Digwyddiadau Croeso yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu

Myfyrwyr TFTS yn Ffilmio

Croeso i'r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu

Rydym yn falch iawn y byddwch chi’n ymuno â ni yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ym mis Medi. Mae ein Adran wedi ei lleoli yn Adeilad Parry Williams a gallwch ddod o hyd i ni yma.

Cynhelir ein cyfarfod croeso cyntaf ar ddydd Llun, 23 Medi am 10yb yng nghyntedd Adeilad Parry-Williams, pan fyddwch yn cwrdd â’ch Tiwtor Personol. Yna, bydd cyfarfod Croeso i’n holl myfyrwyr blwyddyn gyntaf rhwng 11yb a 1yp yn A12, Adeilad Hugh Owen. Dyma fydd y cyntaf o nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau a gynhelir yn ystod yr Wythnos Groeso sydd wedi eu cynllunio i'ch helpu i setlo, gwneud ffrindiau ac addasu i fywyd yn yr Adran. Rydym yn eich cynghori'n gryf i fynychu’r holl ddigwyddiadau yn ystod yr Wythnos Groeso. Dyma le byddwch yn dysgu am strwythur eich cynllun gradd, cwrdd â’ch Tiwtor Personol a'ch Cynorthwyydd Cymheiriaid, a staff allweddol yr Adran.

Byddwch yn gallu gweld amserlen llawn yr adran o ddechrau mis Medi yma.