Digwyddiadau Croeso y Ganolfan Addysg Gofal Iechyd

Myfyrwyr yn y Ganolfan Addysg Gofal Iechyd

Croeso i'r Ganolfan Addysg Gofal Iechyd

Rydym yn falch iawn y byddwch chi’n ymuno â ni yn yr Adran Addysg Gofal Iechyd ym mis Medi. Mae ein Adran wedi ei lleoli yma.

Rydym yn falch iawn o'chroesawu i'r Adran Addysg Gofal Iechyd ar gyfer eich diwrnod cyntaf ddydd Llun, 2 Medi am 10am. Bydd eich sesiwn gynefino yn Adeilad Gwendolen Rees, yn narlithfa GR1.31. Bydd arwyddion yn cael eu harddangos i ddangos y ffordd, felly peidiwch â phoeni. Rydym yn annog pob myfyriwr yn gryf i fynychu'r holl weithgareddau cynefino academaidd sy'n digwydd yn ystod yr Wythnos Groeso.  Mae'r gweithgareddau hyn wedi'u cynllunio i'ch helpu i ddysgu am strwythur y cwrs a'r cyfleoedd sydd ar gael i chi.   

Mae gennym lawer o ddigwyddiadau eraill wedi eu trefnu ar gyfer Wythnos y Glas a byddwch yn gallu gweld amserlen llawn yr adran yma cyn hir.