Digwyddiadau Croeso yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol

Myfyrwyr Gwleidyddiaeth Rhyngwladol

Croeso i'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol

Rydym yn falch iawn y byddwch chi’n ymuno â ni yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym mis Medi. Mae ein Adran wedi ei lleoli yn Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol a gallwch ddod o hyd i ni yma.

Ar ddydd Llun, 23ain o Fedi, byddwn yn cynnal brecwast croeso i fyfyrwyr sy’n siarad Cymraeg am 10am yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Yno, bydd cyfarfod croeso ar gyfer pob myfyriwr newydd am 11am, hefyd yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Mae’r ddau ddigwyddiad hyn yn rhan o gyfres o weithgareddau sydd wedi’u cynllunio i’ch helpu chi i ymgartrefu, gwneud ffrindiau, ac addasu i fywyd fel aelod o’r adran. Rydym yn annog myfyrwyr newydd yn gryf i fynychu’r holl weithgareddau hynny sydd wedi’u trefnu gan yr adran neu adrannau academaidd yn ystod yr wythnos groeso gan eu bod wedi’u cynllunio i’ch helpu i ddysgu am strwythur y cwrs rydych wedi’i ddewis a’r ystod o gyfleoedd sydd ar gael i chi yma yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol a thu hwnt, gan gynnwys astudio drwy’r Gymraeg ac ysgoloriaethau i wneud hynny.

Byddwch yn gallu gweld amserlen llawn yr adran o ddechrau mis Medi yma.