Digwyddiadau Croeso yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol

Myfyriwr gyda llyfr

Croeso i'r Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol

Rydym yn falch iawn y byddwch chi’n ymuno â ni yn yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym mis Medi. Mae ein Adran wedi ei lleoli yn Adeilad Hugh Owen a gallwch ddod o hyd i ni yma.

Rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â chi yn ein sesiwn Ymsefydlu ar y 23ain o Fedi yn ystafell HO-A14 (11.00 i 12:30) ar gyfer ein holl fyfyrwyr blwyddyn gyntaf, lle cewch yr holl wybodaeth y bydd ei hangen arnoch i ddechrau’r cwrs a chael sgwrs gyda'r Pennaeth Ysgol, yr Athro Louise Marshall, ein Llyfrgellydd pwnc Joy Cadwallader ac eraill.

Mae gennym lawer o ddigwyddiadau eraill wedi eu trefnu ar gyfer Wythnos y Glas a byddwch yn gallu gweld amserlen llawn yr adran o ddechrau mis Medi yma.

Allwn ni ddim aros i'ch croesawu chi i Aberystwyth! Bydd rhagor o wybodaeth am CroesoAber 2025 ar gael yma yn fuan. Cadwch lygad am yr holl wybodaeth ddefnyddiol i'ch helpu i baratoi ar gyfer bywyd gyda ni fel myfyriwr newydd yn Aber!