Digwyddiadau Croeso Adran y Gwyddorau Bywyd

Myfyrwyr ar waith maes

Croeso i Adran y Gwyddorau Bywyd

Rydym yn falch iawn y byddwch chi’n ymuno â ni yn Adran y Gwyddorau Bywyd ym mis Medi. Mae ein Adran wedi ei lleoli yn Adeilad Gwendolen Rees a gallwch ddod o hyd i ni yma.

Er mwyn eich helpu i ymgartrefu a dod i adnabod eich cyd-myfyrwyr a staff, rydym wedi trefnu sgyrsiau croeso Adrannol a chynllun gradd ar gyfer bore dydd Llun, 23 Medi. Byddwch yn cwrdd â chydlynydd eich cynllun gradd a'ch tiwtor personol ac yna'n ymuno â ni ar gyfer cinio pizza Adran y Gwyddorau Bywyd. Rydyn ni yma i'ch helpu, felly mae croeso i chi ofyn unrhyw beth i ni. Os na allwn ni eich helpu’n uniongyrchol, gallwn eich cyfeirio at rywun fydd yn gallu eich helpu.

Mae gennym lawer o ddigwyddiadau eraill wedi eu trefnu ar gyfer Wythnos y Glas a byddwch yn gallu gweld amserlen llawn yr adran yma cyn hir.