Digwyddiadau Croeso Gwyddor Milfeddygol

Croeso i Ysgol Gwyddor Milfeddygol Aberystwyth
Rydym yn falch iawn y byddwch chi’n ymuno â ni yn Ysgol Gwyddor Milfeddygol Aberystwyth ym mis Medi. Mae ein Adran wedi ei lleoli yn y Ganolfan Addysg Milfeddygaeth a gallwch ddod o hyd i ni yma.
Bydd Wythnos Groeso i’r milfeddygon yn dechrau ddydd Llun 16eg o Fedi, lle bydd amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau wedi'u trefnu sydd wedi'u cynllunio i'ch cyflwyno chi i Aberystwyth a'ch gyrfa ddewisol fel Milfeddyg. Bydd y rhain hefyd yn cynnwys rhai gweithgareddau cymdeithasol i'ch galluogi i ddod i adnabod myfyrwyr eraill a staff.
Mae gennym lawer o ddigwyddiadau eraill wedi eu trefnu ar gyfer Wythnos y Glas a byddwch yn gallu gweld amserlen llawn yr adran o ddechrau mis Medi yma.
Allwn ni ddim aros i'ch croesawu chi i Aberystwyth! Bydd rhagor o wybodaeth am CroesoAber 2025 ar gael yma yn fuan. Cadwch lygad am yr holl wybodaeth ddefnyddiol i'ch helpu i baratoi ar gyfer bywyd gyda ni fel myfyriwr newydd yn Aber!
-
Ysgol Gwyddor Filfeddygol - Ein Holl Digwyddiadau Croeso
Darganfod mwy -
Ysgol Gwyddor Filfeddygol - Ein Holl Digwyddiadau Croeso
Tabl o'n holl ddigwyddiadau
Darganfod mwy -
Ysgol Gwyddor Filfeddygol - Digwyddiadau Croeso i Fyfyrwyr Israddedig
Darganfod mwy -
Ysgol Gwyddor Filfeddygol - Digwyddiadau Croeso i Fyfyrwyr Israddedig
Tabl o'r Digwyddiadau Croeso i Fyfyrwyr Israddedig
Darganfod mwy