Ganolfan Gynadleddau Medrus
Croeso i ganolfan gynadleddau Medrus, wedi'i lleoli ar lawr 1af Penbryn ar gampws Penglais.
Gyda chyfres o 5 ystafell ddigwyddiadau llawn cyfarpar sy'n addas ar gyfer eich holl anghenion ym mha bynnag arddull a chynllun sydd eu hangen ar gyfer eich digwyddiad. Mae ein mannau hyblyg yn cynnig amrywiaeth o opsiynau ar gyfer gosod yr ystafell o theatr, ystafell ddosbarth, ystafell gyfarfod, prydau ffurfiol a phriodasau, cabaret, arddangosfeydd a derbyniadau diodydd
Cynigir offer clyweledol, a siartiau troi ym mhob ystafell yn ogystal â wifi cyflym anghyfyngedig am ddim i bob gwestai. Mae modd cyrraedd yr holl ystafelloedd mewn cadair olwyn. Mae nifer cyfyngedig o leoedd parcio wedi'u cadw ar gais a pharcio am ddim ar y campws ar gyfer yr holl gynadleddwyr.
Oes gennych chi ofynion arlwyo? Gellir darparu lluniaeth a bwffe ym mhob ystafell i gyd-fynd â’ch gofynion.
Darperir ar gyfer pob alergen a gofynion dietegol. Bwydlen Cynadledda a Danfon 2025. Bwydlen Gwleddoedd a Rhestr Gwin 2025
Map Cynllun Medrus
Cyfraddau llogi ystafell
Ystafell |
Lle i faint o bobl sydd yn yr Ystafell |
Cyfradd am y Dydd |
Cyfradd am Hanner Diwrnod |
Prif Ystafell Medrus |
200 |
£425.00 |
£275.00 |
Medrus 1 |
60 |
£220.00 |
£150.00 |
Medrus 2 (Ystafell Gyfarfod) |
12 |
£100.00 |
£75.00 |
Medrus 3 |
60 |
£220.00 |
£150.00 |
Medrus 4 |
60 |
£220.00 |
£150.00 |
Mae’r holl brisiau’n eithrio TAW
Ar gyfer ymholiadau, e-bostiwch cynadleddau@aber.ac.uk neu ffoniwch 01970621960 neu gallwch ddefnyddio ein ffurflen ymholiad. Ar gyfer pob archeb fewnol cysylltwch â’r swyddfa gynadleddau yn uniongyrchol.