Astudiaethau Milfeddygol
Mae’r cwrs gradd Gwyddor Milfeddygaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth, a ddysgir ar y cyd â’r Coleg Milfeddygaeth Brenhinol, wedi’i gynllunio i hyfforddi myfyrwyr i adnabod afiechydon anifeiliaid, trin yr afiechydon yn feddygol a llawfeddygol, ac atal afiechydon, a hynny'n cynnwys anifeiliaid anwes, anifeiliaid fferm a sŵ, a cheffylau.
Pam astudio Gwyddor Milfeddygaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth?
- Yng Nghymru, rydym yn arweinwyr mewn meysydd cysylltiedig â milfeddygaeth, ac mae gennym enw da iawn am ymchwil ac addysgu ym maes iechyd anifeiliaid.
- Ein Canolfan Addysg Filfeddygol yw'r cyntaf o'i bath yng Nghymru a ni yw'r unig Brifysgol yng Nghymru sy'n cynnig gradd mewn Gwyddor Milfeddygaeth.
- Cynigir y radd mewn partneriaeth â'r Coleg Milfeddygaeth Brenhinol, yr ysgol filfeddygol annibynnol fwyaf a hynaf yn y Deyrnas Unedig, sy’n aelod-sefydliad o Brifysgol Llundain.
- Cynlluniwyd ein rhaglen radd i ateb y galw cynyddol am weithwyr cymwys i weithio mewn milfeddygfeydd cymysg gwledig.