Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff
Mae Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn canolbwyntio ar y ffactorau gwyddonol sy'n dylanwadu ar chwaraeon ac ymarfer corff gyda'r bwriad o sicrhau'r perfformiad a'r dygnwch gorau bosib a'r lleihau'r perygl o anaf.
Trwy gyfuno disgyblaethau fel ffisioleg, seicoleg a biomecaneg, byddwch yn dysgu sut i gefnogi athletwyr, hyrwyddo gweithgaredd corfforol ac iechyd a chyflwyno rhaglenni ymarfer corff. Ar yr un pryd byddwch yn dysgu sgiliau ymchwil, dadansoddi data, yn ogystal â sgiliau personol a chyflogadwyedd gwerthfawr.
Pam astudio Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Mhrifysgol Aberystwyth?
- Byddwch yn ymchwilio i sut mae'r corff dynol yn symud, yn ymarfer ac yn perfformio chwaraeon.
- Byddwch yn archwilio gwyddorau biomecaneg, ffisioleg a seicoleg mewn modd integredig gan ddefnyddio enghreifftiau o'r byd go iawn.
- Byddwch yn dysgu sut i sicrhau'r perfformiad gorau gan athletwr unigol neu dîm.
- Byddwch yn datblygu eich dealltwriaeth o'r ffyrdd y gellir gwella iechyd a lles cyffredinol trwy wneud ymarfer corff.
- Mae amrywiaeth eang o chwaraeon yn cael eu cynnig yn y brifysgol, sy'n rhoi cyfle i chi ddatblygu eich sgiliau cefnogi athletwyr.