, os ydych chi am brynu rhywbeth neis ar gyfer eich cwpwrdd dillad - mae'n ddefnyddiol i’r rhai sydd ar gyllideb  dynn fel myfyrwyr gan eich bod chi'n talu am eitemau ar sail eu pwysau, ac felly gallwch siopa'n rhad os dewiswch eitemau ysgafn.

Mae’r Undeb hefyd yn cynnal partïon drwy gydol y flwyddyn. Bydd angen i chi brynu tocynnau ar gyfer rhai o'r digwyddiadau hyn, ond ddim pob un; felly cofiwch edrych ar wefan yr Undeb: https://www.abersu.co.uk/ents.  Byddwch yn wyliadwrus am sgamiau neu gwmnïau sy'n ceisio gwerthu tocynnau ar gyfer digwyddiadau nad ydynt yn cael eu hyrwyddo trwy sianeli swyddogol yr Undeb.

Mae llawer i'w wneud o gwmpas Aber, felly ewch allan a chael cip o gwmpas i weld a oes rhywbeth sy’n ennyn eich ffansi; ac efallai byddwch chi hefyd yn gwneud ffrind newydd neu ddau! 

Oni nodir yn wahanol, barn yr awdur yw’r safbwyntiau sydd yn y blogiau hyn ac nid ydynt o reidrwydd yn cynrychioli barn Prifysgol Aberystwyth.