Digwyddiadau Croeso yr Adran Hanes a Hanes Cymru

Myfyrwyr yn edrych ar lyfr

Croeso i'r Adran Hanes a Hanes Cymru

Rydym yn falch iawn y byddwch chi’n ymuno â ni yn yr Adran Hanes a Hanes Cymru ym mis Medi. Mae ein Adran wedi ei lleoli yn yr Adeilad Hanes a Gwleidyddiaeth Ryngwladol a gallwch ddod o hyd i ni yma.

Yn ystod yr Wythnos Groeso, byddwn yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau croesawu yn yr Adran Hanes a Hanes Cymru a fydd yn eich helpu i ymgartrefu ym mhob maes o fywyd prifysgol. Bydd y digwyddiadau hyn yn eich cyflwyno i'ch cwrs, yn eich galluogi i ddod i adnabod aelodau o staff yn yr adran, ac, yn bwysicaf oll, yn rhoi cyfleoedd i chi gwrdd â'ch cyd-fyfyrwyr Hanes. Bydd mynychu'r digwyddiadau hyn hefyd yn eich ymgyfarwyddo â lleoliad corfforol yr Adran ac yn eich helpu i deimlo'n gartrefol yn yr Adran Hanes a Hanes Cymru.

Byddwch yn gallu gweld amserlen llawn yr adran o ddechrau mis Medi yma.