Digwyddiadau Croeso Adran y Gyfraith a Throseddeg

Myfyrwyr tu allan Llyfrgell Hugh Owen

Croeso i Adran y Gyfraith a Throseddeg

Rydym yn falch iawn y byddwch chi’n ymuno â ni yn Adran y Gyfraith a Throseddeg ym mis Medi. Mae ein Adran wedi ei lleoli yn Adeilad Hugh Owen a gallwch ddod o hyd i ni yma.

Bydd yr adran yn cynnal gweithgareddau a digwyddiadau yn ystod yr Wythnos Groeso, gan gynnwys sgwrs a chinio croeso, cwis tafarn a thaith gerdded ar hyd y prom i 'gicio'r bar' (traddodiad yn Aberystwyth). Mae'r gweithgareddau hyn wedi'u cynllunio i'ch helpu i ymgartrefu, gwneud ffrindiau ac addasu i fywyd yn rhan o'ch adran.

Byddwch yn gallu gweld amserlen llawn yr adran o ddechrau mis Medi yma.

Allwn ni ddim aros i'ch croesawu chi i Aberystwyth! Bydd rhagor o wybodaeth am CroesoAber 2025 ar gael yma yn fuan. Cadwch lygad am yr holl wybodaeth ddefnyddiol i'ch helpu i baratoi ar gyfer bywyd gyda ni fel myfyriwr newydd yn Aber!