Marchnata a Thwristiaeth
Mae gyrfa ym maes Marchnata yn ddewis dynamig ac egnïol, a'r maes ei hun yn llawn arloesi, creadigrwydd a gwneud penderfyniadau "greddfol" ar sail data. Bydd y rhan fwyaf o weithwyr proffesiynol sydd ar ddechrau eu gyrfa ym maes marchnata yn tueddu i fynd i faes marchnata digidol, ac, yn Aberystwyth, rydym yn sicrhau ein bod yn rhoi ichi'r sgiliau digidol a thraddodiadol hanfodol sydd eu hangen er mwyn gallu cynnig gwerth i gwmnïau o'ch diwrnod cyntaf fel gweithiwr proffesiynol.
Twristiaeth yw un o’r diwydiannau sy’n tyfu gyflymaf ac un o’r mwyaf cyffrous drwy’r byd. O atyniadau twristaidd a chyrchfannau i ddarparwyr gweithgareddau a threfnwyr teithiau, mae twristiaeth yn golygu mwy na mynd ar wyliau’n unig. Nod ein graddau twristiaeth yw sicrhau eich bod yn cael y sgiliau academaidd a phroffesiynol sydd eu hangen i ymgymryd ag amrywiol rolau rheoli yn y sector.
Pam astudio Marchnata a Thwristiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth?
- Mae Prifysgol Aberystwyth hefyd yn Ganolfan Porth Graddedigion y CIM, sy'n golygu y gallwch astudio am gymhwyster y CIM wrth i chi astudio am radd, neu gael hepgor rhai elfennau o fodiwlau'r CIM yn y dyfodol.
- Cewch eich dysgu gan ymarferwyr o'r diwydiant ac academyddion profiadol sy'n ymwybodol o'r union alw - a'r galw mawr - am raddedigion yn y pwnc hwn, sy'n fedrus o ran yr agweddau technegol a'u dealltwriaeth o'r farchnad.
- Byddwch hefyd yn cael eich dysgu gan unigolion sy'n ymchwilio ar hyn o bryd, gan sicrhau eich bod yn cael eich cyflwyno i'r damcaniaethau a'r wybodaeth ddiweddaraf yn y maes.
- Mae ein graddau wedi’u hachredu, sy’n golygu eu bod yn diwallu anghenion y diwydiant twristiaeth.
- Cewch eich addysgu gan ddarlithwyr sy’n ymchwilwyr gweithredol ac ymarferwyr arbenigol yn eu dewis feysydd.
- Byddwch hefyd yn derbyn cyngor arbenigol gan siaradwyr gwadd sy’n flaenllaw yn y diwydiant ac sy’n dod â’u profiad proffesiynol i’r ystafell ddosbarth.
- A hithau’n gyrchfan i dwristiaid, mae Aberystwyth, a Chymru’n fwy cyffredinol, yn cynnig cyfle amhrisiadwy i astudio twristiaeth glan môr a gwledig yn ymarferol ac o fewn y cyd-destun cenedlaethol a rhyngwladol ehangach.
- Rydym ni’n cynnig teithiau maes i gyrchfannau twristaidd yn y DU er mwyn i chi gael dysgu am dwristiaeth ar waith.