Digwyddiadau Croeso yr Adran Astudiaethau Gwybodaeth

Myfyrwyr yn cerdded ar lwybr

Croeso i'r Adran Astudiaethau Gwybodaeth

Rydym yn falch iawn y byddwch chi’n ymuno â ni yn yr Adran Astudiaethau Gwybodaeth ym mis Medi. Mae ein Adran wedi ei lleoli yn P5 a gallwch ddod o hyd i ni yma.

Bydd staff yn yr Adran Astudiaethau Gwybodaeth yn croesawu'r holl fyfyrwyr newydd ddydd Mercher, 25 Medi ym Medrus Mawr rhwng 11am ac 1pm. Dyma gyfle i gwrdd â phawb sy'n dechrau ar eich cwrs mewn Treftadaeth Ddiwylliannol yn ogystal ag eraill sy'n cychwyn ar raddau Meistr a PhD. Gwahoddir yr holl fyfyrwyr (gan gynnwys myfyrwyr yr ail a'r drydedd flwyddyn ar eich cynllun gradd) a staff i ginio bwffe ar ôl hynny.

Mae gennym lawer o ddigwyddiadau eraill wedi eu trefnu ar gyfer Wythnos y Glas a byddwch yn gallu gweld amserlen llawn yr adran yma cyn hir.

Allwn ni ddim aros i'ch croesawu chi i Aberystwyth! Bydd rhagor o wybodaeth am CroesoAber 2025 ar gael yma yn fuan. Cadwch lygad am yr holl wybodaeth ddefnyddiol i'ch helpu i baratoi ar gyfer bywyd gyda ni fel myfyriwr newydd yn Aber!