Dy Adran Academaidd
Mae eich Adran Academaidd methu aros i'ch croesawu.
Darganfyddwch yma am ble i fynd, gweithgareddau a digwyddiadau sydd wedi'u cynllunio i dy helpu i ymgartrefu, gwneud ffrindiau ac addasu i fywyd yn rhan o'ch adran newydd.
Bydd cyfleoedd yn ystod yr wythnos a thu hwnt i ddod i adnabod eich tiwtoriaid personol, a dysgu mwy am sut mae eich adran wedi ymrwymo i gefnogi eich llwyddiant academaidd a'ch datblygiad proffesiynol o'r cychwyn cyntaf.
Busnes
Rydym yn falch iawn y byddwch chi’n ymuno â ni yn Ysgol Fusnes Aberystwyth ym mis Ionawr. Mae ein Adran wedi ei lleoli yn Adeilad Hugh Owen a gallwch ddod o hyd i ni yma.
Bydd eich cyfarfod cyntaf gydag Ysgol Fusnes Aberystwyth ddydd Mawrth, 21 Ionawr am 14.00 yn narlithfa HO -C22, sydd yn adeilad Hugh Owen. Byddwch yn cael eich gyflwyno i fyfyrwyr eraill sy'n astudio eich gradd, a'r staff a fydd yn eich dysgu.
Byddwch yn gallu gweld amserlen llawn yr adran o ddechrau mis Ionawr yma.
Cyfrifiadureg
Rydym yn falch iawn y byddwch chi’n ymuno â ni yn yr Adran Cyfrifiadureg ym mis Ionawr. Mae ein Adran wedi ei lleoli yn Adeilad Llandinam a gallwch ddod o hyd i ni yma.
Mae gennym weithgareddau wedi'u cynllunio ar eich cyfer yn yr Adran Cyfrifiadureg i'ch helpu i ymgartrefu’n dda, gwneud ffrindiau ac addasu i fywyd fel myfyriwr Cyfrifiadureg. Rydym yn annog pob myfyriwr yn gryf i fynychu'r holl weithgareddau cynefino academaidd a gynhelir yn ystod yr wythnos groeso gan eu bod wedi’u cynllunio i helpu myfyrwyr i ddysgu am strwythur y cwrs a'r cyfleoedd sydd ar gael, cwrdd â'u tiwtor personol a’r staff allweddol eraill yn yr Adran Cyfrifiadureg.
Byddwch yn gallu gweld amserlen llawn yr adran o ddechrau mis Ionawr yma.