Digwyddiadau Croeso Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd

Myfyrwyr yn cerdded tu allan i'r Adeilad Parry-Williams

Croeso i Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd

Rydym yn falch iawn y byddwch chi’n ymuno â ni yn yr Adran Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym mis Medi. Mae ein Adran wedi ei lleoli yn Adeilad Parry Williams a gallwch ddod o hyd i ni yma.

Yma yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, ry’n ni’n edrych ymlaen at eich croesawu i gymuned addysgol arloesol sydd wedi bod yn darparu addysg o’r radd flaenaf ers 150 o flynyddoedd. Heddiw fel erioed, mae’r Adran yn arwain y sector ac yn cyfrannu’n llawn at fywyd diwylliannol y genedl. Mae’n wych o beth y byddi eleni’n dod yn rhan o’r gymuned honno.

Mae gennym lawer o ddigwyddiadau eraill wedi eu trefnu ar gyfer Wythnos y Glas a byddwch yn gallu gweld amserlen llawn yr adran o ddechrau mis Medi yma.

Allwn ni ddim aros i'ch croesawu chi i Aberystwyth! Bydd rhagor o wybodaeth am CroesoAber 2025 ar gael yma yn fuan. Cadwch lygad am yr holl wybodaeth ddefnyddiol i'ch helpu i baratoi ar gyfer bywyd gyda ni fel myfyriwr newydd yn Aber!