Cymdeithaseg
Drwy ganolbwyntio ar batrymau ymddygiad dynol, y cysylltiadau cymdeithasol a ffurfir gan bobl a'r cymdeithasau a'r diwylliannau ehangach y maent yn byw ynddynt, mae cymdeithasegwyr yn ceisio deall strwythurau cymdeithasol ac anghydraddoldebau a sut mae pobl yn gweithredu o fewn y cyd-destunau hyn. Trwy ystyried materion cyfoes megis oedran, anabledd, mewnfudo, iechyd, y wladwriaeth les, ethnigrwydd, rhywioldeb a rhywedd, a thrwy fabwysiadu safbwyntiau damcaniaethol a seiliedig ar dystiolaeth er mwyn dadansoddi cymdeithas, gall cymdeithasegwyr beri newid trawsnewidiol sy’n creu gwell byd i bawb.
Cyrsiau
Cymdeithaseg
Cyrsiau Israddedig
Cyrsiau Ôl-raddedig
Pam astudio Cymdeithaseg ym Mhrifysgol Aberystwyth?
- Rydym yn rhoi pwyslais ar werth ac arwyddocâd hyfforddiant ar ddulliau ymchwil ym maes Cymdeithaseg, gyda goruchwyliaeth ymarferol dros ddulliau ymchwil ac wythnos ddwys o gasglu data dan oruchwyliaeth ym mlwyddyn dau.
- Rydym yn integreiddio safbwyntiau mwy cymhwysol i'r addysgu a wnawn ar faterion cyfoes allweddol lle gellir rhoi damcaniaeth gymdeithasegol ar waith mewn modd a fydd ag arwyddocâd yn y byd go iawn (ac, wrth wneud hynny, helpu gyda chyflogadwyedd ein graddedigion Cymdeithaseg).
- Rydym yn defnyddio ein cryfderau ymchwil ac yn sicrhau bod myfyrwyr yn agored i ddealltwriaethau damcaniaethol ac empirig arloesol a ddadansoddir trwy lens gymdeithasegol.